Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
M么n: Cynnydd mewn cerbydau trwm yn bryder i bentrefwyr
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Daeth dros 35 o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Fawrth i drafod pryderon am gynnydd yn nifer y cerbydau trwm sy'n teithio drwy bentref ar Ynys M么n.
Yn 么l y rhai sy'n byw yng Ngwalchmai mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y lor茂au sy'n teithio ar yr A5 sy'n mynd drwy'r pentref - yn hytrach na'r A55 gerllaw.
Dywed Cyngor M么n bod arwyddion wedi eu gosod i annog gyrwyr i ddefnyddio ffordd ddeuol yr A55 a bod yna fwriad hefyd i gynnal arolygon traffig.
Ond yn 么l sawl un oedd yn bresennol yn y cyfarfod mae'r broblem wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf.
Pan gwblhawyd cymal olaf yr A55 rhwng Llanfairpwll a Chaergybi yn 2001, y disgwyl oedd y byddai mwyafrif helaeth y traffig yn cael ei ddargyfeirio o'r A5 tuag at y ffordd ddeuol newydd.
Mae'r A5 yn rhedeg drwy sawl pentref gan gynnwys Gaerwen, Gwalchmai, Bryngwran a Chaergeiliog.
Ond gyda Stad Ddiwydiannol Mona wedi denu sawl busnes, mae ei phoblogrwydd wedi gweld cynnydd diweddar yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r A5 drwy Walchmai cyn ailymuno gyda'r A55 yng nghyffordd 5.
Dymuniad pobl leol yw fod cerbydau yn troi yn eu holau tuag at gyffordd 6, ger Rhostrehwfa, er mwyn tarfu llai ar bentrefi poblog.
'50 o lor茂au mewn diwrnod'
O flaen y cyfarfod nos Fawrth dywedodd Neville Evans, cynghorydd sir sy'n cynrychioli'r pentref fel rhan o ward Crigyll, fod nifer y cwynion wedi codi dros y misoedd diwetha'.
"Roedd o'n broblem llai yn y gorffennol, mae o wedi cynyddu ac oedd 'na rhywun yn adrodd i mi y diwrnod o'r blaen bod nhw wedi cyfri 50 o lor茂au yn mynd drwy Walchmai mewn un diwrnod.
"Fel rhywun sydd wedi ei eni a'i fagu yn y pentra nesa ym Mryngwran ac yn byw ar yr A5, dwi'n cydymdeimlo hefo'r trigolion sy'n byw yng Ngwalchmai oherwydd 'nes i ddiodda hynny am flynyddoedd."
"Digwydd bod roeddwn yn glerc y cyngor bro ym Mryngwran pan godwyd y mater o gael ffordd osgoi, ac un o'r rhesymau pennaf i gael yr A55 oedd y lor茂au anferth oedd yn trafeilio drwy bob un pentref.
"Yn sicr 'dan ni'n s么n am gael arwyddion, nid yn unig ar yr A5, ond gobeithio ar yr A55 hefyd.
"'Dan ni hefyd yn trafod hefo'r cwmniau i berswadio nhw i ofyn yn garedig i'w dreifars osgoi Gwalchmai gora' medran nhw, ond weithiau mae'n anorfod wrth gwrs.
"Mae 'na nifer yn cwyno fod craciau yn ymddangos yn eu tai ac mae'n effeithio ar yr amgylchedd a'r bobl sy'n byw yma wrth gwrs."
'Mae'n ddiddiwedd'
Yn 么l Keith David Webster, sydd wedi byw yng Ngwalchmai ers dros 40 mlynedd, mi fasa cyswllt uniongyrchol rhwng y stad ddiwydiannol a'r A55 yn lleddfu'r broblem.
"Ers iddyn nhw gau'r truck stop yng Nghaergybi, mae mwy o gwmn茂au yn defnyddio Mona felly mae 'na fynd a dod yn ddiddiwedd," meddai.
"Wnes i ymddeol dair blynedd yn 么l, dwi'n 76 rwan, ond yn ystyried symud fy stafell wely i gefn y t欧 fel alla'i gysgu."
Dywedodd Aelod o'r Senedd yr ynys, a drefnodd y cyfarfod, fod gobaith o ddarganfod cyfaddawd er mwyn datrys y broblem.
"Pan gafodd yr A55 ei hagor mi wnaeth pentrefi fel Gwalchmai dawelu a dod yn fwy diogel oherwydd hynny," meddai Rhun ap Iorwerth.
"Ond rwan da ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y lor茂au, dydi o ddim yn dderbyniol."
Ychwanegodd: "Mae bob un dwi 'di siarad hefo nhw yn y sector gludiant ym Mona yn gefnogol o'r mesurau 'da ni'n chwilio amdanyn nhw.
"Dydyn nhw ddim isho achosi poen meddwl i bobl y pentra.
"Yr her, wrth gwrs, ydi sicrhau fod y gyrwyr hynny - llawer ohonyn nhw ddim yn 'nabod yr ardal - yn mynd 'chydig bach yn hirach ond sy'n well i'r pentref, gwell i'r amgylchedd ac yn debyg o fod ychydig yn rhatach hefyd."
Gosod arwyddion
Mewn datganiad dywedodd Cyngor M么n eu bod yn ymwybodol o bryderon lleol ac bod bwriad i gynnal arolygon traffig.
"Mae'r cyngor wedi gosod arwyddion ar yr allanfa o Mona, sy'n cyfeirio gyrwyr HGV i droi i'r chwith tuag at yr A55 (Cyffordd 6 Tyrpeg Nant) i ailymuno 芒'r ffordd ddeuol ar gyfer eu taith ymlaen.
"Mae arolygon traffig ar hyd yr A5 yng Ngwalchmai hefyd wedi eu trefnu. Bydd canlyniadau鈥檙 arolwg yn rhoi darlun cliriach o symudiadau cerbydau, a phe bai unrhyw dystiolaeth o gyflymder gormodol, bydd y wybodaeth yma yn cael ei hanfon ymlaen at Heddlu Gogledd Cymru a Gan Bwyll.
"Mae cais wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ystyried gosod arwyddion ychwanegol ar yr A55; cyfeirio traffig HGV tua'r dwyrain i ddefnyddio Cyffordd 6, yn hytrach cyffordd 5 yr A55, i gael mynediad i Ystad Ddiwydiannol Mona.
"Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i bwysleisio'r angen am gyfleusterau digonol ar gyfer HGVs a'u gyrwyr yng Nghaergybi, a fyddai'n lleihau'r angen am lawer o'r teithiau HGV i Mona."