Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Cyfnod gwaethaf erioed fel cantores' wrth wynebu torri swyddi
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
鈥淗eb os dyma鈥檙 cyfnod gwaethaf erioed dwi wedi鈥檌 brofi fel cantores,鈥 meddai aelod o gwmni opera sy'n wynebu dyfodol ansicr.
Mae Sian Meinir wedi bod yn aelod o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) ers 21 mlynedd.
Dywedodd bod "nifer ohonom methu cysgu gyda'r nos yn pryderu am ein dyfodol yn sgil y bygythiad i gael gwared 芒 10 aelod o'r corws".
Mae'r cwmni'n wynebu dyfodol ariannol ansicr wrth iddyn nhw dderbyn 35% yn llai o arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, ac 11.8% yn llai gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dydd Mawrth yw'r diwrnod olaf i aelodau o'r corws wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.
Dywedodd WNO eu bod yn parhau i drafod, ac yn "edrych ar yr holl opsiynau".
'Dyw pobl ddim yn cysgu'
鈥淩y'n ni wedi brwydro yn erbyn mynd yn rhan amser, ond oherwydd y diffyg arian mae鈥檙 cwmni nawr yn torri swyddi. Felly fe fyddwn ni鈥檔 mynd lawr o 30 i 20,鈥 medd Sian Meinir.
鈥淏ydd y cwmni鈥檔 gweld ddydd Mawrth sawl un fydd wedi gwneud cais am VE [voluntary exit] ond does neb ohonom yn gwybod sut bydd hynny鈥檔 gweithio o ran cydbwysedd lleisiau.
"Mae鈥檙 ofn wedyn yn real y bydd diswyddiadau gorfodol yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Ond ry'n ni鈥檔 ddiolchgar am gefnogaeth ein hundeb Equity ac yn gwerthfawrogi eu bod nhw鈥檔 sicrhau bod y trafodaethau gyda鈥檙 cwmni yn parhau.
鈥淢ae鈥檔 gyfnod tywyll iawn. Ry'n ni鈥檔 cario 'mlaen i berfformio wrth gwrs ond mae鈥檙 morale o fewn y cwmni cyfan yn isel iawn.
鈥淢ae hyn i gyd yn effeithio ar iechyd meddwl aelodau鈥檙 corws - mae鈥檔 amser gwirioneddol anodd.
鈥淩yn ni鈥檔 gweithio mor agos gyda鈥檔 gilydd - canu, actio, dawnsio, anadlu gyda鈥檔 gilydd - mae hi wedyn yn golled fawr i golli 10.
鈥淧an ddechreues i yn 2003 roedd 'na 40 ohonom ni a ma鈥檙 rhif wedi mynd lawr i 30 gyda threiglad y blynyddoedd wrth i鈥檙 cwmni beidio llenwi swyddi y rhai sydd wedi gadael.
鈥淢ae canu fel ensemble o 20 yn ei gwneud hi鈥檔 anodd i greu sain grymus ac angerddol fel ry'n ni鈥檔 arfer 芒 gwneud.鈥
Dywed Opera Cenedlaethol Cymru eu bod yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau a'u bod wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau'r corws, ond maen nhw'n pwysleisio realiti y sefyllfa ariannol "yn dilyn toriadau sylweddol i鈥檔 cyllid cyhoeddus".
Ychwanegodd Sian Meinir: "'Nes i ddychwelyd o ganu yn Nh欧 Opera Covent Garden i Gymru i ganu gyda鈥檙 Corws yn 2003 oherwydd fy mod i鈥檔 dymuno byw a gweithio yng Nghymru.
鈥淵n y corws, mae 'na rai gyda morgeisi, teuluoedd 芒 phlant bach; nifer hefyd yn ganol oed sydd ddim eto鈥檔 barod i ymddeol.
鈥淧eth anodd yw dargyfeirio i yrfa arall - ac hefyd mae angen cydnabod mai cantorion proffesiynol ydyn ni sydd wedi hyfforddi am flynyddoedd i gyrraedd safon uchel.
鈥'Dan ni鈥檔 gweithio ar lefel arbenigol ac mae鈥檙 sgiliau anghenrheidiol yn benodol ac ar lefel rhyngwladol.鈥
Wythnos diwethaf dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Dafydd Rhys, y byddai sector proffesiynol y celfyddydau yn "diflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y celfyddydau yn "hanfodol" i Gymru yn economaidd ac yn gymdeithasol ac maen nhw'n dweud na ddylai'r heriau ariannol presennol gyfyngu ar yr uchelgeisiau hirdymor ar gyfer y sector.
Ym mis Medi fe roddodd y llywodraeth 拢1.5m yn ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi sefydliadau celfyddydol.
鈥淵n amlwg yr hyn dwi鈥檔 alw amdano yw mwy o nawdd gan Lywodraeth Cymru a San Steffan hefyd," meddai Sian Meinir.
鈥淢ae cyllid OCC wedi cael ei dorri鈥檔 sylweddol", meddai, gan alw arnom "fel cenedl weld ein bod ni鈥檔 rhoi Cymru ar y map".
"Yr hyn sy'n ddychryn yw bod yr amserlen yn sydyn iawn - mae cytundeb y 10 sy'n colli eu swyddi yn dod i ben ddiwedd Rhagfyr. Mae'r cyfan yn gymaint o wewyr meddwl.
鈥淏ydde鈥檔 braf pe bae鈥檙 llywodraeth yn sylweddoli gwerth y celfyddydau yn gyffredinol a sut mae ein cynhyrchiadau yn gallu effeithio鈥檔 gadarnhaol ar bobl.
"Fe gawson ni ymateb arbennig gan y cyhoedd ac adolygiadau gwych yn y papurau wedi ein perfformiadau yn Southampton yr wythnos ddiwethaf.
鈥淎r ddiwedd pob perfformiad wrth i鈥檙 gynulleidfa gymeradwyo ry'n ni鈥檔 gwisgo crysau-T Equity yn gofyn am gefnogaeth ac yn sefyll tu allan i鈥檙 theatr yn rhannu pamffledi cyn y sioe. Mae pawb wedi bod mor gefnogol."
'Trafodaethau agored a thryloyw'
Dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru: "Rydym yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag Equity sy鈥檔 cynrychioli aelodau o gorws y WNO ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau ein corws tra hefyd yn cydnabod realiti y sefyllfa ariannol wedi toriadau sylweddol i鈥檔 cyllid cyhoeddus.
"Er na fyddai鈥檔 briodol i ni wneud sylw ar fanylion y trafodaethau hyn, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau a fydd yn sicrhau corws llawn amser ac ry'n yn cytuno ag Equity fod hynny yn hanfodol i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru."