Darlow wedi'i gynnwys yng ngharfan gyntaf Bellamy

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw Karl Darlow ddim yn ddewis cyntaf i Leeds yn y Bencampwriaeth

Mae Craig Bellamy wedi cynnwys g么l-geidwad Leeds United, Karl Darlow, yn ei garfan gyntaf fel rheolwr newydd Cymru.

Mae Darlow, 33 o Northampton, wedi'i gynnwys gyda Danny Ward ac Adam Davies fel y tri g么l-geidwad yn y garfan.

Does dim lle felly i Wayne Hennessey, sydd heb glwb ac wedi'i anafu, na Tom King o Wolves.

Mae Darlow wedi bod yn darged i Gymdeithas B锚l-droed Cymru ers peth amser, ond mae wedi gwrthod y cyfle i gynrychioli Cymru ddwywaith yn y gorffennol - yn 2013 a 2018.

Mae Darlow yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei dad-cu Ken Leek, enillodd 15 cap i Gymru yn y 60au.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Aaron Ramsey yn parhau'n gapten, meddai Bellamy

Cadarnhaodd Bellamy yn y gynhadledd i'r wasg y byddai Aaron Ramsey yn parhau fel capten, gan ddweud nad yw'n gweld rheswm tynnu'r cyfrifoldeb hwnnw oddi arno "am y tro".

Pwysleisiodd hefyd fod sawl arweinydd yn y garfan, a'i fod yn hoff o weld "gr诺p o arweinwyr - gr诺p o gapteiniaid".

"Dwi'n gwybod mai Aaron yw'r capten efallai, ond dwi'n gweld nifer o gapteiniaid a bod yn onest," meddai.

Bydd Cymru'n herio Twrci yng Nghaerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, 6 Medi, cyn i'r garfan deithio i Montenegro ar gyfer g锚m oddi cartref y nos Lun ganlynol.

Rhain fydd gemau cyntaf Bellamy fel rheolwr, wedi iddo olynu Rob Page ym mis Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r garfan gyntaf i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru

Mae un chwaraewr arall sydd eto i ennill cap yn y garfan hefyd - yr amddiffynnwr Owen Beck, sydd newydd ymuno 芒 Blackburn Rovers ar fenthyg o Lerpwl.

Does dim lle yn y garfan i Joe Morrell, sydd heb glwb ar y funud, ond mae Ollie Cooper o Abertawe, Mark Harris o Oxford United, a Sorba Thomas - sydd ar fenthyg o Huddersfield yn Nantes - yn dychwelyd.

Mae Wes Burns a Nathan Broadhead o Ipswich, a David Brooks o Bournemouth yn absennol oherwydd anafiadau.

Dyw amddiffynwr Coventry, Jay Dasilva, ddim wedi'i gynnwys chwaith, na chwaraewyr fel Tom Lawrence, Dylan Levitt a Tom Bradshaw.

Mae Lewis Koumas, sydd ar fenthyg yn Stoke o Lerpwl, yn cadw ei le, ond does dim lle i nifer o chwaraewyr ifanc eraill oedd yng ngharfan olaf Page - Rubin Colwill, Fin Stevens, Joe Low, Charlie Crew, Charlie Savage a Matt Baker.

Mae nifer o'r rheiny yn debygol o gael eu galw i'r t卯m dan-21 pan fydd Matty Jones yn cyhoeddi ei garfan ddydd Iau.

Y garfan yn llawn

骋么濒-驳别颈诲飞补颈诲: Danny Ward (Caerl欧r), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United)

Amddiffynnwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), Owen Beck (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Lerpwl), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley)

Canol cae: Jordan James (Rennes), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Aaron Ramsey (Caerdydd), Ollie Cooper (Abertawe), Sorba Thomas (Nantes, ar fenthyg o Huddersfield)

Ymosodwyr: Kieffer Moore (Sheffield United), Lewis Koumas (Stoke, ar fenthyg o Lerpwl), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Harry Wilson (Fulham), Daniel James (Leeds United), Mark Harris (Oxford United), Liam Cullen (Abertawe), Rabbi Matondo (Rangers)