大象传媒

Gostyngiad 'siomedig' yn nifer y siaradwyr Cymraeg

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r data'n rhoi "darlun siomedig," medd y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddaraf am nifer y siaradwyr Cymraeg yn rhoi "darlun siomedig," mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod.

Yn 么l yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth, mae tua 44,100 yn llai o bobl tair oed neu'n h欧n yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu 芒 llynedd.

Hyd at 31 Mawrth eleni roedd 28.0% (862,700) o bobl tair oed neu'n h欧n yn gallu siarad Cymraeg, yn 么l yr arolwg - tua 1.6% yn is na'r un adeg yn 2023.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "y data'n rhoi darlun siomedig" a'u bod yn "cydnabod yr her" o gyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

'Angen dehongli gyda gofal'

Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r Cyfrifiad ydy'r "ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru" ond fod yr arolwg blynyddol yn "ffynhonnell ddefnyddiol".

Yn 么l canfyddiadau diweddaraf yr arolwg, roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.4%, 241,300) nag unrhyw gr诺p oedran arall.

Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Dyma rai o ganfyddiadau eraill yr arolwg:

  • Yn Sir Gaerfyrddin (91,700), Gwynedd (91,200) a Chaerdydd (76,100) y mae鈥檙 niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (10,000) a Merthyr Tudful (12,500) y mae鈥檙 niferoedd isaf;

  • Yng Ngwynedd (76.3%) ac Ynys M么n (59.3%) y mae鈥檙 canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (14.6%) a Rhondda Cynon Taf (16.4%) y mae鈥檙 canrannau isaf;

  • Adroddodd 14.4% (443,800) o bobl dair oed neu h欧n eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.4% (165,500) yn wythnosol a 6.5% (201,200) yn llai aml. Dywedodd 1.7% (51,700) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.0% yn gallu siarad Cymraeg;

  • Dywedodd 32.5% (1,001,500) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.7% (759,200) ddarllen yn Gymraeg a 22.2% (684,500) ysgrifennu鈥檔 Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eluned Morgan yw'r gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg erbyn hyn, ar 么l ymddiswyddiad Jeremy Miles

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y "gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol" ond mae hefyd yn cynghori y "dylid dehongli'r gostyngiad gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y ddau gyfnod".

Cafodd cyfweliadau wyneb yn wyneb eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, a chafodd yr holl gyfweliadau eu cynnal dros y ff么n.

Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu cyflwyno eto yn ystod tymor yr hydref 2023, sy鈥檔 golygu fod y data diweddaraf yn seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau dros y ff么n a rhai wyneb yn wyneb.

Mae鈥檙 llywodraeth hefyd yn ystyried y data ochr yn ochr 芒 ffynonellau eraill, gyda鈥檙 Cyfrifiad yn parhau i fod yn brif ffynhonnell.

Ond gan fod yr arolwg yn darparu canlyniadau bob tri mis, mae鈥檙 llywodraeth o'r farn ei fod yn "ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu鈥檙 boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cynyddu defnydd o'r iaith o fewn y cartref yn rhan bwysig o'r gwaith" i geisio cyrraedd targedau Cymraeg 2050

Yn 么l Cyfrifiad 2021, roedd tua 538,300 o'r boblogaeth tair oed neu'n h欧n yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, neu 17.8% o'r boblogaeth.

Dyna oedd y ganran isaf a gafodd ei gofnodi erioed mewn cyfrifiad.

Roedd hyn yn ostyngiad o tua 24,000 ers Cyfrifiad 2011 (neu 1.2% yn is), pan oedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg (neu 19% o'r boblogaeth).

Drwy Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cynyddu canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy鈥檔 gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o'r Gymraeg, o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050 ac i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Cynlluniau cadarn'

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y 大象传媒 bod "gennym gynlluniau cadarn ar waith," gan gynnwys:

  • comisiynu ymchwil i ddeall natur y newid iaith sy'n digwydd ar lefel gymunedol;

  • cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg yn gynharach yr wythnos hon;

  • sefydlu comisiwn arbennig i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg;

  • cynyddu trosglwyddiad iaith yn y cartref, ymysg pobl ifanc ac o fewn cymunedau;

  • rhoi gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a'r gweithlu addysg.