大象传媒

'Hunllef' ffermwr ar 么l ymosodiadau c诺n ar ddefaid

dafad Charlotte LlywelynFfynhonnell y llun, Charlotte Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cynnwys manylion a lluniau allai beri gofid i rai darllenwyr.

Mae pobl sy'n gadael eu c诺n i redeg yn rhydd heb dennyn ar dir fferm mewn perygl o achosi creulondeb i anifeiliaid, medd ffermwr defaid.

Ar gyrion Caerdydd, mae caeau fferm Charlotte Llywelyn yn frith o lwybrau cerdded cyhoeddus ac mae ymosodiadau "cyson" wedi bod ar ei phraidd.

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno cynlluniau gafodd eu canslo'n ddiweddar - fe fyddai'r cynlluniau wedi arwain at gosbau llymach i daclo'r broblem.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU y bydden nhw'n "amlinellu'r camau nesa' maes o law".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Charlotte Llywelyn o gyrion Caerdydd yn disgrifio'r profiad o weld ei defaid wedi eu hanafu fel "hunllef"

Ers pum cenhedlaeth, mae teulu Ms Llywelyn wedi bod yn magu defaid a gwartheg ar fryn y Garth gyda'i olygfeydd hardd o brifddinas Cymru a'i harfordir.

Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i orllewin y ddinas esblygu mae datblygiadau tai wedi bod yn dod yn nes, gan gyrraedd ffin y fferm ei hun.

Mae'n golygu bod llwybrau cerdded yr ardal yn gynyddol brysur, a'r broblem o g诺n yn rhedeg yn rhydd gan ymosod ar ei hanifeiliaid yn gymaint fwy o sialens.

'Hunllef'

Ar iPad mae Charlotte yn dangos i mi rhai o'r lluniau mae wedi'u cymryd yn dangos effaith yr ymosodiadau - delweddau mae'n ei disgrifio fel rhai "brawychus" ac "ofnadwy".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n "ofnadwy" ac yn "greulon" bod defaid yn cael eu hanafu, dywedodd Ms Llywelyn

Dafad feichiog a'i gwddf wedi'i rhwygo, oen heb groen ar ei wyneb, a dafad arall sydd wedi cael ei chnoi sawl gwaith ar ei g锚n.

"Mae just yn hunllef," meddai.

"Mae mor amharchus ac yn greulondeb go iawn hefyd. Dwi'n meddwl bod y bobl yma'n ystyried eu hunain fel rhai sy'n caru anifeiliaid - mae ganddyn nhw g诺n ac maen nhw yn mwynhau mynd 芒 nhw am dro ond dy'n nhw ddim yn sylweddoli faint o stress maen nhw'n ei achosi i'r defaid a'r gwartheg."

Mae'n disgrifio digwyddiad arall lle roedd ci mewn cae yn amgylchynu gr诺p o 15 o wartheg oedd yn ceisio diogelu eu lloi.

"Os ydych chi wedi gweld footage o flaidd yn trio hela ych gwyllt yna ro'dd hyn yn union fel hynny," eglurodd.

'Rhai ddim yn ein parchu'

Mewn partneriaeth ag elusen leol mae hi bellach wedi plannu coed ar hyd ymylon y llwybrau cerdded.

Er fod hyn wedi golygu "colli lot o dir", mae nawr yn dweud bod ganddi "ffens barhaol sy'n gwahanu'r aelodau yna o'r cyhoedd sydd ddim yn parchu'r hyn ry'n ni'n ei wneud ar y ffarm."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ben ac Ethan Williams yn sylwi ar yr un broblem ar eu fferm

Mae'r brodyr Ben ac Ethan Williams yn ffermio 'chydig yn uwch i fyny'r bryn oddi wrth Charlotte ac yn dweud iddyn nhw ddioddef problemau hefyd.

"Ry'n ni wedi gweld dau ymosodiad gan g诺n eleni, na'th un ddafad oroesi ond bu farw'r llall," eglurodd Ethan.

Yn y ddau achos roedd y c诺n a'u perchnogion wedi diflannu erbyn i'r ffermwyr ddarganfod beth oedd wedi digwydd.

"Dw i'n credu bod angen cryfhau pwerau'r heddlu," meddai Ben, "byddai hynny yn gwneud i bobl sy'n dueddol o anwybyddu'r rheolau feddwl ddwywaith."

Roedd mesurau llymach i atal ymosodiadau gan g诺n i fod i gael eu cynnwys mewn deddfwriaeth flaenllaw Llywodraeth Prydain ar les anifeiliaid, ond cafodd honno ei chanslo'n annisgwyl ym mis Mai.

Byddai'r Bil Anifeiliaid a Gedwir wedi cynnwys cynlluniau hefyd i wahardd pobl rhag cadw mwnc茂od fel anifeiliaid anwes, stopio'r arfer o allforio anifeiliaid i'w lladd tra'u bod yn dal yn fyw, ymdrechion i daclo lladrata c诺n a smyglo c诺n bach.

Ond cafodd ei ollwng ymysg cyhuddiadau gan weinidogion o "gemau gwleidyddol", gydag awgrym bod gwrthwynebwyr y llywodraeth yn mynd i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth i orfodi dadleuon yn Nh欧'r Cyffredin yngl欧n 芒 materion fel hela.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r penderfyniad i ollwng y bil yn "rhwystredig" yn 么l Hazel Wright o Undeb Amaethwyr Cymru

Dywedodd Hazel Wright, dirprwy bennaeth polisi Undeb Amaethwyr Cymru fod y penderfyniad wedi achosi "rhwystredigaeth lwyr".

"Ro'n ni wedi bod yn gweithio ar y mesur yma am gymaint o amser ar y cyd 芒'r heddlu," eglurodd.

"Roedd yn cynnwys pethau fel gwell pwerau i ymchwilio i droseddau - felly samplo DNA er mwyn adnabod c诺n pan doedd 'na ddim llygad dystion, yn ogystal 芒 rhoi'r grym i heddlu fynd i mewn i dai pobl a chael gafael ar g诺n sydd dan amheuaeth.

"Wrth gwrs roedd yn cynnwys cosbau llymach hefyd," ychwanegodd.

"I ni nawr mae'n allweddol ein bod ni'n gweld yr elfennau yna o'r bil sy'n ymwneud ag ymosodiadau cwn yn cael eu cymryd ymlaen ar frys."

Mae'r undeb yn cynnal digwyddiad ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mercher i drafod effaith ymosodiadau c诺n a beth allai gael ei wneud am y sefyllfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes y Sioe yn Llanelwedd eleni

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 o faes y Sioe, dywedodd cydlynydd bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru, Rob Taylor, iddo fynychu lleoliad sawl ymosodiad yn ystod ei yrfa gyda'r heddlu oedd yn "gwbwl erchyll".

"Mae'r ddafad wedi'i dolurio'n ddifrifol, mae'r ffermwr yn ypset, mae'n rhaid i'r heddlu fynd draw a delio 芒'r peth - ac wrth gwrs ar ddiwedd y dydd mae'r c诺n naill ai'n cael eu saethu neu eu rhoi i gysgu."

"'Sneb yn ennill yn y sefyllfa yma," meddai.

Dywedodd ei fod yn teimlo yn "gutted" pan gafodd bil lles anifeiliad y llywodraeth ei ganslo.

"Fe adawodd hynny ni heb unlle i droi - fe fyddai'r mesur wedi delifro yn union beth oedd angen arnon ni."

'Cyflwyno mesur ein hunain'

Yn siarad ar faes y sioe ddydd Mercher fe ddywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, fod "angen mynd i'r afael 芒'r broblem".

"Mae'r ffaith bod y gyfraith yn dyddio o'r '50au yn hollol ddiffygiol," meddai.

"Roedd pawb o bob plaid wleidyddol yn cytuno bod angen gwella鈥檙 gyfraith er mwyn bo' ni鈥檔 gallu mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem 'ma, oherwydd mae llawer gormod o鈥榬 ymosodiadau yma yn dal i ddigwydd.

"Ond pe bai y llywodraeth, am ba bynnag rheswm, yn gwrthod gwneud hynny mae angen i aelodau seneddol meinciau cefn traws-bleidiol ddod at ei gilydd i gyflwyno mesur ein hunain.

"Achos mae鈥檙 llywodraeth wedi datgan i fi yn y Senedd pe bai ni鈥檔 gwneud hynny, fydden nhw yn cefnogi yr ymdrech."

Dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion gwledig y DU, Th茅r猫se Coffey bod y Bil Anifeiliaid a Gedwir wedi tyfu'n rhy fawr wrth basio drwy'r Senedd.

"Felly yr hyn ry'n ni'n 'neud yw mynd yn 么l at ein haddewidion maniffesto drwy fesurau penodol ar un pwnc, er mwyn sicrhau ein bod ni'n eu cael nhw drwy'r Senedd yn fwy llyfn," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n "hyderus y bydden ni'n gweld rheiny mewn deddfwriaeth cyn yr etholiad nesaf".