大象传媒

Caernarfon drwodd i rownd nesaf Cyngres Europa

Caernarfon yn dathlu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewyr Caernarfon yn dathlu sgorio yn erbyn Crusaders nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae Caernarfon drwodd i ail rownd ragbrofol Cyngres Europa wedi iddyn nhw drechu Crusaders yn Belfast, ond roedd angen ciciau o'r smotyn i setlo'r g锚m.

Y t卯m cartref oedd yn fuddugol wedi'r 90 munud gyntaf, o dair g么l i un, ond roedd angen amser ychwanegol gan fod y sg么r dros ddau gymal yn 3-3.

Ni lwyddodd yr un o'r ddau d卯m i ychwanegu goliau yn y cyfnod ychwanegol hwnnw a phan ddaeth hi i'r ciciau o'r smotyn roedd y pwysau i gyd ar y t卯m o Gymru gan taw'r Crusaders gafodd gicio yn gyntaf.

Ond ergydiad Marc Williams oedd y gwahaniaeth yn y pen draw, sy'n golygu bod ymgyrch Ewropeaidd Caernarfon yn parhau.

Roedd y faintais gyda'r Canaries wrth iddyn nhw deithio i Ogledd Iwerddon wedi iddyn nhw drechu'r gwrthwynebwyr 2-0 yn y cymal cyntaf yn Stadiwm Nantporth, Bangor.

Aeth y Cofis ar y blaen unwaith eto - a'i gwneud hi'n 3-0 ar gyfanswm goliau - wedi 24 munud gyda g么l gan Paolo Mendes.

Ond fe darodd y t卯m cartref yn 么l ym munudau cyntaf yr ail hanner wedi i Ben Kennedy (46) a Daniel Marmour (49) rwydo.

Fe sgoriodd Philip Lowry drydedd g么l i'r Crusaders wedi 72 o funudau, ond cyfartal ar gyfanswm goliau oedd y ddau d卯m wedi dwy awr o chwarae.

Yn y ciciau o'r smotyn, roedd saith ergyd gyntaf y ddau d卯m yn llwyddiannus, gyda Danny Gossett, Paulo Mendes, Morgan Owen, Zack Clarke, Josef Faux, Stephen McMullan a Sam Downey yn rhwydo i Gaernarfon.

Yna fe gafodd wythfed ergydiad Crusaders ei harbed - fel y cafodd ymgais Gruffydd John i'r Cofis.

Cic Jordan Owens i'r t卯m cartref oedd y gyntaf i fynd heibio'r postyn - ond fe darodd Marc Williams yn gywir i'w gwneud hi'n 8-7 i'r ymwelwyr.

Mae Caernarfon eisoes yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn yr ail rownd ragbrofol, sef Legia Warsaw o Wlad Pwyl.

Nos Fawrth fe lwyddodd y Seintiau Newydd i gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn dilyn buddugoliaeth dros ddau gymal yn erbyn FK De膷i膰 o Montenegro.