Cau ffordd yn Llanberis er mwyn ffrwydro dyfais

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr A4086 ei chau i'r cyhoedd wrth i'r ddyfais gael ei ffrwydro

Cafodd ffordd ei chau yn Llanberis yng Ngwynedd ddydd Gwener yn dilyn pryder am "ddyfais oedd heb ffrwydro".

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr ardal ger yr A4086 wedi cael ei chau i'r cyhoedd wrth iddyn nhw wedi "gwneud y ddyfais yn ddiogel" gyda ffrwydrad oedd wedi'i reoli.

Dydyn nhw ddim wedi manylu am beth yn union oedd y ddyfais.

Mae'r ffordd bellach wedi ailagor, ac fe wnaeth yr heddlu ymddiheuro am yr anghyfleustra a diolch i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth.

I osgoi neges Facebook
Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Facebook a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook