Arestio trydydd dyn yn dilyn anrhefn wedi g锚m b锚l-droed
- Cyhoeddwyd
Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad 芒 digwyddiad treisgar ar 么l g锚m b锚l-droed yng Nghaerdydd.
Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn ddifrifol yn dilyn g锚m yn erbyn Llanrumney Athletic, tra bod cerbyd hefyd wedi cael ei ddifrodi.
Yn 么l Heddlu De Cymru, fe gafon nhw eu galw i ddigwyddiad y tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol ychydig ar 么l 16:00 ar ddydd Sadwrn 12 Hydref.
Cafodd dyn 19 oed o ardal Llanrhymni ei arestio ym Maes Awyr Bryste fore Llun ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymholiadau yn parhau.
Mae dau ddyn eisoes wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o anrhefn treisgar mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.
Yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Benjamin Dean, 28 oed o ardal Trowbridge, a Ryan Rees 22 oed o Lanrhymni, wadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Yn y gwrandawiad hwnnw fe glywodd y llys bod dau berson arall oedd dan amheuaeth gan yr heddlu "wedi ffoi i Sbaen".
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu 芒 nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd14 Hydref