Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyfarnwyr Caerdydd i weithredu wedi achosion o gam-drin
Mae gr诺p o ddyfarnwyr p锚l-droed llawr gwlad wedi dewis peidio 芒 chymryd rhan mewn gemau y penwythnos hwn mewn ymateb i achosion diweddar o gamdriniaeth.
Yn 么l Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd, maen nhw'n bwriadu tynnu eu gwasanaeth yn 么l yn sgil digwyddiad treisgar honedig mewn g锚m ddiweddar yn y brifddinas.
Mae'r gweithredu ar 2 a 3 Tachwedd yn debygol o effeithio ar gemau yng Nghynghreiriau Cardiff and District, Cardiff Combination a Lazarou Cardiff Sunday League.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y gymdeithas fod eu haelodau yn pryderu am nifer y gemau sy'n cael eu dirwyn i ben yn gynnar, yn ogystal ag ymosodiad honedig ar ddyfarnwr.
"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, mae'r gymdeithas wedi penderfynu gweithredu," meddai'r datganiad.
"Nid oes modd i'r ymddygiad yma ar, ac oddi ar, y cae barhau, a'r gobaith yw y bydd y gweithredu digynsail yma yn anfon neges glir."
CBDC 'yn monitro'r sefyllfa'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC): "Mae'r gymdeithas yn monitro'r sefyllfa ar 么l i Gymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd ryddhau datganiad yn s么n am eu bwriad i dynnu eu gwasanaeth yn 么l.
"Mae CBDC mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd a Chymdeithas B锚l-droed De Cymru yngl欧n 芒'r mater hwn.
"Dyw CBDC ddim yn goddef unrhyw ymddygiad sy'n dwyn anfri ar y g锚m, a dylai pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau p锚l-droed allu gwneud hynny yn ddiogel."
Ychwanegodd Cymdeithas B锚l-droed De Cymru eu bod yn "condemnio pob gweithred o drais ar y cae p锚l-droed" a'u bod yn "parhau i ymdrechu i gefnogi swyddogion a delio 芒 throseddau wrth iddynt ddigwydd".