大象传媒

Euro 2025: Cymru ar frig eu gr诺p a Fishlock yn creu hanes

Jess FishlockFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jess Fishlock bellach wedi sgorio 45 o goliau mewn 154 o gemau i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae t卯m merched Cymru wedi gorffen ar frig eu gr诺p rhagbrofol ar gyfer Euro 2025 ar noson hanesyddol i Jess Fishlock.

Yr ymosodwr sgoriodd y g么l agoriadol nos Fawrth - g么l rhif 45 dros ei gwlad - wrth i Gymru drechu Kosovo 2-0 ym Mharc y Scarlets.

Fishlock bellach sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau, a sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes p锚l-droed Cymru.

Roedd sawl rheswm i ddathlu yn Llanelli nos Fawrth, gan fod y fuddugoliaeth hefyd yn golygu y bydd carfan Rhian Wilkinson yn dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Ond bydd rhaid mynd heibio dwy rownd arall cyn iddyn nhw fod yn si诺r o'u lle yn y rowndiau terfynol.

Ffynhonnell y llun, CBDC

Aeth Cymru ar y blaen wedi saith munud yn unig wrth i Carrie Jones daro'r b锚l i gyfeiriad Fishlock ar ymyl y cwrt wedi rhediad pwerus drwy ganol cae.

Roedd gan Fishlock amser i wthio'r b锚l i'w throed dde cyn ei tharo yn bwerus i gornel isa'r rhwyd.

Gyda Chymru yn llwyr reoli'r meddiant, daeth ail g么l wedi 26 o funudau.

Bron i Fishlock sgorio ei hail ar 么l manteisio ar gamgymeriad gan amddiffynwyr Kosovo, ond fe darodd ei hergyd y postyn pellaf ac fe adlamodd y b锚l i gyfeiriad Mary McAteer - a lwyddodd i ergydio'n bwerus i gefn y rhwyd.

Dyma oedd ei g么l gyntaf i'r t卯m cenedlaethol.

Parhau i ymosod wnaeth Cymru ar ddechrau'r ail hanner, gyda Fishlock yn achosi problemau i amddiffynwyr yr ymwelwyr unwaith eto.

Ond arafu gwnaeth y momentwm hwnnw, a thyfu mewn i'r g锚m wnaeth Kosovo.

Fe wnaeth Ereleta Memeti fethu cyfle euraidd i haneru mantais y t卯m cartref gyda hanner awr yn weddill

Er i'r ymwelwyr fygwth mwy yng nghyfnod ola'r g锚m - prin iawn oedd y cyfleoedd gafodd eu creu, a doedd Cymru erioed mewn peryg gwirioneddol o ildio'r fantais.