Gŵyl Sŵn 2024: Uchafbwyntiau Molly Palmer

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Y DJ, Molly Palmer

Mae Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi bod yn rhan allweddol o'r sîn gerddorol yng Nghymru ers 2007, a rhwng 17 a 19 Hydref cynhaliwyd yr ŵyl unwaith eto eleni.

Mae Sŵn yn cael ei gynnal mewn nifer o wahanol leoliadau ledled y brifddinas, yn llwyfannu bandiau o Gymru a thu hwnt.

Rhywun oedd yn Sŵn eleni oedd y DJ, Molly Palmer, ac fe ofynnodd Cymru Fyw iddi rannu pump o uchafbwyntiau yr ŵyl eleni.

Marged

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Mae Marged hefyd yn canu gyda Self Esteem

Yn ferch balch iawn o Gaerdydd, fe wnaeth set Marged fy syfrdanu. Yn Tiny Rebel, cipiodd Marged sylw'r ystafell gyda'i range lleisiol arbennig (dywedodd ei bod yn sâl, a chyn y sioe roedd hi'n bwyta sinsir - amrwd, fel afal. Eicon! Hoffwn pe bawn i'n swnio fel hi gydag annwyd!)

Yn fflyrtio rhwng jazz, hip-hop ac R&B, canodd Marged am brofiadau personol, gan sianelu ei cherddoriaeth drwy ei chorff. Hefyd roedd ganddi draciau bŵgi ac fe chafodd hi’r ystafell yn grŵfio gyda hi – ma' hi’n hollol arallfydol!

NewWaveSound.Ent

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Perfformiad egnïol NewWaveSound.Ent yn Tiny Rebel

Mae'r ddeuawd rap yma o Gaerdydd yn rhannu gymaint o lawenydd pur! Aethon ni i'w gweld nhw yn Tiny Rebel allan o chwilfrydedd wrth deimlo'n eithaf blinedig nos Iau (diwrnod hir!).

Wedi 45 munud roeddwn i'n teimlo fel fy mod i wedi bod trwy ‘happiness car wash’! Roedd eu set yn llawn egni a churiadau heintus, ac roedden nhw'n cysylltu gyda'r gynulleidfa drwy gydol y set.

Roedd pawb yn dawnsio gyda nhw wrth iddyn nhw gamu o’r llwyfan i’r dorf, (gan roi ail wynt i fi hefyd), ac roedd fy mochau i’n brifo ar ôl 45 munud o wenu. Cadwch lygad allan amdanyn nhw!

Adwaith

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Adwaith, y band indie-rock o Gaerfyrddin

Roed tipyn o amser wedi bod ers i mi weld Adwaith - y band ôl-pync sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith.

Yn chwarae yn Tramshed (a oedd yn llawn dop) ‘nath y band ddim fy siomi! Fe lenwodd y neuadd gan sŵn eu gitarau ac roedd yr harmonïau’n berffaith. Roedd eu presenoldeb llwyfan hefyd yn wych.

Maen nhw newydd orffen taith Ewropeaidd, ac fe ddaeth y cyhoeddiad o’r llwyfan ar y penwythnos bod trydydd albwm y band am lanio yn y flwyddyn newydd. Cafodd cwpwl o draciau o’r albwm nesa’ ei chwarae yn ystod y gig yn y Tramshed. Cyffrous!

Plastic Estate

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Jacob’s Antiques Market oedd lleoliad perfformiad Plastic Estate

Rydw i’n ffan enfawr o’r ddeuawd sophisticated-pop yma o Gymru. Mae Plastic Estate newydd ryddhau eu halbwm newydd Code D'Amour bythefnos yn ôl, ac roedd y dorf yn frwd ac yn llawn cyffro yn Jacob’s Antiques Market - lleoliad addas i'w vibe nhw fel band.

Dychmygwch os fysa Depeche Mode a China Crisis wedi cael love child... Plastic Estate fyddai'r canlyniad. ‘Nes i erioed feddwl y byddwn i'n clywed pobl yn canu chants pêl-droed i gerddoriaeth new wave a dark pop, ond dyna ddigwyddodd, ac mi wnes i fwynhau bob eiliad ohono. Synth heaven!

Talulah

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer

Disgrifiad o'r llun, Act o'r gogledd sy'n creu dipyn o argraff - Talulah

Mae gwrando ar Talulah'n perfformio'n brofiad tebyg i arnofio ar gwmwl, a dyma oedd gig cyntaf nhw yn yr eiconig Clwb Ifor Bach.

Mae llais Talulah wastad yn gwneud i mi deimlo'n hiraethus, gan gyfuno genres gyda'i gilydd i greu set sy'n gwneud i chi anghofio'r byd sy' tu allan am sbel.

Mae Talulah yn adlewyrchiad o'r garfan newydd o dalent sy'n dod drwodd yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd, a gyda'r EP newydd allan nawr mae Talulah yn sicr yn un i'w gwylio.