Mam yn 'fregus' ar 么l i fenyw dwyllo elusen ei mab fu farw

Disgrifiad o'r llun, Sefydlodd Natalie (canol) elusen yn enw ei mab, Morgan (dde), fu farw yn dair oed
  • Awdur, Meleri Williams
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae mam o Abertawe鈥檔 dweud ei bod yn teimlo鈥檔 鈥渇regus鈥 ar 么l i fenyw dwyllo elusen a gafodd ei sefydlu yn enw ei mab fu farw.

Bu farw Morgan Ridler, oedd yn dair oed y llynedd ar 么l cael diagnosis o fath prin o ganser.

Dywedodd ei fam, Natalie Ridler a sefydlodd elusen Morgan鈥檚 Army, ei bod wedi derbyn cais gan fenyw oedd yn honni bod gan ei phlentyn hi ganser a'i bod hi angen help i ariannu triniaeth dramor.

Ond wythnosau ar 么l cefnogi Charlotte Blackwell, 40 o Ben-y-bont ar Ogwr, drwy ei helpu i godi arian ar gyfer triniaeth, daeth Mrs Ridler i ddeall ei bod wedi dweud celwydd.

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd Natalie Ridler bod hyn wedi dangos "pa mor na茂f y galla鈥 i fod, hyd yn oed os yw teuluoedd wedi bod trwy鈥檙 pethau erchyll ry鈥檔 ni wedi, y bydden nhw鈥檔 dal i drio gwneud pethau fel hyn鈥.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Morgan Ridler ddiagnosis o fath prin o ganser yn 2021

Roedd Natalie Ridler yn siarad wedi i Blackwell bledio'n euog yn Llys Ynadon Caerdydd o dwyllo elusen Morgan's Army er mwyn ceisio cael 拢4,000 iddi hi ei hun.

Ar 15 Awst, cafodd ei dedfrydu i 10 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 21 mis.

Bydd yn rhaid iddi hefyd gwblhau 180 awr o waith di-d芒l ac mae hi wedi cael cyrffyw am bedwar mis rhwng 20:00 a 07:00.

O Orseinon ger Abertawe, mae Morgan鈥檚 Army yn cefnogi teuluoedd sy鈥檔 wynebu galar a thriniaeth canser.

Pan gysylltodd Blackwell 芒 nhw yn gynharach eleni, dywedodd Mrs Ridler iddi ei helpu gyda chyngor codi arian.

鈥淩oedd y teulu鈥檔 gofyn am help. Roedd hi eisiau arian tuag at driniaeth," meddai.

鈥淔e wnaethon ni estyn allan at elusennau eraill oedd yn arbenigo yn hyn.鈥

Dywedodd Mrs Ridler eu bod wedi helpu'r teulu gyda thudalen GoFundMe.

Ond sylwodd fod Blackwell yn amharod i gael cymorth gan elusennau eraill.

鈥淪iaradais 芒 rhai elusennau 鈥 ac er eu bod yn gyfarwydd 芒鈥檙 teulu hwn oherwydd eu bod wedi cael diagnosis canser rai blynyddoedd yn 么l 鈥 dywedon nhw nad oedd y teulu yn ail-chwilio am driniaeth.

鈥淧an wnes i drio ffonio鈥檙 fam, doedd hi ddim yn ateb, ac yn dal meddwl am esgusodion.

鈥淕ofynnais iddi yn blaen鈥 roedd tawelwch.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, 鈥淩wy鈥檔 benderfynol o fyw yn 么l y gwersi bywyd a ddysgodd Morgan i mi"

Cysylltodd Mrs Ridler 芒'r heddlu a'r Comisiwn Elusennau.

鈥淔e wnaethon ni rewi'r dudalen Go Fund Me a chael ad-daliad o roddion pawb yn 么l iddyn nhw.

鈥淩o鈥檔 i wedi treulio dwy neu dair wythnos yn siarad 芒鈥檙 person hwn, yn ceisio ei chynnal yn emosiynol trwy ofal lliniarol, ac yn ceisio ei helpu i godi arian ar gyfer triniaeth.

鈥淔e wnaeth i fi deimlo fy mod wedi methu鈥檙 elusen. Roeddwn i'n meddwl bod ein gwaith gwirio ni鈥檔 ddigon trylwyr."

'Teimlo'n dwp ac yn siomedig'

Dywedodd Mrs Ridler iddi 鈥渄eimlo鈥檔 dwp ac yn siomedig鈥 ar 么l y profiad.

鈥淵n dilyn y ddedfryd, bu鈥檔 rhaid i mi wneud llawer o hunanfyfyrio ar ba mor fregus ydw i oherwydd fy mod yn rhannu ein galar a鈥檔 bywyd mor agored ar-lein.

鈥淩ydyn ni'n helpu llawer o bobl sy'n mynd trwy alar a chyfnodau anodd oherwydd rydyn ni'n siarad mor agored a gallwn ni eu helpu i deimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

鈥淩wy鈥檔 benderfynol o fyw yn 么l y gwersi bywyd a ddysgodd Morgan i mi. Bod yn empathetig, bod yn dosturiol a charu ac ymddiried.鈥