大象传媒

Trywanu Rhydaman: 'Angen gwneud rhywbeth o ddifri'

Ysgol Dyffryn Aman
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd undeb athrawon yn dweud bod angen ystyried gwneud mwy i ddiogelu disgyblion a staff yn ysgolion Cymru, yn dilyn achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Ar raglen Bore Sul Radio Cymru, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones, bod aelodau o'r undeb wedi ymateb i'r digwyddiad ddydd Mercher "efo braw ac ansicrwydd".

Fe gafodd dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Doedd eu hanafiadau ddim yn ddifrifol, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn y diwrnod canlynol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i sicrhau amgylchedd dysgu diogel i ddysgwyr a staff.

"Bydd gan bob ysgol, felly, weithdrefnau brys ar waith ar gyfer delio 芒 sefyllfaoedd anarferol sy鈥檔 codi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ddwy athrawes a gafodd eu trywanu wedi diolch am bob cefnogaeth

'Achosion o drais wedi cynyddu'

Dywedodd Ioan Rhys Jones: "Mae 'na gydymdeimlad 芒'r sefyllfa yn yr ysgol ond mae 'na ymwybyddiaeth hefyd bod 'na gwestiynau wedi cael eu gofyn am drais ac ymddygiad dros y misoedd os nad y blynyddoedd dwytha' 'ma."

"Mae'n sicr bod achosion o drais wedi cynyddu a dwi'n mawr obeithio mai rhywbeth unigryw ydi hwn."

Wrth siarad gydag athrawon, mae Ioan Rhys Jones yn dweud mai ymddygiad a disgyblaeth ydi un o'r heriau mwyaf maen nhw'n wynebu yn eu gwaith bob dydd.

"Ma' gynnon ni broblem fawr yn fan hyn bod disgyblaeth yn cael yn waeth a bod angen i ni wneud rhywbeth o ddifri' a hynny'n fuan," meddai.

"Mae'r cwestiwn yn codi am natur mesurau diogelwch a mae angen cael y cydbwysedd yna rhwng awyrgylch addysgu dymunol ond hefyd man gwaith sydd yn ddiogel ac yn hafan i bawb - yn athrawon, staff a disgyblion."

Disgrifiad,

Dywedodd Ioan Rhys Jones o UCAC bod angen "bwrw ati ar fyrder i geisio mynd i'r afael 芒'r sefyllfa yma"

Mae'n pwysleisio bod Llywodraeth Cymru'n cynnal trafodaethau a bod canllawiau o ran cloi ysgolion am resymau diogelwch.

Ond mae'n dweud bod angen "myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Rhydaman ac wedyn bwrw ati ar fyrder wedyn i geisio mynd i'r afael 芒'r sefyllfa yma."

"Mae'r blynyddoedd diwethaf 'ma - ers erchylldra arall yn yr Alban sawl blwyddyn n么l - da ni 'di gweld mesurau diogelwch yn cynyddu.

"Fe fyddwch chi - wrth fynd heibio unrhyw ysgol - yn gweld ffensys mawr dros chwe troedfedd yn hawdd a mi fyddach chi hefyd yn gweld systemau diogelwch amlwg ond mae'r amser wedi dod i ofyn y cwestiwn oes rhywbeth pellach i ni neud yn fan hyn?"

'Cefnogaeth a chymorth' i Ysgol Dyffryn Aman

Yn y cyfamser, mae Ysgol Dyffryn Aman wedi cadarnhau y bydd yr ysgol yn ail-agor ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd: "Hoffai Cyngor Sir Gaerfyrddin ac Ysgol Dyffryn Aman dawelu meddyliau pobl y bydd cefnogaeth i ddisgyblion, athraweon a staff yr ysgol yn parhau wrth i'r ysgol ail-agor.

"O ddydd Llun 29 Ebrill, bydd T卯m Addysg a Seicoleg Plant o'r Cyngor ar gael i ddisgyblion a staff a bydd presenoldeb yn yr ysgol am y bythefnos nesaf, er mwyn cynnig cefnogaeth a chymorth pan fo angen.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd uwch arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Ross Evans, y byddan nhw'n sicrhau y bydd "y gefnogaeth angenrheidiol ar gael" i bobl

Dywedodd yr uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed Powys: "Mi hoffwn i roi sicrwydd i rieni a'r cyhoedd ein bod ni'n gweithio gyda'r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol ar gael i bawb.

"Bydd ein Swyddog Ysgolion a'r T卯m sy'n gweithio yn y gymuned ar gael yn ystod yr wythnos nesaf. Cofiwch siarad gydag un o'n swyddogion os oes ganddoch chi unrhyw bryderon."

Ddydd Gwener, ymddangosodd merch 13 oed yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio a cafodd ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ysgol Dyffryn Aman yn ail-agor ddydd Llun

Wrth ymateb i'r achos o drywanu, mae Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones, yn canmol yr ymateb yn yr ysgol a "bod staff wedi ymateb yn gwbl briodol".

Dywedodd bod hynny'n "adlewyrchu'r ffaith ein bod ni wedi yn y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru wedi ymarfer y broses o gloi ysgolion".

Ond mae'n dweud bod yn rhaid ystyried os oes rhagor i'w wneud a bod "disgwyl i ni symud ymlaen fel corff sy'n cynrychioli athrawon i sicrhau bod y llywodraeth yn arwain ac awdurodau lleol yn ymyrryd lle bo angen."

"Ma' meddyliau ein aelodau ni efo staff Dyffryn Aman a mawr obeithio na nawn ni weld unrhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol agos."