Diwedd pennod wrth i ysgol leiaf Ynys M么n gau ar 么l 125 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn bron i ganrif a chwarter o fod ar agor, mae ysgol leiaf Ynys M么n yn cau ei drysau i ddisgyblion am y tro olaf ddydd Gwener.
Yn gynharach yr wythnos hon daeth dros 100 o bobl i'r neuadd i gyngerdd ffarwelio gyda rhai o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Gymuned Carreglefn yn perfformio.
Cafodd cynllun i gau'r ysgol gynradd, sydd ag ond naw o ddisgyblion, ei gefnogi yn gynharach eleni.
O fis Medi ymlaen, bydd disgyblion yr ysgol yn mynychu Ysgol Gymuned Llanfechell - sydd 2.2 milltir i ffwrdd.
Cyfle i rannu atgofion
Cafodd yr ysgol wledig ei hadeiladu n么l yn 1899, gan agor i ddisgyblion y flwyddyn ganlynol.
Mae nifer o bobl adnabyddus yn gyn-ddisgyblion gan gynnwys yr awdur William Owen a'r gwyddonydd Tom Parry Jones, dyfeisydd y prawf anadl.
I nodi'r bennod nesaf yn hanes yr ysgol, cafodd cyngerdd ffarwelio ei gynnal yr wythnos hon.
Roedd yn gyfle i rannu atgofion a gwylio doniau rhai o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yr ysgol wrth nodi diwedd ar bron i ganrif a chwarter o addysg yn y pentref.
Dau o ddisgyblion sydd ymhlith y rhai olaf i fynychu'r ysgol ydy Efan a Finley oedd yn rhan o'r cyngerdd.
Dywedodd Efan : "Dwi'n mwynhau mynd ar dripiau a chwarae tu allan yn yr ysgol... dwi'n drist iawn oherwydd mae hi wedi bod yn ysgol dda iawn i bawb.
"Mae'n drist ei bod yn gorfod cau. Mae Mam yn gweithio yma ac mae fy anti i wedi gweithio yma hefyd."
Wrth edrych at y dyfodol, dywedodd Efan: "Y peth na' i gofio fwyaf am ysgol Carreglefn ydy'r holl dripiau efo pawb."
Roedd Finley hefyd yn drist o weld yr ysgol yn cau, ond yn edrych ymlaen at fynd i ysgol newydd ym mis Medi: "Dwi'n drist iawn... y peth 'na i gofio am yr ysgol ydy'r holl ffrindiau a'r athrawon."
Ymhlith y rhai a oedd yn y cyngerdd yr oedd y cyn-ddisgybl Iwan Wyn Owen sy'n bianydd ac yn athro piano. Mae o yn ddiolchgar iawn am y cyfleoedd gafodd o yn yr ysgol.
"Mae gen i atgofion melys iawn o'r ysgol, ysgol fach, roedd tua 40 o blant yma pan oeddwn i yma a chymuned glos iawn yn y pentref," meddai.
"Mi oedd fy athro piano i yn rhoi gwersi yma, Mr Arwel Jones, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd.
"Dyna un o'r rhesymau o'n i isio cael gwersi piano, drwy ei glywed o'n chwarae yn yr ysgol... hwnna oedd y rheswm 'nes i ddechrau."
Wrth baratoi i chwarae yn y cyngerdd, dywedodd Iwan fod hi'n braf bod yn 么l yn ei hen ysgol.
"Y rheswm am y cyngerdd ydy oherwydd bod yr ysgol yn cau, mae hynny yn drist mewn ffordd."
'Cadw'r neuadd gymuned i'r pentref'
Ond er fod y drws yn cau i ddisgyblion, gobaith pwyllgor y gymuned yw i gadw'r lle ar agor fel canolfan gymunedol.
Yn 么l Adrian Parry, cadeirydd y pwyllgor, mae'r gymuned yng Ngharreglefn yn un agos.
"Mi fasa ni wrth ein bodda yn cadw'r neuadd gymuned i'r pentref ei hun. Ar y funud mae'r capel wedi cau, does 'na ddim man cyfarfod yng Ngharreglefn ddim mwy.
"Mae angen neuadd i gadw'r pentref i fynd. Os ydan ni'n colli'r neuadd, mi ydan ni'n colli'r gymuned a'r pentref."
Eisoes, mae'r neuadd yn cael defnydd sylweddol yn 么l Mr Parry, ac mae'r pwyllgor yn gobeithio denu rhagor yno yn y dyfodol.
Dywedodd: "Mae 'na glwb gwn茂o yma, mae 'na nosweithiau chwist, bingo a chlybiau eraill felly os ydan ni'n llwyddiannus i'w chadw hi yn y gymuned, mi fedrwn ni ei hagor i bob mathau o weithgareddau eraill.
"Hefyd, beth oedden ni methu 'neud pan oedd yr ysgol yn bodoli, oedd cynnal pethau yn y prynhawn, gan fod yr ysgol yn ei defnyddio yn y prynhawn.
"Mae'r gymuned wedi hel lot o bres i adeiladu'r neuadd, felly mae'n bwysig iawn bod ni'n ei chadw."
Yn ddiweddar cafodd diwrnod agored ei gynnal yn y neuadd i arddangos hen luniau a rhannu atgofion.
Dywedodd Adrian ei bod hi'n braf gweld dros 250 o bob yn ymweld yn ystod y dydd.
"Mi oedd un ddynes oedd yn ei nawdegau, ac yn gyn-ddisgybl yma, ac mi nath hi gyfarfod 芒'i ffrind oedd yn yr ysgol ac yntau yn ei nawdegau hefyd a heb weld ei gilydd ers ysgol."