Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AS ffrae treuliau yn 'camu'n 么l' o gabinet y Ceidwadwyr
Mae arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn Senedd Cymru wedi gofyn i un o'i aelodau "gamu'n 么l" tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal i honiadau'n ymwneud 芒'i threuliau.
Daeth datganiad Andrew RT Davies yn gynnar nos Wener wedi i 大象传媒 Cymru weld negeseuon testun o ff么n Laura Anne Jones, sy'n ymddangos fel pe baent yn gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o hawliadau treuliau'r gwleidydd.
Mae Ms Jones, oedd yn weinidog diwylliant cysgodol i'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, yn destun ymchwiliadau gan yr heddlu a Chomisiynydd Safonau'r Senedd.
Mewn datganiad dywedodd ei chyfreithwyr ddydd Iau "bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr".
Mae hi hefyd wedi dweud y bydd hi'n cydweithredu'n llawn gydag "unrhyw ymchwiliad".
Dywedodd Mr Davies nos Wener: "Rwyf wedi gofyn i Laura Anne Jones gamu'n 么l o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal.
"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch unrhyw ymchwiliadau sy'n mynd rhagddynt."
Mae Ms Jones, un o ASau rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn parhau'n aelod o gr诺p y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru.
Dyw cyd-destun y negeseuon WhatsApp rhwng Ms Jones ac uwch aelod staff sydd wedi eu gweld gan 大象传媒 Cymru, ddim yn amlwg.
Gofynnodd un neges i aelod o staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok".
Mae'r ateb i'r neges yna yn ymddangos yn awgrymu ychwanegu "ymweliadau 芒 swyddfa etholaeth?".
Dywed yr ymateb o ff么n Ms Jones: "Ie - pethau fel yna" gydag emoji plygu dwylo.
Rhaid i dreuliau teithio ar gyfer Aelodau'r Senedd gael eu cymeradwyo gan yr aelodau eu hunain.
Ni all y 大象传媒 wirio a yw'r negeseuon yn cynrychioli'r holl sgyrsiau rhwng y bobl dan sylw.
Daeth yr honiadau am dreuliau Ms Jones i'r amlwg fel rhan o ymchwiliad Comisiynydd Safonau Senedd Cymru, Douglas Bain.
De毛llir bod ymchwiliad y comisiynydd safonau yn cael ei atal tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ac mae'r heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff Ceidwadol fel rhan o'r ymchwiliad.
Does neb wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu De Cymru i'r honiadau.
Mae llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, Jo Stevens, yn cwestiynu pam nad yw Ms Jones wedi cael ei gwahardd, gan ddweud bod yr honiadau yn "frawychus iawn".
Ychwanegodd bod angen i Andrew RT Davies "fod yn glir ynghylch beth oedd yn gwybod am y sefyllfa yma a phryd".
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am wahardd Ms Jones.