Dyn ifanc wedi marw ar 么l llithro ar graig rydd ar fynydd Tryfan - cwest

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Phil Zhu ym mis Mai ar 么l iddo syrthio ar fynydd Tryfan

Bu farw dyn 19 oed wedi iddo lithro ar graig rydd wrth ddringo mynydd yn Eryri, mae cwest wedi clywed.

Roedd Jia Jun Philip Zhu, neu Phil, yn cerdded i lawr Tryfan gyda'i ddau frawd iau pan syrthiodd i mewn i rigol (gully).

Dywedodd y crwner mai damwain oedd ei farwolaeth.

Clywodd y cwest fod Phil Zhu yn fyfyriwr ac yn hyfforddwr crefftau ymladd (martial arts) o ardal Seaforth, Glannau Merswy, a'i fod yn gobeithio ymuno 芒'r Awyrlu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Phil a'i frodyr wedi cerdded i ben Tryfan ac yn dod lawr mewn tywydd gwael

Roedd ef a鈥檌 ddau frawd yn Eryri ar ddydd Llun G诺yl y Banc ddiwedd mis Mai.

Roedden nhw wedi cerdded i ben Tryfan ac yn dod lawr mewn tywydd gwael gyda chymylau isel.

Dywedodd un o frodyr Phil Zhu wrth yr heddlu fod Phil wedi dringo ar graig rydd ac wedi colli ei gydbwysedd a syrthio.

Cafodd y dystiolaeth ei darllen yn y cwest gan y patholegydd Dr Chloe Durrell, a wnaeth archwiliad post mortem.

Dywedodd ei fod wedi dioddef anafiadau i'w ben ac i'w asgwrn cefn yn ystod y cwymp. Nid oedd modd iddo oroesi'r anafiadau, meddai.

'Falch iawn o Phil'

Daeth y crwner John Gittins i gasgliad o farwolaeth ddamweiniol, a dywedodd: 鈥淏ydd colled fawr ar ei 么l gan bawb.

鈥淎 ga'i anfon cydymdeimlad arbennig at ei ddau frawd a gafodd y drasiedi ychwanegol o fod yno, ac ymdopi 芒鈥檙 trawma hwnnw.鈥

Wrth siarad ar 么l y gwrandawiad, diolchodd ewythr Phil Zhu, Philip Cheng i'r gymuned am y gefnogaeth a gafodd y teulu ar 么l ei farwolaeth.

鈥淩hoddodd Phil lawer o amser i helpu i hyfforddi pobl ifanc mewn Crefft Ymladd Cymysg, ac mae pawb yn y gampfa lle鈥檙 oedd wedi鈥檌 leoli wedi bod yn anhygoel.

鈥淏ydd yn creu gwaddol i鈥檞 waith fel hyfforddwr.

鈥淩ydym yn falch iawn o Phil.聽Roedd yn ddyn ifanc arbennig ac yn golled enfawr i鈥檞 deulu a鈥檌 gymuned.鈥