Oedi cynllun solar Môn wedi dros 500 o wrthwynebiadau

Disgrifiad o'r llun, Mae Môn eisoes yn gartref i sawl fferm solar, ond mae dau gynllun llawer iawn mwy wedi eu clustnodi ar gyfer yr ynys
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae penderfyniad ar gynllun solar dadleuol wedi ei atal er mwyn galluogi i ddatblygwyr ddarparu mwy o fanylion.

Byddai datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli yn cael eu gosod ger Llyn Alaw yng nghanol Ynys Môn, gan gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o gartrefi.

Yn ôl Enso Energy byddai'r cynllun 160MW yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion holl gartrefi'r ynys.

Ond mae Llywodraeth Cymru - fydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynllun - eisoes wedi derbyn dros 500 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Yn ôl arolygwyr cynllunio, mae'r broses o benderfynu bellach wedi ei atal am ryw chwe wythnos er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth gan y datblygwyr.

Gobaith swyddogion yw gallu ail-gychwyn y broses erbyn canol Rhagfyr.

'Priodol i atal y broses'

Gan orchuddio tua 662 acer o dir amaethyddol, byddai'r paneli yn cael eu codi mewn ardal wledig rhwng cymunedau Llantrisant, Carmel a Llannerch-y-Medd.

Byddai storfa batri hefyd yn cyflenwi'r grid cenedlaethol ar gyfnodau pan fo'r galw ar ei uchaf, gan gyfrannu tuag at yr ymdrechion yng Nghymru i ddad-garboneiddio.

Ond yn sgil gwrthwynebiadau i'r cynllun - gan gynnwys pryderon dros golli tir amaethyddol o safon a'r nifer cynyddol o ffermydd solar ar yr ynys - mae arolygwyr cynllunio ar ran Llywodraeth Cymru wedi penderfynu atal y broses am rai wythnosau.

Ffynhonnell y llun, Enso Energy

Disgrifiad o'r llun, Os caiff y cynllun Alaw Môn ei ganiatáu gan Lywodraeth Cymru byddai'r paneli yn cael eu codi i'r de o Lyn Alaw

Mewn llythyr i'r datblygwyr a phartïon eraill, dywedodd arolygwyr ei fod yn "briodol atal y broses penderfynu am gyfnod dros dro i ganiatáu amser i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol".

Mae'r manylion y mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno yn cynnwys materion yn ymwneud â thraffig, y perygl o lifogydd, a goblygiadau’r cynllun i gapasiti rhwydwaith y grid.

Cyn unrhyw benderfyniad bydd gwrandawiadau hefyd yn cael eu cynnal i ystyried goblygiadau unrhyw golled o dir amaethyddol a materion priffyrdd a llifogydd.

'Pwyso a mesur pryderon sylfaenol'

Wrth ymateb i'r penderfyniad, mewn datganiad ar y cyd dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru ac Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS a Llinos Medi AS, eu bod yn "croesawu'r" datblygiad.

"Mae'n ganlyniad o waith caled a pharodrwydd cymunedau Ynys Môn i ymgysylltu â'r broses gynllunio a mynegi eu pryderon.

"Roedd y nifer o ymatebion i'r ymgynghoriad - dros 500 o lythyrau unigol a anfonwyd i Lywodraeth Cymru – yn amlygu bod y pryderon ynghylch y prosiect hwn yn sylweddol, a bod y datblygiad arfaethedig yn annerbyniol."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llinos Medi a Rhun ap Iorwerth eu bod yn "croesawu'r" datblygiad

Dywedon nhw fod angen i'r datblygwyr "ddod yn ôl at y bwrdd i ddarparu mwy o wybodaeth".

"Rydym yn eu hannog i bwyso a mesur pryderon sylfaenol, megis yr effaith negyddol ar y sectorau amaethyddol a thwristiaeth, y risgiau y mae’n eu peri i ddiogelwch bwyd, a’r diffyg cyfleoedd economaidd a chyflogaeth yn lleol.

"Diolchwn i bawb a gyfrannodd at y broses ymgynghori - mae eich lleisiau chi wedi cael eu clywed."

Mae Enso Energy wedi derbyn cais i ymateb.

Mae datblygiad ar wahan gan gwmni arall, Lightsource BP, ar gyfer cynllun solar llawer mwy hefyd wedi derbyn gwrthwynebiad.

Byddai'r cynllun 350MW i'r gogledd a'r dwyrain o Lyn Alaw bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.

Ond tra hefyd yn mynd drwy'r broses gynllunio, mae ei faint yn golygu mai Llywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru na Chyngor Môn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.