Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oedi sgrinio canser: 'Methu stopio meddwl amdana fo'
Mae 'na bryder yn y gogledd fod rhai yn gorfod aros dros chwe wythnos am ganlyniadau sganiau MRI sgrinio'r fron.
Un radiolegydd sgrinio sydd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd, a hynny dan ofal Bron Brawf Cymru.
Yn 么l Sophie Morris o Gyffordd Llandudno, sy'n disgwyl am ganlyniadau sgan o fis Chwefror, mae鈥檙 oedi cyn cael y canlyniadau'n hunllef.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn cadw at dargedau amser cenedlaethol yn gyson, ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn gweithio gyda鈥檙 byrddau iechyd i wneud yn si诺r bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth cyn gynted 芒 phosib.
Does gan Sophie ddim symptomau canser y fron, ond gan fod nifer o鈥檌 theulu wedi dioddef mae hi鈥檔 cael ei sgrinio鈥檔 gyson i gadw golwg.
Mae dros chwe wythnos wedi bod ers ei sgan, a dydy hi ddim wedi cael y canlyniadau.
"Wnes i ffonio llwyth o gwahanol bobl, siarad hefo dwn i'm faint o ysgrifenyddion yn deud 'oh yeah, yeah we'll get it sorted, don't worry'.
"Nes i siarad 'efo un yn diwadd a nath hi ddeud 'sa neb di edrych [ar y canlyniadau], ac oedd 'na dair wythnos wedi pasio.
"Da ni rwan bron yn saith wythnos ers i fi gael [y sgan] a dal dim canlyniad," meddai.
'Mae'n gwylltio fi'
Ychwanegodd: "Fedrai ddim stopio meddwl amdana fo, os oes gennai unrhyw fath o boen neu niggle yn y fron, dwi'n meddwl y gwaetha a toes 'na neb yn gallu d'eud 'ma'n ok, paid a poeni' achos dwi'm yn gw'bod os dwi angen poeni.
"A mae o'n gwylltio fi hefyd achos dwi'n meddwl faint o bobl eraill sydd yn y sefyllfa yma."
Dydy鈥檙 oedi y mae Sophie wedi ei gael ddim yn effeithio canlyniadau sganiau cleifion symptomatig na chwaith yr achosion brys.
"Dwi'n gw'bod fod 'na bobl sydd angen nhw mwy, fatha mewn sefyllfa brys," meddai.
"Swn i'n licio cael canlyniadau fi ond swn i hefyd yn licio os 'sa Betsi Cadwaladr yn newid y broses fel bod na'm disgwyl fel 'ma.
"Di hyn ddim just yn effeithio fi, ma'n effeithio merched eraill a be' swn i'n ddeud i merched eraill os ydyn nhw'n disgwyl am ganlyniadau ydy ewch at yr adran a gofyn lle ma'ch canlyniadau.
"Peidiwch a disgwyl achos ma'r amser mae o'n gymryd yn gallu bod y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Dyna di'r peth pwsyica' yn hyn ydy bywyda' pobl."
'Recriwtio'n anodd'
Yn 么l bwrdd iechyd y gogledd mae eu gwasanaethau radioleg yn cael 11,000 o ddelweddau sganio bob wythnos.
Er bod rhai cleifion yn gorfod aros am fwy o amser na鈥檙 disgwyl, mae鈥檙 bwrdd yn gweithio ar brosesau i wella鈥檙 sefyllfa.
Wrth edrych ar ganser y fron, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn awyddus i bwysleisio fod yna wahanol fathau o radiolegwyr.
Mae radiolegwyr sydd wedi eu cyflogi gan y bwrdd iechyd sy鈥檔 gyfrifol am sganiau cleifion symptomatig a hefyd ymgynghorwyr arbenigol sy鈥檔 gofalu am ganlyniadau'r rhaglen sgrinio.
Mae eu cyfrifoldebau yn amrywio a gyda phrinder cenedlaethol mae recriwtio'n anodd, meddai'r bwrdd.
Mae r么l y radiolegydd yn hanfodol wrth wneud diagnosis o ganser ac mi all arafwch yn eu llwyth gwaith achosi oedi mewn triniaeth.
Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ar frys i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem.
Drwy Gymru ym mis Ionawr 2024, 58% o gleifion ddechreuodd driniaeth ar gyfer canser y fron o fewn 62 diwrnod - 75% ydy targed Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod mynediad at driniaeth canser yn flaenoriaeth, a bod eu rhaglen hyfforddi radioleg wedi ehangu'n sylweddol.
Maen nhw'n dweud eu bod yn gweithio gyda鈥檙 byrddau iechyd i wneud yn si诺r bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth cyn gynted 芒 phosib.