Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rob Page yn 'isel' yn sgil beirniadaeth cefnogwyr
Mae Rob Page yn dweud ei fod yn teimlo'n "isel" ar 么l gweld ymateb y dorf yn dilyn colled Cymru o 4-0 yn erbyn Slofacia nos Sul.
Roedd rhai o'r 1,000 o gefnogwyr Cymru oedd yn y g锚m yn Trnava yn galw am ddiswyddo Page, gyda'r golled ddiweddaraf yn dod ddyddiau'n unig wedi g锚m gyfartal siomedig yn erbyn Gibraltar ym Mhortiwgal.
Mae gan Page gytundeb tan 2026, ond mae'n cydnabod bod ei ddyfodol fel rheolwr yn y fantol wrth i'r canlyniadau hyn ychwanegu at y pwysau wedi i Gymru fethu 芒 chyrraedd Euro 2024.
Dyw Cymdeithas B锚l-droed Cymru ddim wedi gwneud sylw am ddyfodol Page, gan ddweud eu bod am "adolygu ac ystyried y sefyllfa" fel y maen nhw'n ei wneud ar ddiwedd bob cyfnod rhyngwladol.
Wedi'r golled yn Trnava, dywedodd Page: "Maen nhw [y cefnogwyr] eisiau i mi fynd, a dwi'n deall hynny.
"Mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar y gwaith sydd gen i i'w wneud ac aros yn driw i'n hun. Mae popeth arall allan o'm rheolaeth.
"Es i draw i gymeradwyo'r cefnogwyr gyda'r chwaraewyr, a nes i wneud pwynt o fynd draw eto er mwyn cydnabod mai fy nghyfrifoldeb i yw hyn. Dwi'n deall y rhwystredigaeth.
"Dwi'n teimlo'n isel, wedi siomi, wrth gwrs. Ar ddiwedd y dydd, does neb eisiau methu."
Er mai gemau cyfeillgar oedd y ddwy g锚m ddiwethaf, y teimlad yw bod natur y perfformiadau wedi cynyddu'r pwysau ar y rheolwr.
Daw'r gemau hyn yn dilyn methiant Cymru i gyrraedd Euro 2024 ar 么l colli i Wlad Pwyl yn y gemau ail gyfle - canlyniad a sbardunodd drafodaethau am ddyfodol Page ar y pryd.
Bydd g锚m nesaf Cymru gartref yn erbyn Twrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ar 么l disgyn o'r brif haen yn 2022, mae Cymru mewn gr诺p gyda Gwlad yr I芒, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B.
'Penderfynu beth sydd orau i Gymru'
Wrth ymateb i gwestiwn am ei ddyfodol, dywedodd Page: "Dim fi ydy'r person i'w holi am hynny. Dim ond y bwrdd, y prif weithredwr, y llywydd a'r cyfarwyddwr technegol fyddai'n gallu ateb hynny.
"Ar 么l cyfnodau gemau rhyngwladol ry'n ni wastad yn cynnal trafodaethau gyda Dave Adams [cyfarwyddwr technegol], Steve Williams [llywydd] a Noel Mooney [prif weithredwr] ac wrth gwrs fe fyddwn ni'n trafod hynny.
"Un ffordd neu'r llall, fe fyddwn ni'n penderfynu beth sydd orau i Gymru ac yn symud ymlaen.
"Mae'r canlyniadau cyn yr wythnos hon wedi bod yn weddol, ond pan 'da chi'n cael g锚m gyfartal yn erbyn Gibraltar ac yn ildio goliau fel 'da ni wedi ei wneud heno, mae cwestiynau am godi, a dwi'n deall hynny.
"Dwi'n canolbwyntio ar yr hyn dwi angen ei wneud. 'Da ni wedi 'neud yr hyn yr oedden ni'n bwriadu ei wneud - arbrofi gyda si芒p gwahanol i'r t卯m - a nawr ry'n ni'n paratoi at fis Medi."