大象传媒

Oes gobaith i Geraint Thomas yn y Giro d鈥橧talia?

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A welwn ni Geraint Thomas ar y podiwm ar ddiwedd y Giro d鈥橧talia yn 2024?

  • Cyhoeddwyd

Wedi iddo orffen yn ail y llynedd, bydd y Cymro o Gaerdydd Geraint Thomas yn gobeithio cymryd cam yn uwch ar bodiwm y Giro d鈥橧talia yn 2024.

Mae鈥檙 ras eleni yn dechrau yn Turin ac yn gorffen yn Rhufain dair wythnos a 3,321 o gilometrau yn ddiweddarach.

Mae鈥檙 cwrs eleni yn cynnwys chwe chymal sy鈥檔 gorffen ar gopa mynyddoedd, bron i 70 cilometr o rasio yn erbyn y cloc a hyd yn oed un cymal ar raean.

Ond pwy yw鈥檙 ffefrynnau i ennill y ras dair wythnos?

Tadej Pogacar

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Talent ryfeddol, yr etifedd i goron Eddy Merckx fel y beiciwr mwyaf amryddawn yn hanes y gamp.

Mae鈥檔 anodd cofio grand tour diweddar gyda ffefryn cliriach.

Does dim amheuaeth bod Pogacar, ar bapur, ben ac ysgwyddau鈥檔 gryfach na鈥檙 gweddill.

Mae鈥檙 Slofeniad wedi bod ar d芒n, yn ennill saith o鈥檙 10 ras iddo gystadlu ynddynt y tymor yma.

Er bod Jonas Vingegaard a haul crasboeth y Tour de France wedi tanlinellu ambell i wendid mewn blynyddoedd diweddar, mae absenoldeb Vingegaard - pencampwr y Tour 22/23 - a nifer o s锚r eraill a thywydd mwynach yr Eidal yn gweithio o鈥檌 blaid.

Sg么r: 5/5

Geraint Thomas

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Y gorau o鈥檙 gweddill.

Mewn gwirionedd byddai Thomas yn bum seren petai Pogacar ddim yn y ras.

Er nad yw wedi creu argraff y tymor yma a鈥檙 ffaith y bydd yn 38 erbyn cyrraedd Rhufain ddiwedd mis Mai, mae Thomas yn arbenigwr ar amseru ei baratoadau a mesur ei gyflwr ar gyfer y rasys mawr.

Mae鈥檙 ffaith bod dau gymal yn erbyn y cloc yn gweithio o鈥檌 blaid, ac mae ei d卯m cryf yn cynnwys cadfridogion megis Thymen Arnesman, a allai orffen ar y podiwm.

Ond mae鈥檔 si诺r bod Thomas fel pawb arall yn croesi ei fysedd am anffawd neu anlwc i Pogacar.

Sg么r: 3/5

Ben O鈥機onnor

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae鈥檙 Awstraliad yn mwynhau tymor llewyrchus wrth iddo orffen yn ail yn y Tour of the Alpes a鈥檙 UAE Tour.

Mae O鈥機onnor yn ddringwr o safon ac fe orffennodd yn y pedwerydd safle yn y Tour de France yn 2021.

Does dim amheuaeth bod ganddo鈥檙 gallu i orffen ar y podiwm mewn grand tour - mae鈥檙 Giro yma yn gyfle euraidd.

Sg么r: 2/5

Romain Bardet

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ffrancwr sydd wedi sefyll ar bodiwm y Tour ddwywaith.

Roedd yn ymddangos bod ei yrfa yn dirwyn i ben ond fe orffennodd yn ail yn ras undydd Li猫ge-Bastogne-Li猫ge fis diwethaf, sy鈥檔 arwydd ei fod mewn cyflwr da iawn.

Mae鈥檔 ddringwr cydnabyddedig ac yn ddisgynwr penigamp. Does dim modd ei ddiystyru.

Sg么r: 2/5

Yr Eidalwyr

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe orffenodd Damiano Caruso yn dryddydd y llynedd

Y Giro yw uchafbwynt y calendr i鈥檙 Eidalwyr ac mae yna draddodiad balch o鈥檜 beicwyr yn gor-berfformio yn y ras unigryw hon.

Fe orffennodd Damiano Caruso yn drydydd y llynedd ac mae鈥檙 g诺r 36 oed yn un i鈥檞 barchu yn y mynyddoedd.

Mae Antonio Tiberi, 21, hefyd wedi disgleirio mewn sawl ras yn barod y tymor yma

Sg么r: 1/5

Y gweddill

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Daniel Martinez yn llygadu鈥檙 dosbarthiad cyffredinol

Mae 鈥榥a siarad mawr am ddyfodol y beiciwr ifanc o Wlad Belg, Cian Uijtdebroeks, tra bod unigolion megis y Colombiad Daniel Martinez a鈥檙 Gwyddel Eddie Dunbar hefyd yn llygadu鈥檙 dosbarthiad cyffredinol.

Sg么r: 1/5

Pynciau cysylltiedig