Plant yn mynnu ymddiheuriad am driniaeth bocsiwr du

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd tras Carib茂aidd Cuthbert Taylor yn golygu ei fod wedi'i wahardd rhag cystadlu am deitl bocsio proffesiynol

Mae cannoedd o blant Cymru wedi ysgrifennu at Fwrdd Rheoli Bocsio Prydain yn mynnu ymddiheuriad ar 么l gwylio drama sy'n adrodd hanes bocsiwr du o Ferthyr Tudful.

Mae The Fight yn adrodd hanes sut y cafodd Cuthbert Taylor ei rwystro rhag cystadlu am deitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen.

Dywedodd y cynhyrchwyr eu bod wedi'u syfrdanu gan ymateb angerddol y plant a鈥檙 bobl ifanc fu鈥檔 ei wylio.

Mae nifer o鈥檙 ysgolion nawr wedi lansio ymgyrch yn mynnu ymddiheuriad ffurfiol gan gorff llywodraethu鈥檙 gamp - y BBBoC.

Dywedodd y BBBoC eu bod yn condemnio'r gwaharddiad ar sail hil oedd mewn lle rhwng 1911 a 1948, ond na fyddan nhw'n ymddiheuro "am benderfyniadau cyn-aelodau鈥檙 bwrdd".

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Cuthbert Taylor yrfa broffesiynol lwyddiannus rhwng 1928 a 1947, gyda 151 buddugoliaeth, 22 gornest gyfartal a 69 colled

Mae mwy na 300 o blant o 13 o ysgolion wedi anfon llythyrau ac e-byst hyd yma at y BBBoC yn galw am ymddiheuriad ffurfiol am sut y cafodd Taylor ei drin.

Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan wleidyddion Cymreig gan gynnwys y gweinidog diwylliant, Jack Sargeant.

Mae鈥檙 ymateb wedi syfrdanu Theatr na n脫g, sy'n llwyfannu'r ddrama.

鈥淢ae鈥檙 plant wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i ysgrifennu, maen nhw 'di teimlo mor gryf 芒 hynny!" meddai awdures y ddrama Geinor Styles.

Rheol 'dau riant gwyn' yn ei rwystro

Er i Taylor gystadlu fel bocsiwr pwysau plu i Brydain yng Ngemau Olympaidd 1928, ni chyflawnodd ei botensial yn llwyr oherwydd y gwaharddiad hil.

Roedd y rheol, oedd mewn grym o 1911 i 1948, yn dweud fod yn rhaid i focswyr gael 鈥渄au riant gwyn鈥 i gystadlu am deitlau Prydeinig.

Fe gafodd Taylor ei eni ym 1909 ym Merthyr Tudful, i dad o dras Carib茂aidd a mam Gymreig gwyn, ac yn sgil hynny, ni chafodd ymladd am deitl.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Roedd Geinor Styles, awdures y ddrama ac yn enedigol o Ferthyr, yn teimlo bod stori Cuthbert Taylor yn un bwysig i'w hadrodd

Penderfynodd pobl ifanc o ysgolion ar draws y de alw am ymddiheuriad ar 么l gwylio Theatr na n脫g o Gastell-nedd yn ailadrodd stori Taylor ar lwyfan.

Mae'r ymateb wedi syfrdanu Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr Na n脫g ac awdures y ddrama.

鈥淣i wastad wedi gwneud sioeau sydd gyda straeon gwahanol. Ni鈥檔 trio cael plant i feddwl yn ehangach ... ond mae hyn really wedi鈥檔 syfrdanu ni," meddai.

鈥淢ae鈥檙 plant wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i ysgrifennu, maen nhw 'di teimlo mor gryf 芒 hynny - dyna be' mae鈥檙 athrawon wedi dweud wrthon ni.

鈥淒yw e ddim fel rhan o鈥檙 cwricwlwm yn hynny o beth, ddim yn rhan o鈥檙 prosiect i gael nhw i ysgrifennu; maen nhw jyst wedi gweld y ddrama, gweld bod 'na anghydraddoldeb gyda鈥檙 peth a just wedi mynd ati i sgwennu鈥檙 llythyrau.

鈥淏eth dwi鈥檔 meddwl sy鈥檔 syfrdanu鈥檙 plant yw bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd ond does dim ymddiheuriad."

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis, Athena Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Yr actor Simeon Desvignes sy'n chwarae r么l Cuthbert Taylor yn y ddrama lwyfan

Ymhlith yr ysgolion sydd wedi ysgrifennu at y bwrdd mae disgyblion Ysgol Gymraeg Santes Tudful ym Merthyr, wedi iddyn nhw fynd i weld y ddrama fis diwethaf.

Yn 么l Elin Jones athrawes blwyddyn 5 yn yr ysgol: "Mae'r ddrama wedi cael effaith arbennig ar y plant - wedi taro adre oherwydd bod Cuthbert Taylor yn dod o Ferthyr.

"Maen nhw mor angerddol am yr anghyfiawnder ac mae gyda ni dros 100 o lythyron sydd am gael eu danfon at y bwrdd bocsio - gobeithio erbyn diwedd yr wythnos."

Dywedodd ei bod yn credu i'r ddrama gael cymaint o effaith ar y disgyblion am ei fod yn "arwr lleol" oedd wedi cael ei drin mor amlwg yn annheg.

"Mi oedd yn ddyn o Ferthyr - arwr lleol - a doedd y plant methu credu sut o'dd e wedi cael ei drin," meddai Ms Jones.

"Mae'n anodd i ddeall pam bysa'r anghyfiawnder yma'n bodoli a bod dim ymddiheuriad wedi dod."

Mae disgyblion o ysgolion eraill wedi ysgrifennu hefyd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg y Cwm yn Bon-y-Maen, Abertawe, Ysgol Cwm-nedd, Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, Port Talbot, Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes yn Aberhonddu, ac mae nifer yr ysgolion yn parhau i dyfu.

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis, Athena Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgol Cwm-nedd yn un o'r rheiny a gafodd eu hysbrydoli gan y ddrama

Mae The Fight wedi cael ei pherfformio i fwy na 4,600 o blant yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe, ac erbyn hyn yn cael ei llwyfannu yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Er i Geinor Styles gael ei magu ym Merthyr Tudful, fel Cuthbert Taylor, doedd hi heb glywed s么n amdano.

鈥淒wi鈥檔 dod o Ferthyr, ac ro鈥檔 i鈥檔 t欧 Mam pan roedd hi鈥檔 clirio allan hen luniau o鈥檙 ysgol ac roedd 'na lun o鈥檌 dosbarth hi, pan roedd hi鈥檔 tyfu fyny ym Merthyr," meddai.

"Yn y llun dosbarth, roedd 'na ferch fach ddu, ac roedd hynny鈥檔 rywbeth reit anghyfarwydd ym Merthyr ar y pryd, ro鈥檔 i鈥檔 teimlo.

"Fe ofynnais i Mam 鈥榦edd y ferch 'ma yn cael ei bwlio yn yr ysgol?鈥

"A wedodd Mam 鈥榥a, oherwydd roedd hi鈥檔 perthyn i Cuthbert Taylor鈥, ac o鈥檔 i鈥檔 meddwl 鈥榩wy yw Cuthbert Taylor?鈥"

Roedd Geinor yn teimlo bod stori Taylor yn un oedd angen cael ei chlywed.

鈥淔el rhywun sy' 'di tyfu fyny ym Merthyr, dwi鈥檔 really ymwybodol o鈥檔 paffwyr 鈥 Howard Winstone, Eddie Thomas, Johnny Owen.

"Ond o鈥檔 i 'rioed 'di clywed am Cuthbert, so pan wedodd Mam wrtha i鈥檙 stori, bod e 'di cael ei wrthod mynd am deitl, o鈥檔 i鈥檔 meddwl bod hi鈥檔 stori wych i blant a phobl ifanc glywed.

鈥淢ae鈥檔 stori sydd ddim yn gyfarwydd ond fe ddylse fod yn gyfarwydd.

"Mae 'na loads o statues ym Merthyr o baffwyr enwog a does dim un o Cuthbert, a dwi鈥檔 meddwl bod e鈥檔 haeddu鈥檌 le hefyd.鈥

Brwydro am ymddiheuriad ers blynyddoedd

Mae teulu Cuthbert Taylor wedi bod yn brwydro am fwy o gydnabyddiaeth i鈥檙 paffiwr ers blynyddoedd, ac wedi bod yn galw am ymddiheuriad ar ei ran.

Yn 2021 cafodd cofeb i Taylor, fu farw ym 1977, ei ddadorchuddio yn Nh欧鈥檙 Cwrt ym Merthyr Tudful, lle roedd Taylor yn arfer hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae'r plac yn dweud bod Taylor wedi cael ei rwystro yn sgil lliw ei groen

Mae Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain (BBBoC) wedi ymateb gan ddweud eu bod 鈥測n gwbl ymwybodol o'r ddrama... a'r effaith ddofn a gafodd ar ddisgyblion ysgol gynradd鈥 a鈥檜 bod 鈥渉efyd yn ymwybodol o鈥檙 ymgyrch gan deulu Cuthbert Taylor sy鈥檔 galw am ymddiheuriad".

Maen nhw鈥檔 dweud fod bocsio yn un o鈥檙 鈥渃hwaraeon mwyaf amrywiol a chynhwysol鈥 yn y DU ac yn cydnabod bod y gwaharddiad ar sail hil yn anghywir, ond yn gwrthod ymddiheuro.

鈥淲rth gwrs, mae鈥檙 bwrdd yn cydnabod bod gweithredu鈥檙 鈥榞waharddiad lliw鈥 yn wahaniaethol, ac mae鈥檙 bwrdd yn derbyn bod hyn yn anghywir," meddai llefarydd.

"Yn wir, mae Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain yn condemnio鈥檔 gryf y gwaharddiad lliw a oedd yn bodoli ym myd bocsio proffesiynol rhwng 1911 a 1948.鈥

Ychwanegodd: "Mae鈥檙 awgrym o ddal y Bwrdd Rheoli Bocsio Prydeinig presennol yn gyfrifol am benderfyniadau cyn-aelodau鈥檙 bwrdd yn anfoddhaol iawn.

"Ein barn ni yw y dylai unrhyw ymddiheuriad i鈥檙 teulu Taylor ynghylch Cuthbert Taylor gael ei arwain gan y llywodraeth gan fod y 鈥榞waharddiad lliw鈥 wedi鈥檌 orfodi ar gais y llywodraeth (Swyddfa Gartref) ar y pryd.鈥