Ayrton Senna: ‘Penwythnos tywyll ym myd Formula 1’

Ffynhonnell y llun, Getty

Tri deg mlynedd i heddiw, sef Mai 1 1994, cafodd y gyrrwr Formula 1 Ayrton Senna ei ladd tra’n rasio yn Grand Prix San Merino. Roedd gyrrwr arall, Roland Ratzenberger, wedi marw y diwrnod cyn hynny yn dilyn damwain ar y trac.

Un oedd yn gweithio yno y penwythnos hynny fel ran o griw tîm Roland Ratzenberger oedd Gwilym Mason-Evans sy' wedi gweithio ym myd rasio ceir gyda tîm Honda a Sky hefyd.

Bu'n rhannu ei atgofion am y penwythnos ‘tywyll’ hynny ar Dros Frecwast:

"Cofio bob dim yn anffodus – penwythnos tywyll ym myd Formula 1", meddai Gwilym.

"Rubens Barrichello yn cael damwain ofnadwy ar y dydd Gwener ac yn lwcus i ddod mas o’r ddamwain heb lot o niwed ond wrth gwrs dydd Sadwrn wedyn amser qualifying a Roland Ratzenberger yn mynd mas i qualifyio ac wrth gwrs yn cael y ddamwain yma."

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Roland Ratzenberger

"Roedd y tîm Simtek yn dîm ifanc o ran oedran ac hon oedd y trydydd ras fel tîm. (Roedden nhw) wedi neud dwy ras - un ym Mrasil, un yn Japan ac hwn oedd y ras gynta' yn Ewrop."

Roedd Gwilym yn cofio pa mor frawychus oedd y digwyddiadau yn arwain at y ddamwain.

"Roedd yn sioc ofnadwy. O'ch chi methu credu'r peth. O'n i ar yr olwyn flaen efo'r blanceds yn disgwyl i Roland i fynd mas ac o'n i’n gallu gweld yn ei lygaid e, roedd e'n wên o glust i glust ac oedd e mor hapus i fod yn Formula 1.

"Ac rhoies i'n mys mawd lan yn dweud 'popeth yn iawn' ac 'nath e yr un peth. 'Na’r peth diwethaf 'nes i efo fe. Ac wrth gwrs mae popeth arall yn hanes."

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Ayrton Senna yn dathlu wedi iddo ennill yr European Grand Prix yn 1993

Damwain Senna

Roedd Senna yn yrrwr tu hwnt o dalentog, gan ennill Pencampwriaeth y Byd yn 1988, 1989 a 1991. Roedd Gwilym yn ymwybodol iawn o'i ddoniau:

"Redd e’n yrrwr arbennig, wedi ennill pencampwriaeth y byd tair gwaith.

"Y nos Sadwrn ar ôl damwain Roland r'on i tu allan i'r garej yn y cefn a daeth e lan i fi achos oen i’n ‘nabod e ers sbel a wedodd e 'sut mae’r bechgyn?'

"'Dere mewn,' dywedais i, 'achos maen nhw'n eitha fflat'. Daeth e mewn ac aeth e rownd a rhoi cwtsh i bob un a wedodd e, 'what do you think Roland would want you guys to do tonight?'

"Tawelwch a wedyn siaradodd un boi lan, 'I’m sure he’d want us to build the car.'

"'Exactly', wedodd e. 'Come on, there are two teams of you here to build one car.'

"Oedd rhaid i ni adeiladu car wedyn ar gyfer David Brabham i rasio ar y dydd Sul.

"'Nes i weud diolch i Senna am beth wedodd e a wedes i, 'sut ti’n dod mlaen efo dy gar di?' Wedodd e, 'dwi'n stryglo a’n cael gwaith cael fy mhen rownd e.

"'Dwi'n mynd i roi e i Dduw.

"'Dwi'n mynd i weddïo heno a gobeithio bydd e wedi ateb fy ngweddi i erbyn bore fory.'

"Ac wrth gwrs saith lap mewn i’r ras daeth e mewn i gornel y Tamburello 200 milltir yr awr mewn i wal goncrid a dyna ddiwedd ei yrfa fe."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Ar ôl gadael y byd rasio ceir fe aeth Gwilym ymlaen i weithio fel rheolwr logistics i dîm seiclo Sky.

Diogelwch heddiw

"Mae gyda fi luniau lan star o pa mor exposed oedd y gyrrwyr dyddiau 'ny. Ers hynny mae 'na halo device a hans device, mae’r circuits eu hunain lot mwy saff a dwi’n falch i weud dim ond un gyrrwr sy' 'di cael ei ladd ac hwnna oedd Jules Bianchi nôl yn 2014."

Disgrifiad o'r fideo, Daeth Senna i Gymru yn 1988 i rasio ar drac Pembre

Hefyd o ddiddordeb: