大象传媒

Pwy yw'r bobl y tu 么l i ganu torfol Cwpan y Byd?

Disgrifiad,

'Mae'r Cymry'n hapus i droi lan i ganu ar unrhyw achlysur'

  • Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Cymru wedi cael eu hannog i ymuno yn y digwyddiad canu 鈥渕wyaf eto鈥 ym Marseille y penwythnos hwn, cyn herio Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi鈥檙 Byd.

Daw hynny wedi i gannoedd ymgynnull yn y dinasoedd mae Cymru wedi chwarae ynddyn nhw hyd yma, i ganu caneuon traddodiadol cyn y gemau.

Dywedodd un o鈥檙 trefnwyr, Huw Davies, ei bod hi鈥檔 鈥渂leser o鈥檙 eithaf鈥 i gael dangos doniau canu鈥檙 Cymry i鈥檙 byd yn ystod y gystadleuaeth.

Fe wnaeth prop Cymru, Gareth Thomas hefyd roi teyrnged yr wythnos hon i鈥檙 gefnogaeth 鈥渁nghredadwy鈥 sydd wedi dilyn y t卯m ar eu taith hyd yma yn Ffrainc.

Dechreuodd y cyfan fel cais ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn dod yn arferiad cyson cyn pob g锚m.

Fe wnaeth cannoedd o gefnogwyr Cymru ymgynnull yng nghanol Bordeaux cyn yr ornest agoriadol yn erbyn Ffiji 鈥 er y tymheredd crasboeth 鈥 i ganu ffefrynnau megis Calon Lan, Cwm Rhondda ac Hen Wlad Fy Nhadau.

Yn dilyn llwyddiant y 鈥flash mob鈥 cyntaf, trefnwyd digwyddiadau tebyg mewn lleoliadau yn Nice, Lyon a Nantes wnaeth hefyd ddenu torfeydd sylweddol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd canol Bordeaux yn f么r o goch pan ddigwyddodd y canu torfol am y tro cyntaf

鈥淢ae canu yn ein calonnau ni, a ges i鈥檙 syniad bach cyn dod draw 鈥榤a y byddai鈥檔 gr锚t i ni鈥檙 Cymry ac i drigolion y dinasoedd lleol gael blas o鈥檔 diwylliant,鈥 meddai Huw, sydd o Sir G芒r yn wreiddiol ond wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 50 mlynedd.

鈥淢ae鈥檔 hiaith a鈥檔 canu ni鈥檔 rhan bwysig o鈥檔 diwylliant ni, ac i fod yn onest mae鈥檙 bobl leol ym mhob dinas wedi adweithio.

鈥淣i鈥檔 canu anthem Ffrainc hefyd, La Marseillaise, ac maen nhw鈥檔 mwynhau hynny mas draw.鈥

'Mesen di tyfu'n dderwen'

Roedd yn ffyddiog y byddai鈥檙 digwyddiadau鈥檔 llwyddiant, meddai, gan fod y Cymry鈥檔 鈥渇wy na hapus i droi lan i ganu... ar unrhyw achlysur鈥.

鈥淵n Lyon roedd e鈥檔 anferth. Mae fel mesen sydd 鈥榙i tyfu鈥檔 dderwen,鈥 meddai Huw, sy'n aelod o G么r y Gleision.

鈥淔i鈥檔 gobeithio ym Marseille, bydd y dorf yn cynyddu eto.鈥

Mae鈥檔 falch hefyd o weld bod pobl yn 么l adref yng Nghymru wedi bod yn mwynhau clipiau o鈥檙 canu 鈥 a bod hyd yn oed chwaraewyr y garfan yn eu gwerthfawrogi.

鈥淢ae鈥檔 galonogol clywed t卯m Cymru, maen nhw鈥檔 gweld y pethe hyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw鈥檔 dweud bod hwnna鈥檔 ffantastig,鈥 meddai.

鈥淢aen nhw鈥檔 gweld y cefnogwyr yma yn eu lluoedd ac mae鈥檔 rhoi tipyn o hwb iddyn nhw.鈥

Disgrifiad,

Gareth Thomas: 'Disgwyl i Ariannin fod ar eu gorau'

Wrth siarad gyda鈥檙 wasg yr wythnos hon, fe ategodd prop Cymru Gareth Thomas y teimladau hynny.

鈥淢ae wedi bod yn anghredadwy hyd yma 鈥 pobman i wedi mynd, maen nhw wedi teithio,鈥 meddai.

鈥淐hi鈥檔 gweld y fideos ohonyn nhw鈥檔 canu ar yr awyren ac yn y strydoedd, mae鈥檔 anhygoel.鈥

Ffynhonnell y llun, Meryl Haines
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd canu gyda'r dorf yn "wefr anhygoel" meddai Meryl Haines

Un arall o鈥檙 rheiny sydd wedi bod yn mwynhau codi llais yw Meryl Haynes, cefnogwr a ymunodd yn y canu yn Bordeaux a Nice.

鈥淵 teimlad o falchder oedd y peth mwyaf, just gallu dangos i bobl yn Ffrainc bod ni鈥檔 wlad fach, ond mae gennon ni galon anferth,鈥 meddai.

鈥淥edd hi鈥檔 dipyn o dorf 鈥 oeddan ni 鈥榙i gweld y neges ar Facebook, a deud wrth bobl eraill, sydd 鈥榙i deud wrth bobl eraill, ac mae o wedi tyfu fel 鈥榥a.

'Fel maes carafanau eisteddfod!'

鈥淩oedd bod yna鈥檔 canu efo鈥檙 Cymry yn wefr anhygoel. 鈥楧an ni鈥檔 angerddol am ein gwlad ac am yr iaith... roedd pobl leol yn pasio a stopio, a just yn synnu efo鈥檙 canu.鈥

Mae Meryl wedi treulio鈥檙 saith wythnos ddiwethaf yn teithio Ffrainc gyda鈥檌 g诺r Steve yn eu cartref modur, ac yn disgrifio鈥檙 profiad fel un 鈥渁nhygoel鈥.

鈥淩oedd y lle gwersylla yn Lyon fel maes carafanau eisteddfod!鈥 meddai.

鈥淧辞产 motorhome efo鈥檙 Ddraig Goch a baneri, ac roeddach chi鈥檔 codi yn y bora a chlywed pobl yn siarad Cymraeg bobman.鈥

Ffynhonnell y llun, Meryl Haines

Fe wnaeth y gantores soprano Jessica Robinson ymuno gyda鈥檙 dorf yn Lyon, a chyflwynwraig 大象传媒 Radio Cymru, Shan Cothi fydd y gwestai arbennig ar gyfer y canu ym Marseille.

Mae Huw Davies hefyd yn obeithiol y bydd y penwythnos yn gorffen ar nodyn uchel i Gymru ar y cae hefyd.

鈥淪o ni鈥檔 mynd i roi fyny nawr,鈥 meddai.

鈥淔i eisoes wedi cael pobl o鈥檙 flash mob yn gofyn ydyn ni鈥檔 鈥榥eud un yn Paris [cyn y rownd gynderfynol].

"Wrth gwrs, medde fi, rhaid bod yn bositif!鈥