Carcharu dyn am ddallu dioddefwr mewn ymosodiad hylif cyrydol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a daflodd hylif cyrydol ar wyneb dyn arall wrth ei rybuddio i gadw draw oddi wrth ei gariad wedi鈥檌 garcharu.
Ymosododd Jivan Dean, 24, ar Raven Riley, 21, yn ardal 鈥楾ipi Valley鈥 ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin ar 14 Awst.
Clywodd Llys y Goron Abertawe nad yw golwg Mr Riley wedi dychwelyd, a bod ganddo greithiau ar ei ben, ei wyneb, ei wddf a'i frest.
Fe blediodd Dean yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a hefyd o achosi i rywbeth peryglus neu wenwynig ddod i gyswllt 芒 rhywun, gyda鈥檙 bwriad o losgi.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod yr ymosodiad yn 鈥渨eithred oer, bwriadol a chreulon鈥, gan garcharu Dean am 15 mlynedd. Bydd hefyd ar drwydded am bedair blynedd ar 么l ei ryddhau.
'Wedi difetha fy mywyd'
Clywodd y llys gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Carina Hughes, fod Mr Riley yn ymweld 芒 ffrind yn yr ardal pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Eglurodd Ms Hughes fod Dean wedi dod i鈥檙 t欧 gyda bag y diwrnod hwnnw a鈥檌 fod yn ymddwyn yn anarferol, cyn mynd i鈥檙 gegin a phoethi 鈥渄诺r a phowdr gwyn鈥 mewn padell.
Yna cerddodd Dean i mewn i鈥檙 ystafell lle鈥檙 oedd Mr Riley yn eistedd a thaflu鈥檙 hylif poeth tuag ato, o ryw bedair neu bum troedfedd, cyn dweud, "cadwa draw oddi wrth fy nghariad".
鈥淒oedd hynny ddim yn golygu dim i Raven Riley,鈥 meddai Ms Hughes, gan esbonio mai dim ond unwaith yr oedd wedi cwrdd 芒 chariad y diffynnydd.
Roedd yn 鈥渢eimlo鈥檔 syth ei fod yn llosgi鈥, dywedodd y bargyfreithiwr, ac aeth Mr Riley allan o鈥檙 t欧, gan sgrechian: "Help, help, mae鈥檔 llosgi. Alla鈥 i ddim gweld."
鈥淩oedd mewn sioc ofnadwy, roedd ei gorff yn crynu.鈥
Roedd y sylwedd sodiwm hydrocsid wedi llosgi鈥檙 gadair a鈥檙 lledr yn toddi, clywodd y llys.
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd19 Awst
Cafodd Mr Riley gymorth ac aeth i'r ysbyty lle cafodd driniaeth ar gyfer llosgiadau cemegol difrifol.
Mewn datganiad a ddarllenodd ei fargyfreithiwr ar ei ran, dywedodd Mr Riley ym mis Hydref fod ei 鈥渇ywyd mewn limbo鈥 yn dilyn yr ymosodiad ddeufis yn 么l.
鈥淢ae fy ngallu i fod yn annibynnol wedi ei gymryd oddi arnaf, yn greulon. Dwi ddim teimlo'n ddiogel mwyach.
"Dyw fy ngolwg ddim wedi dychwelyd. Mae gen i olion llosg a chreithiau o hyd.
鈥淣i fydd ef [Dean] byth yn gwybod faint o boen y mae wedi鈥檌 achosi i fi a fy nheulu. Mae wedi difetha fy mywyd.鈥
Cafodd Dean ei arestio deuddydd yn ddiweddarach yn ardal Llanelli, ac roedd profion a gafodd eu cynnal ar ei ddillad yn dangos olion sodiwm hydrocsid, sef y sylwedd a gafodd ei ddefnyddio i ymosod ar Mr Riley.
Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Richard Ace, fod Dean yn 鈥渁naeddfed鈥 ac nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau ar 么l cael ei addysgu gartref.
Roedd yn derbyn y byddai鈥檙 ddedfryd yn 鈥渟ylweddol鈥 ond awgrymodd y dylid ystyried 鈥渄iffyg hanes troseddol鈥 y diffynnydd.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod ffeithiau鈥檙 achos yn 鈥渨irioneddol ysgytwol鈥.
鈥淔e ddaethoch chi 芒 sodiwm hydrocsid, gan fwriadu ei ddefnyddio ar wyneb eich dioddefwr,鈥 meddai wrth Dean.
鈥淵r argraff rydw i鈥檔 ei gael yw eich bod chi wedi鈥檆h plesio鈥 na fyddai unrhyw bartner byth eisiau edrych arno eto.
鈥淢ae鈥檙 malais yn mynd y tu hwnt i ddirnadaeth. Dydych chi ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch o gwbl am yr hyn a wnaethoch.鈥
Dedfrydodd Dean i 15 mlynedd o garchar, yna pedair blynedd ar drwydded, a rhoddwyd gorchymyn atal gydol oes iddo rhag cysylltu 芒 Mr Riley.
Dywedodd Craig Harding o Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru fod ymosodiad Dean yn gwbl 鈥渄dideimlad鈥.
鈥淩ydym yn gobeithio y bydd adferiad Mr Riley yn parhau ac y gall gael cysur o wybod bod ei ymosodwr wedi鈥檌 roi o flaen ei well.鈥