大象传媒

Si芒n Reese-Williams: Pum mlynedd o gasineb yn dal i gael effaith

Sian Reese WilliamsFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "pobl yn anghofio bod ti鈥檔 berson weithiau", meddai'r actores, Si芒n Reese-Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-actor ar opera sebon Emmerdale, Si芒n Reese-Williams, yn dweud iddi gael amser caled yn ei chyfnod ar y gyfres oherwydd yr holl sylw roedd hi鈥檔 ei gael gan y cyhoedd.

Mae鈥檔 dweud bod gwylwyr yn gwneud sylwadau personol pan roedden nhw yn ei gweld hi, a bod hyn wedi effeithio ar ei hyder.

Bu鈥檔 trafod ei phrofiad o actio ar Emmerdale yn ystod sgwrs ar raglen Taith Bywyd ar S4C.

Fe ymunodd Si芒n ag Emmerdale yn 2008 a bu鈥檔 chwarae cymeriad Gennie Walker am dros 700 o benodau.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Si芒n yn trafod ei phrofiad o actio ar Emmerdale yn ystod sgwrs ar raglen Taith Bywyd ar S4C

Er i Si芒n ddweud fod ei chyfnod ar Emmerdale yn un "arbennig", roedd delio gyda鈥檙 sylw yn anodd, meddai.

Dywedodd Si芒n: 鈥淣es i ffeindio hwnna yn eithaf anodd, roedd e鈥檔 struggle i fi.

"Pan wyt ti mewn opera sebon, mae ryw fath o ownership, achos mae pobl yn gweld ti pob nos.

鈥淭i yn eu hystafell fyw nhw pob nos, ac mae pobl yn anghofio bod ti鈥檔 berson weithiau, ac mae鈥檙 pethau mae pobl yn teimlo maen nhw鈥檔 gallu gweud wrtha ti bach yn rhy bersonol...

"Ac mae lot o bobl ddim yn neis iawn, ddim yn garedig, ac mae hwnna yn gallu bod yn tricky.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Si芒n yn chwarae rhan DCI Cadi John yn y ddrama Craith, gyda Si么n Alun Davies

鈥淩oedd y pethau roedd pobl yn dweud amdani fel 鈥unlucky in love鈥, 鈥ugly duckling鈥...

"Pan wyt ti鈥檔 clywed hwnna pob dydd am bum mlynedd, i fi, gath hwnna effaith ar hyder fi am sbel a gymerodd e eitha鈥 lot o amser i dynnu鈥檔 hunan mas o hwnna.

"A dal nawr, weithiau mae鈥檙 llais negyddol yn pen fi, fi鈥檔 gw'bod bod e鈥檔 dod o鈥檙 cyfnod yna.鈥

Ar y rhaglen mae Si芒n yn cwrdd ag un o s锚r mwyaf Emmerdale ar y pryd, Sammy Winward, oedd yn actio鈥檙 rhan Katie Sugden am 14 mlynedd, a ddaeth yn ffrind agos hefyd.

Yn 2018, cafodd Si芒n ei chastio fel y brif ran yn y ddrama Craith gan wneud tair cyfres i S4C a fersiwn Saesneg o鈥檙 enw Hidden i鈥檙 大象传媒.

Cafodd y gyfres hefyd ei darlledu ar draws y byd.