大象传媒

Miloedd i elwa o ddeddf newydd sy'n gwella tegwch tipio

TipFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd, pan mae cwsmer yn ychwanegu tip at daliad cerdyn mae鈥檙 cwmni yn gallu dewis cadw鈥檙 arian

  • Cyhoeddwyd

Bydd miloedd o staff sy鈥檔 gweithio mewn llefydd fel bwytai a siopau trin gwallt ar draws Cymru yn elwa o ddeddf newydd fydd yn sicrhau eu bod yn derbyn pob tip sy鈥檔 cael ei roi gan gwsmeriaid am wasanaeth da.

Ar hyn o bryd, pan mae cwsmer yn ychwanegu tip at daliad cerdyn mae鈥檙 cwmni yn gallu dewis i gadw鈥檙 arian yn hytrach na鈥檌 drosglwyddo i staff.

Mae tip arian parod yn eiddo i鈥檙 staff yn syth.

Yn 2021 dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod 80% o鈥檙 holl dipio bellach yn digwydd gyda cherdyn, gan awgrymu fod hyn wedi鈥檌 gwneud hi鈥檔 haws i fusnesau gadw鈥檙 arian.

Bydd deddf newydd 鈥 fydd yn dod i rym yn yr hydref 鈥 yn ei gwneud hi鈥檔 anghyfreithlon i fusnesau beidio pasio'r tipiau ymlaen i鈥檞 staff.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y darlithydd busnes, Dr Robert Bowen, fe allai鈥檙 ddeddf fod yn hwb i鈥檙 sector lletygarwch

Mae disgwyl i filoedd o bobl yng Nghymru elwa o鈥檙 newid, a dros ddwy filiwn o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn 么l Dr Robert Bowen 鈥 darlithydd busnes ym Mhrifysgol Caerdydd 鈥 fe allai鈥檙 newid fod yn hwb i鈥檙 sector lletygarwch.

鈥淢ae tua 拢200m yn mynd i gael eu dyrannu allan mewn tipiau - dyna beth mae鈥檙 ymchwil yn dangos gan y llywodraeth - felly mae hwnna yn swm eitha' sylweddol.

"Wi鈥檔 credu y peth mwyaf pwysig yw bod y bobl sy鈥檔 gweithio yn y swyddi sydd yn derbyn tipiau, fel yn y diwydiant lletygarwch er enghraifft, mae hyn yn mynd i roi mwy o sicrwydd iddyn nhw.

"Ers Covid mae swyddi fel hyn wedi bod yn llai deniadol i rai pobl, felly mae cael mwy o arian trwy tipiau yn mynd i roi mwy o hwb i bobl weithio yn y diwydiant.鈥

'Gwella tegwch i weithwyr'

O dan y drefn newydd fe fydd cod ymddygiad ar dipio teg a thryloyw yn dod yn weithredol 鈥 bydd hyn yn rhoi鈥檙 hawl i weithwyr weld polisi tipio eu cyflogwr a chofnod o faint o dipiau sy鈥檔 cael eu rhoi.

Hefyd, fe fydd y cod ymddygiad yn statudol a bydd modd i staff ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth.

Mae鈥檙 cod yn berthnasol i Gymru, Lloegr a鈥檙 Alban ac mae鈥檔 dod o fewn cwmpas y Ddeddf Cyflogaeth (Dyrannu Tipiau) 2023.

Mae disgwyl i鈥檙 ddeddf a鈥檙 cod ddod i rym ar 1 Hydref.

Yn 么l y cod ymarfer, amcan y ddeddf newydd yw 鈥済wella tegwch i weithwyr trwy sicrhau bod y tipiau y mae cwsmeriaid yn gadael i gydnabod gwasanaeth da a gwaith caled yn mynd at y gweithwyr fel y bwriadwyd".

"Nod y ddeddf yw cynyddu tegwch mewn arferion tipio a chreu chwarae teg i gyflogwyr sydd eisoes yn dyrannu pob tip i weithwyr drwy sicrhau bod pob cyflogwr yn dilyn yr un rheolau.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Evans, rheolwr a chyd-berchennog bwyty Baravin, yn synnu bod yn rhaid cyflwyno deddf o'r fath

Mae bwyty Baravin ar bromen芒d Aberystwyth yn derbyn taliadau trwy gerdyn yn unig 鈥 mae cwsmeriaid yn gallu ychwanegu tip wrth dalu, ac mae gan y busnes system sy鈥檔 rhannu tips rhwng y staff ar ddiwedd bob mis.

Dywedodd Gareth Evans, rheolwr a chyd-berchennog y bwyty: 鈥淣i wastod wedi gwneud yr un peth 鈥 mae鈥檙 tips i gyd yn mynd mewn i un pot, ac mae hwnna yn cael ei rannu mas rhwng yr holl staff, o flaen y t欧 a鈥檙 cefn.

"Mae鈥檔 cael ei rannu mas gan ddibynnu ar faint o oriau mae staff wedi gweithio.

鈥淚 ni, pan mae taliad o gerdyn yn mynd trwy鈥檙 til mae botwm ar wah芒n [ar gyfer tip] felly mae鈥檔 cael ei logio ar wah芒n i鈥檔 sales ni ar gyfer bwyd a diod.

"Ar ddiwedd y mis, ni鈥檔 cyfri' hynny i gyd lan ac mae鈥檔 cael ei rannu mas.鈥

Ychwanegodd Mr Evans ei fod wedi clywed am rai busnesau sy鈥檔 cadw tips ac yn synnu bod angen deddf i atal hynny.

鈥淒wi鈥檔 meddwl ei bod hi鈥檔 anhygoel bod rhaid i hyn fod yn rheol ac yn gyfraith 鈥 mae unrhyw fusnes sy鈥檔 cadw arian bant o鈥檌 staff, mae鈥檔 hollol annheg, a dwi ddim yn meddwl y dylai unrhyw un allu gwneud hynny.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tipio yn helpu annog pobl i weithio鈥檔 dda, meddai Amber Blair

Mae Amber Blair wedi gweithio yn y bwyty ers 2021, gan wneud shifftiau rhan amser fel arfer, ond bob dydd dros wyliau鈥檙 haf.

Dywedodd hi bod y tips yn bwysig iddi hi: 鈥淢ae鈥檔 rili bwysig i helpu i annog pobl i weithio鈥檔 dda ac mae鈥檔 helpu鈥檙 wage hefyd.

"Yn ystod yr haf ni鈥檔 gallu cael 拢50 [mewn tips] am y mis, sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth mawr.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyfan Havard yn gefnogol o'r ddeddf newydd

Ar y stryd yn Aberystwyth roedd pobl yn gefnogol i鈥檙 newid i鈥檙 ddeddf ac yn awyddus i weld staff yn derbyn y tips yn llwyr.

Dywedodd Dyfan Havard ei fod yn rhoi tip os yw'n teimlo bod staff wedi gwneud gwaith da.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod y newid i鈥檙 rheolau yn dda. Sai鈥檔 deall pam dylai鈥檙 cwmn茂au gadw fe 鈥 wi鈥檔 teimlo bod yr unigolyn wedi haeddu fe, maen nhw wedi gweithio鈥檔 galed a felly dylen nhw gadw fe.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Haf ap Robert a Joe Mitchell

Mae gan Haf ap Robert a鈥檌 g诺r Joe Mitchell blant sydd wedi gweithio yn y sector lletygarwch.

Dywedodd Haf: 鈥淢ae鈥檙 plant wedi dod adre a chyfeirio at faint o dips maen nhw wedi cael, a dwi鈥檔 gwybod pa mor bwysig yw e.

"A dwi鈥檔 cofio fy hun pa mor bwysig oedd cael tips, felly dw i鈥檔 trio tipio bob tro dwi鈥檔 cael pryd o fwyd allan.鈥

Ychwanegodd Joe bod Haf yn fwy hael na fe wrth "roi cildwrn bach", gan ddweud hefyd: 鈥淐yn belled bod y staff yn gwybod hefyd bod pawb i fod cael yr un driniaeth ynde.

"Bod nhw ddim yn rhoi triniaeth arbennig dim ond i rywun sy鈥檔 tipio鈥檔 dda!鈥

Pynciau cysylltiedig