A ddylai pobl sy'n gweithio adref ddychwelyd i'r swyddfa?

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 250 o staff yn nh卯m gwerthu Creditsafe wedi dychwelyd i'r swyddfa yn llawn amser ers tro

Ydy eich cyflogwr chi yn ceisio'ch cael chi i dreulio mwy o amser yn y swyddfa?

Os felly, nid chi yw'r unig un, wrth i nifer o gwmn茂au geisio lleihau gweithio o adref a chael pobl yn 么l i'r gweithle.

Mae'n ddatblygiad y mae nifer yn ei groesawu, ond nid pawb - gyda nifer wedi arfer gyda'r rhyddid o weithio adref.

Dros bedair blynedd ers y pandemig, mae gweithio o adref yn parhau'n fater sy'n hollti barn.

Mae rhai wedi bod yn falch o beidio gorfod teithio i'r swyddfa, ond mae eraill yn teimlo nad oes modd troi i ffwrdd o'r gwaith tra'n gweithio adref.

Mae'r corff sy'n cynrychioli canolfannau galwadau yng Nghymru yn dweud bod nifer o gyflogwyr nawr yn symud tuag at bolisi o ddau neu dri diwrnod yr wythnos yn y swyddfa, a chefnu ar drefniadau hollol hyblyg.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Zoe Terry yn falch iawn o ddychwelyd i'r swyddfa

"Pan o'n i adre, dim ond Teams call o'n i'n cael, ac o'n i'n byw ar ben fy hunan felly oedd e'n anodd. Mae pawb yma eisiau dod mewn i'r swyddfa."

Mae'r w锚n ar wyneb Zoe Terry yn dweud y cyfan - mae'n falch cael bod n么l yn y swyddfa.

Fe ddechreuodd y fenyw 26 oed o Fargoed gyda chwmni Creditsafe yng Nghaerffili ar ddechrau'r pandemig.

Roedd rhaid iddi ddysgu ei hun dros Teams sut i weithio i'r cwmni.

"Roeddwn i yn y swyddfa am dri diwrnod, ac wedyn roedd rhaid gweithio o adref," meddai.

"Roedd popeth dros Teams, a doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai pethau fel yn y swyddfa."

'Mor neis' bod n么l yn y swyddfa

Fe wnaeth Creditsafe, sy'n cyflogi tua 250 o bobl yng Nghaerffili, ddychwelyd i wythnos pum niwrnod yn y swyddfa unwaith y cafodd cyfyngiadau Covid eu codi - y tro cyntaf i Zoe allu cwrdd 芒 nifer o'i chydweithwyr.

"Roedd e'n eye opener. Roedd e mor neis cael cwrdd 芒 pobl, bod o flaen pobl o'n i ddim wedi cwrdd 芒 nhw o'r blaen, ac mae'r swyddfa yn rhywle ni gyd yn cefnogi'n gilydd hefyd," meddai.

Mae'n deg dweud nad yw swyddfa t卯m gwerthu Creditsafe yng Nghaerffili yn swyddfa draddodiadol.

Mae bwrdd DJ a cherddoriaeth uchel yn chwarae wrth i chi gerdded mewn, a bwrdd p诺l yn nghanol y swyddfa a bwrdd dartiau yng nghornel yr ystafell.

Ond tra bo'r t卯m gwerthu wedi dychwelyd i'r swyddfa yng Nghaerffili, mae swyddfa Creditsafe ym Mae Caerdydd, ble mae'r staff technoleg gwybodaeth, yn dal i weithio'n hybrid.

Mae'r math o r么l sydd gan rywun yn cael effaith felly ar a ydyn nhw'n cael eu gwneud adref neu yn y swyddfa.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sam Roberts o gwmni Cowshed bod staff yn dod i mewn i'r swyddfa o leiaf ddeuddydd yr wythnos

Mae rhai cyflogwyr wedi mabwysiadu polisi gweithio hyblyg - fel cwmni cyfathrebu Cowshed yng Nghaerdydd - sy'n gofyn i'w staff ddod mewn i'r swyddfa ddeuddydd yr wythnos.

"Ni'n gweithio ar system gweithio ystwyth - ma' rhai yn dod mewn pob diwrnod... mae'n dibynnu," medd Sam Roberts o'r cwmni.

"Mae'n rhaid i bawb dod mewn dau ddiwrnod yr wythnos, ond mae'n dibynnu beth mae'r cleient ei angen.

"Ni 'di bod yn eitha' hyblyg yngl欧n 芒 beth mae'r staff ei angen. Does dim angen i bawb ddod mewn pob diwrnod.

"Dwi ddim yn credu bod pobl am weithio mewn swyddfa draddodiadol rhagor.

"Mae'n helpu hapusrwydd person sy'n edrych am swydd, falle bod pobl gyda phlant neu hobbies ma' nhw moyn 'neud sy'n ehangu eu bywyd, ac felly ddim moyn swydd draddodiadol mewn swyddfa."

Disgrifiad o'r llun, Mae Sandra Busby yn cydnabod fod buddion ac anfanteision o weithio adref

Yn 么l Sandra Busby - rheolwr gyfarwyddwr Cnect Wales, sy'n cynrychioli canolfannau galwadau - does dim gwahaniaeth o ran safon gwaith rhywun sy'n gweithio o adref, ar wah芒n i'r timau gwerthu, ble mae awyrgylch swyddfa yn bwysig.

"Mae pobl yn mwynhau gweithio gartref ac mae wedi bod yn allweddol i rai oherwydd Covid a'r argyfwng costau byw - maen nhw'n arbed ar deithio, ar ginio, a phethau eraill.

"Ond maen nhw'n colli allan ar bethau chi'n cael o weithio mewn swyddfa - chi'n gwneud ffrindiau oes ond chi hefyd yn dysgu, drwy wrando neu wylio rhywun arall yn gwneud rhywbeth.

"Felly dwi'n meddwl bod gwaith i wneud ar annog pobl pam fod gweithio hybrid yn addas."

Ychwanegodd nad yw trefniadau hyblyg o ddod i'r swyddfa ambell ddiwrnod yr wythnos yn gweithio, ac felly bod cwmn茂au yn gwneud trefniadau mwy ffurfiol i ddod i'r swyddfa ar ddyddiau penodol.

"Does 'na ddim pwynt i fi fynd i'r swyddfa os does neb arall o fy nh卯m i yno," meddai Ms Busby.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gyfreithwraig Fflur Jones wedi gweld anghydfod rhwng cwmn茂au a staff dros ddychwelyd i'r swyddfa

Ond nid pob cyflogwr sy'n ei chael hi mor hawdd denu eu staff yn 么l i'r swyddfa.

Mae Fflur Jones o gwmni cyfreithwyr Darwin Gray wedi gweld achosion lle mae hynny'n troi'n anghydfod.

"Mae 'na wastad un neu ddau achos a ry'n ni wedi cynghori cyflogwyr ag ambell i gyflogai sydd wedi symud ymhell i ffwrdd, ac yn teimlo fel 'mi roddwyd gwarant i fi i gael gwneud hyn, a galla i ddim coelio bod nhw nawr yn newid y peth'," meddai.

"Mae gan gyflogwyr yr hawl i edrych yn wrthrychol ar eu busnes.

"Mae 'na rai rhesymau yn golygu bod cyflogwyr nawr yn meddwl r诺an yw'r amser i'w staff nhw ddod n么l i'r swyddfa."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer yn dadlau nad oes gwahaniaeth rhwng safon gwaith pobl pan yn gweithio adref neu yn y swyddfa

Mae tensiynau dros ddychwelyd i'r swyddfa wedi bod fwyaf amlwg yn y sector cyhoeddus.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd llawer o'r gwasanaeth sifil - fel yr adrannau Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau - y byddan nhw'n parhau i fynnu bod staff yn y swyddfa o leiaf dridiau'r wythnos.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd hyd yn oed wedi cynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol ar 么l i benaethiaid geisio eu cael i weithio o'r swyddfa am ddeuddydd yr wythnos.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Darren Williams, staff unigol ddylai benderfynu a ydyn nhw am weithio o adref neu'r swyddfa

Dywedodd Darren Williams o undeb y PCS, sy'n cynrychioli gweithwyr sifil, nad yw'r achos yma yn anghyffredin chwaith, gyda staff y Gofrestrfa Tir yn Abertawe hefyd yn bwriadu cynnal pleidlais o'r fath ar gynnig i ddychwelyd i'r swyddfa am dridiau.

"Rydyn ni'n gwybod y gall pobl wneud eu swyddi, y rhan fwyaf o'r amser, yr un mor dda os ydyn nhw adref neu yn y swyddfa," meddai.

"Efallai bod tridiau'r wythnos yn gweithio'n iawn i rai pobl, yn enwedig os ydyn nhw'n byw yn agos at y swyddfa.

"Ond i eraill fe allai fod yn fyrdwn ychwanegol, di-angen, ar eu bywydau.

"Rydyn ni'n teimlo mai ein haelodau sydd yn y lle gorau i wneud y penderfyniad yna, o ran beth yw'r cydbwysedd gorau iddyn nhw."