Anafiadau difrifol i yrrwr beic cwad wedi gwrthdrawiad

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghil-y-Coed

Mae 'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar 么l i ddyn yn ei bumdegau ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad beic cwad yng Nghil-y-Coed.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 13:10 dydd Gwener ger y dafarn The Measure Inn ar Ffordd Casnewydd.

Yn 么l Heddlu Gwent, fe wnaeth beic cwad coch a gwyn daro wal a char oedd wedi'i barcio ar y ffordd.

Mae gyrrwr y beic cwad yn yr ysbyty ar hyn o bryd gydag anafiadau difrifol, meddai'r llu.