大象传媒

Pryder wrth i feddygfa Tyddewi ddychwelyd ei chytundeb

Disgrifiad,

Aeth John George yn emosiynol yn trafod y mater gyda'n gohebydd Elen Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae meddygfa yng ngogledd Sir Benfro wedi rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 chytundeb gyda鈥檙 bwrdd iechyd.

Gyda 2,700 o gleifion wedi鈥檜 cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant, Tyddewi, gwnaed y penderfyniad i roi鈥檙 cytundeb yn 么l gan y partner meddyg teulu.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd y gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel yr arfer am rai misoedd eto, cyn y bydd penderfyniad ar ddyfodol y feddygfa.

Dyma fydd y bedwaredd feddygfa i roi eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn 么l o fewn y bwrdd iechyd ers 2022.

Mae'r Aelod Seneddol dros etholaeth Preseli Penfro, Paul Davies yn galw am dryloywder gan y bwrdd iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 2,700 o gleifion wedi鈥檜 cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant, Tyddewi

Wedi byw yn Nhyddewi am y rhan fwyaf o鈥檌 oes, mae John George, 88, yn poeni鈥檔 arw am ddyfodol Meddygfa Dewi Sant, gyda鈥檌 feddygfa ef yn Solfach wedi wynebu sefyllfa debyg yn ddiweddar.

鈥淏eth sy鈥檔 mynd i ddigwydd i Dyddewi?

"Dwi鈥檔 gwybod does ganddon ni ddim fawr iawn, ond beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd yma?

"Beth am y bobl hen a鈥檙 bobl sy鈥檔 s芒l? Pobl sy鈥檔 ffaelu mynd, dim car, dim lot o fws nawr ar hyn o bryd. Lle ma鈥 nhw鈥檔 mynd i fynd?鈥

Bydd gwasanaethau meddygon teulu Meddygfa Dewi Sant yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal tan ddiwedd mis Hydref 2024.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynghori cleifion i barhau鈥檔 gofrestredig gyda鈥檙 practis tra bod cynlluniau tymor hir yn cael eu datblygu.

'Lot o bobl yn d诺ad 鈥榤a'

鈥淒wi鈥檔 gobeithio fyddan nhw鈥檔 ystyried hynny yn galed. Ma鈥 nhw wedi 鈥榥eud e'n Solfach ond sai鈥檔 gwybod am faint,鈥 meddai Mr George.

鈥淢ae e鈥檔 bwysig iawn achos mae e鈥檔 15 milltir i Hwlffordd neu i Abergwaun.

鈥淕es i pwl dwy flynedd yn 么l a sai鈥檔 reit ers hynny a ma鈥 long Covid gyda fi. Dwi鈥檔 gorfod mynd at y meddyg鈥

"Ma' lot, lot, lot o bobl yn d诺ad 'ma. Maen nhw yma ar wyliau, maen nhw 'ma drwy鈥檙 amser.

"Mae鈥檙 meddyg si诺r o fod yn fishi, fishi, fishi. R鈥檜n peth 芒 Solfach.

"Ni鈥檔 mynd yn h欧n. Mae鈥檙 pwysau yn mynd arnon ni.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gwasanaethau meddygon teulu y feddygfa yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal tan ddiwedd mis Hydref 2024

Yn 么l Meddygfa Dewi Sant, cafodd y penderfyniad i ymddiswyddo o鈥檙 Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ei wneud gan eu Partner Meddyg Teulu, sy鈥檔 gweithio ar ei ben ei hun.

Dyma fydd y bedwaredd feddygfa i roi eu cytundeb yn 么l o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2022.

Y rhai eraill yw Meddygfa Neyland a Johnston, Meddygfa Solfach a Meddygfa Cross Hands a Thymbl.

'Anodd iawn denu pobl yma'

Wedi byw yn Nhyddewi ers 45 o flynyddoedd, yr hyn fydd yn digwydd ar 么l mis Hydref yw pryder pennaf Michael Grange, 76.

鈥淒wi鈥檔 credu fydd wastad meddygfa yma,鈥 meddai, 鈥渙nd mae鈥檔 well i gael person parhaol yma yn hytrach na chyfres o locums, sef y ffordd mae pethau鈥檔 mynd ar hyn o bryd.

"Mae鈥檔 anodd iawn i ddenu pobl yma.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr hyn fydd yn digwydd ar 么l mis Hydref yw pryder pennaf Michael Grange sy鈥檔 76 oed

I'r Aelod o'r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 bwrdd iechyd roi sicrwydd nawr i gleifion a鈥檙 gymuned ehangach.

鈥淏eth mae鈥檙 cleifion eisiau ei weld yw tryloywder oddi wrth y bwrdd iechyd i wybod beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf,鈥 meddai.

鈥淒wi鈥檔 gwybod maen nhw wedi dweud fe fydd y gwasanaethau yma yn parhau o leiaf tan yr Hydref, ond mae鈥檔 rhaid i ni wybod beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd wedyn.

"Dyna beth mae鈥檔 rhaid i鈥檙 bwrdd iechyd lleol ddweud wrth y gymuned ac wrthon ni gyd.

"Dyna pam mae hi mor bwysig nawr bod y bwrdd iechyd lleol yn cynllunio ymlaen, ac mae鈥檔 rhaid iddyn nhw sicrhau bod nhw鈥檔 gwneud hynny.鈥

'Cyfnod heriol'

Dywedodd Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal sylfaenol, cymunedol a hirdymor Hywel Dda: 鈥淏yddwn yn gweithio鈥檔 agos gyda Meddygfa Dewi Sant a鈥檙 clwstwr ehangach i ddod o hyd i鈥檙 ffordd orau o sicrhau gwasanaethau i gleifion.

鈥淩ydym yn gwerthfawrogi鈥檔 fawr y gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i鈥檙 t卯m ym Meddygfa Dewi Sant trwy gydol y cyfnod heriol hwn.鈥

Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mi fyddan nhw鈥檔 ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant i roi gwybod iddynt am y sefyllfa.

Maen nhw hefyd yn addo cyfle i gleifion a鈥檙 gymuned leol rannu eu barn yngl欧n 芒 darpariaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

Galw ar y llywodraeth i wneud mwy

Ond galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i鈥檙 adwy mae BMA Cymru.

鈥淩ydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac i weithredu,鈥 meddai cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, Dr Gareth Oelmann.

鈥淢ae buddsoddi mewn ymarfer cyffredinol (general practice) yn ymrwymiad i iechyd a lles pob dinesydd.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel y duedd ledled y DU, mae newid tuag at feddygfeydd mwy, gyda chymysgedd ehangach o weithwyr proffesiynol mewn un lleoliad, yn darparu amrywiaeth fwy o wasanaethau.

"Mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn parhau'n sefydlog, gyda chynnydd mewn staff meddygfa ehangach yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym yn gweithio i leihau'r pwysau ar feddygon teulu, drwy gyflwyno GIG 111 Cymru a chynyddu'r gwasanaethau mae fferyllfeydd cymunedol yn eu darparu.

"Mae diwygiadau i gontractau meddygon teulu wedi helpu i leihau biwrocratiaeth a rhyddhau mwy o amser i feddygon teulu weld cleifion."

Pynciau cysylltiedig