大象传媒

Blythyn: 'Dim tystiolaeth cyn i mi gael fy niswyddo'

Hannah BlythynFfynhonnell y llun, SENEDD CYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hannah Blythyn yn gwadu'n gryf yr honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau

  • Cyhoeddwyd

Mae gweinidog a gafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething wedi ailddatgan na wnaeth hi ryddhau negeseuon i'r cyfryngau.

Cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo ym mis Mai oherwydd honiadau mai hi oedd ffynhonnell stori am sgwrs gr诺p ar-lein yn ystod cyfnod Covid.

Dywedodd AS Delyn na ddangoswyd unrhyw dystiolaeth iddi cyn ei diswyddo, ac ni ddywedwyd wrthi ei bod yn destun ymchwiliad.

Dywedodd Ms Blythyn, oedd yn bresennol yn y Senedd ddydd Mawrth am y tro cyntaf ers iddi gael ei diswyddo, fod y sefyllfa wedi ei gadael 芒 phryder a straen difrifol.

Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Vaughan Gething i wneud datganiad brys i'r Senedd yn dilyn honiadau Ms Blythyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.

鈥淩wy鈥檔 gwybod y gallaf edrych ar fy holl gydweithwyr sy鈥檔 eistedd ar y meinciau [Llafur] hyn yn y llygad a dweud nad wyf erioed wedi rhyddhau gwybodaeth na briffio鈥檙 cyfryngau am unrhyw un ohonoch,鈥 meddai.

Mewn datganiad dramatig, cymeradwyodd Aelodau o'r Senedd o bob rhan o鈥檙 siambr y cyn-weinidog pan eisteddodd i lawr.

Ym mis Mai, dywedodd Mr Gething 鈥渁r 么l adolygu鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i鈥檙 cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i鈥檙 casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth".

Ymhelaethodd: 鈥淢ae鈥檔 hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymhlith cydweithwyr y llywodraeth fel ein bod yn gweithio fel un i ganolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru."

Ffynhonnell y llun, SENEDD CYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wrandawodd Vaughan Gething a gweddill y gr诺p Llafur ar Ms Blythyn wrth iddi ddweud ei bod wedi codi pryderon "ffurfiol" am ei diswyddo

Roedd Ms Blythyn yn absennol o bleidlais o ddiffyg hyder a gollodd Mr Gething ym mis Mai - dywedodd cydweithwyr ei bod i ffwrdd o'r gwaith yn s芒l.

Dechreuodd ei haraith ddydd Mawrth drwy ddweud y bu adegau pan oedd hi'n ansicr "a allwn sefyll neu siarad" yn siambr y Senedd eto.

鈥淓r na fyddaf yn rhannu鈥檙 manylion, byddaf yn rhannu fy mod wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses a ddefnyddiwyd i gael fy niswyddo o鈥檙 llywodraeth, gan gynnwys peidio 芒 chael unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo, peidio 芒 chael fy hysbysu fy mod yn destun ymchwiliad erioed, ac ni ddangoswyd tystiolaeth i mi a oedd yn awgrymu y gallwn fod wedi torri cod y gweinidogion."

Dywedodd Ms Blythyn ei bod yn cydnabod ei bod "o fewn gallu unrhyw brif weinidog i benodi a diswyddo aelodau o'u llywodraeth".

Ond mewn cyfeiriad posib at yr amgylchiadau ynghylch marwolaeth Carl Sargeant, dywedodd yr AS fod ganddi "bryderon gwirioneddol nad yw gwersi wedi eu dysgu o'r gorffennol".

'Mwy o gwestiynau'

Wrth ymateb i鈥檙 datganiad, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: 鈥淢ae sylwadau Hannah Blythyn yn codi mwy o gwestiynau i鈥檙 prif weinidog.

鈥淏ydd pobl nawr yn gywir yn gofyn a wnaeth y prif weinidog ddiswyddo Hannah yn gyhoeddus heb dystiolaeth ddigonol ei bod yn euog o ryddhau gwybodaeth.

鈥淩oedd canlyniadau personol y diswyddo hwnnw i Hannah yn amlwg yn enfawr, ac mae angen i'r prif weinidog wneud ymddiheuriad llawn iddi.鈥

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Mr Gething yn ei annog i gyhoeddi'r dystiolaeth a ddefnyddiodd er mwyn diswyddo Ms Blythyn.

Galwodd ar y prif weinidog i wneud "datganiad brys yn y Senedd yfory yn nodi eich ymateb i'r pryderon a godwyd yn y datganiad personol gan yr aelod dros Delyn heddiw".