Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhuddo'r llywodraeth o 'gamarwain' dros amserlen Pont y Borth
Mae pobl Ynys M么n wedi cael eu 鈥渃amarwain鈥 dros estyniad i amserlen y gwaith atgyweirio ar Bont y Borth, yn 么l AS yr ynys.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai dwy flynedd o waith atygyweirio Pont y Borth rhwng Gwynedd a'r ynys, a byddai dim disgwyl iddi ailagor yn llawn hyd nes Awst 2025.
Ond mae'r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi y bydd y gwaith wedi鈥檌 gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025.
Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi beirniadu'r oedi, gan ddweud y bydd yn golygu rhagor o darfu ar drigolion a busnesau lleol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw "hyd y rhaglen waith wedi newid", a'u bod wedi agor y bont dros dro dros y gaeaf i helpu busnesau.
Fe ddechreuodd y gwaith ym mis Medi 2023 ar 么l i鈥檙 bont 200 oed orfod cael ei chau yn ddirybudd fis Hydref 2022 oherwydd risgiau diogelwch "difrifol".
Ddechrau Tachwedd, fe gafodd Pont y Borth ei hailagor yn llawn ar 么l i gam cyntaf y gwaith gael ei gwblhau, sef newid pob un o鈥檙 168 o grogrodenni (hangers).
Ar y pryd roedd s么n y byddai oedi o bedwar mis tan Chwefror 2025 cyn dechrau ar ail ran y gwaith, ond mae Rhun ap Iorwerth yn dweud nad oedd yr oedi i'r dyddiad agor terfynol yn amlwg.
"Rwy'n siomedig o glywed bod y rhaglen waith i atgyweirio Pont y Borth bellach wedi'i hymestyn tan ddiwedd 2025, bedwar mis yn hwyrach na'r disgwyl", meddai.
鈥淓r bod y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y bont yn ddiogel ac yn wydn yn bwysig, mae'n amlwg ei bod yn effeithio ar drigolion a busnesau lleol, a r诺an bydd y tarfu yn cael ei ymestyn y tu hwnt i'r hyn a ddywedwyd wrthynt yn wreiddiol.鈥
Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd mai'r "awgrym clir oedd bod y prosiect o flaen yr amserlen" wrth gyhoeddi'r ailagor dros dro.
"Mae darganfod nad yw hyn yn wir a fydd y prosiect r诺an yn cymryd tan fis Rhagfyr 2025 i'w gwblhau yn teimlo fel pe baem wedi cael ein camarwain.鈥
Mesurau rheoli traffig drwy鈥檙 amser
Cyn ailagor dros dro yn yr hydref, roedd l么n wedi bod ar gau ar y bont ers 14 mis, gyda signalau traffig a therfyn pwysau o 7.5 tunnell.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pan fydd y gwaith yn ailddechrau yn y gwanwyn y bydd rheolaeth traffig ar y bont drwy鈥檙 amser, gan gynnwys penwythnosau.
Hyd yma, dim ond yn ystod yr wythnos y mae mesurau i reoli traffig wedi bod yn eu lle.
Mae Rhun ap Iorwerth AS yn anfodlon gyda鈥檙 mesurau rheoli traffig: 鈥淕yda goleuadau yn eu lle 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos; bydd hyn yn ychwanegu'n sylweddol at y tarfu ar bobl leol.鈥
Mae鈥檔 awyddus i weld Llywodraeth Cymru a'r contractwyr yn cwblhau鈥檙 gwaith yn ddiogel ond 鈥渕ewn cyn lleied o amser 芒 phosibl鈥.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw "hyd y rhaglen waith wedi newid".
"Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid a'r cymunedau lleol ac yn oedi cyn dechrau cam dau er mwyn caniat谩u ailagor y bont yn llawn dros y gaeaf, gan gynnwys cyfnod y Nadolig, i helpu busnesau lleol."