Rhestrau aros iechyd ar eu huchaf erioed unwaith eto

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhestrau aros iechyd yng Nghymru wedi parhau i gynyddu am yr wythfed mis yn olynol - gan osod record newydd.

Roedd ychydig dros 801,300 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Medi, yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Digidol a Gofal Cymru.

Er hyn, mae'r rhai sy'n aros hiraf - dros ddwy flynedd - wedi gostwng.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles, a gyhoeddodd 拢22m yn ychwanegol er mwyn taclo'r broblem yn gynharach yn yr wythnos hon, ei fod yn gobeithio y bydd y "cynnydd cadarnhaol" yn parhau.

Ond mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi rhybuddio nad yw'r arian ychwanegol am ddatrys y broblem dros nos.

Roedd ychydig o welliant yn amseroedd ymateb ambiwlans yn y ffigyrau diweddaraf.

Ond roedd amseroedd aros unedau brys, y targed cleifion allanol a thriniaethau canser wedi gwaethygu.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Roedd 23,701 wedi bod ar restr aros am dros ddwy flynedd ym mis Medi - 492 yn llai nag ym mis Awst, pan fu pum mis yn olynol o gynnydd.

Roedd 169,262 wedi bod yn aros dros flwyddyn - 440 yn llai na'r mis blaenorol.

Ond mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ymhell ar y blaen i Gymru o ran taclo'r rhestrau aros hiraf ar 么l y pandemig, gyda dim ond 3.3% o'r holl gleifion yn gorfod aros blwyddyn neu fwy, o'i gymharu 芒 23.3% yng Nghymru.

Tra bod dros 23,000 yng Nghymru yn gorfod aros dros ddwy flynedd i gael eu trin, 113 yw'r ffigwr yn Lloegr.

Gan fod rhai cleifion ar fwy nag un rhestr aros, mae'n cael ei amcangyfrif bod 618,171 o unigolion yn aros - sy'n cyfateb 芒 phoblogaeth Caerdydd ac Abertawe wedi'u cyfuno.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Yn ystod Ymchwiliad Covid y DU ddydd Mercher, fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan ddweud fod lle mewn ysbytai yn broblem, ac mai dim ond 172 o welyau preifat ar draws Cymru y gellir eu defnyddio.

Dywedodd Mr Miles y byddai swm o 拢50m yn helpu i gynyddu lle mewn ysbytai, gan gynnwys o fewn y sector preifat.

鈥淩ydym yn cydnabod yr effaith y gall aros yn hir am driniaeth ei chael ar fywyd rhywun, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae gennym ffocws uniongyrchol ar leihau'r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal cleifion," meddai.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y ffigyrau'n dangos fod GIG Cymru wedi cyrraedd "pwynt o argyfwng".