Daniel James yn 么l i Gymru ar gyfer gemau Twrci a Gwlad yr I芒

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Daniel James wedi sgorio saith g么l mewn 53 o gemau i Gymru

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau olaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.

Mae Daniel James wedi'i gynnwys gan Bellamy am y tro cyntaf ar 么l i anaf ei gadw allan o gemau diweddar.

Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Rubin Colwill, yn ymuno 芒 James yn y garfan o 26 chwaraewr hefyd.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn yr ail safle yn nhabl gr诺p pedwar yng nghynghrair B, dau bwynt y tu 么l i Dwrci sydd ar y brig.

Bydd Cymru yn wynebu Twrci oddi cartref ar 16 Tachwedd, cyn croesawu Gwlad yr I芒 i Gaerdydd dridiau yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Di-sgor oedd hi pan deithiodd Twrci i Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Medi

Mae Aaron Ramsey yn absennol ar 么l ei anaf ym muddugoliaeth Cymru o 2-1 yn Montenegro ar ddechrau mis Medi.

Does dim lle i Ethan Ampadu nac Ollie Cooper oherwydd anafiadau chwaith.

Ond mae Joe Allen yn cadw ei le wedi iddo ddychwelyd o'i ymddeoliad rhyngwladol fel eilydd yn yr ail hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf.

Mae Bellamy hefyd wedi gwneud un newid i鈥檞 opsiynau yn y g么l gyda golwr Wolverhampton Wanderers Tom King yn cael ei ddewis yn lle Adam Davies o Sheffield United.

Carfan Cymru i wynebu Twrci a Gwlad yr I芒

Golwyr: Danny Ward, Karl Darlow, Tom King.

Amddiffynwyr: Rhys Norrington-Davies, Owen Beck, Ben Davies, Ben Cabango, Joe Rodon, Chris Mepham, Connor Roberts, Neco Williams.

Canol cae: Jordan James, Rubin Colwill, Josh Sheehan, Joe Allen, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Sorba Thomas, Wes Burns.

Ymosodwyr: Brennan Johnson, Kieffer Moore, Mark Harris, Nathan Broadhead, Lewis Koumas, Liam Cullen.