Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cae Sioe M么n fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai ar gae Sioe M么n y bydd yn cynnal yr Eisteddfod flynyddol yn 2026.
Daeth cadarnhad fis Mehefin y llynedd bod yr 诺yl yn dychwelyd i Ynys M么n - ac i'r un safle, ger pentref Gwalchmai - ag yn 2004.
Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 25 a 31 Mai 2026, yn 么l cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.
Dywedodd Manon Wyn Williams: 鈥淢ae ugain mlynedd ers y cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ar Ynys M么n ddiwethaf, felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei chroesawu eto yn 2026."
"Nid mater bach yw cynnal g诺yl genedlaethol fel hon ac mae llawer o waith i鈥檞 wneud eto dros y ddwy flynedd sydd i ddod," ychwanegodd Ms Williams.
鈥淵 cam nesaf yw sefydlu鈥檙 pwyllgorau ap锚l ymhob cymuned ledled yr Ynys a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian.
"Byddai鈥檔 wych gweld cynifer 芒 phosibl yn ymuno 芒鈥檙 pwyllgorau hyn a hoffem weld holl blant a phobl ifanc yr Ynys yn cael y cyfle i fod yn rhan o鈥檙 trefniadau er mwyn sicrhau y bydd hi鈥檔 Eisteddfod i鈥檞 chofio 鈥 mae croeso i bawb.鈥
Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, Llinos Medi: 鈥淏raf iawn yw clywed fod cae Sioe M么n wedi ei ddewis yn gartref i Eisteddfod yr Urdd 2026.
"Mae鈥檙 Ynys a鈥檌 thrigolion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal yr 诺yl arbennig yma.
"Bydd yn gyfle i ddathlu ac ymfalch茂o yn ein Cymreictod ac i estyn croeso cynnes i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i鈥檔 Sir ni.
"Byddwn yn parhau i gydweithio 芒鈥檙 Urdd er mwyn sicrhau bod ni鈥檔 gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfle rhagorol yma i ni ddangos Ynys M么n ar ei gorau.鈥
Mae trefnwyr yn galw nawr am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd - unigolion sydd "yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 ynys ac yn esiampl i blant a phobl ifanc heddiw".
Hefyd maen nhw'n gwahodd enwebiadau am "unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i鈥檙 Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi" i gael eu hystyried fel Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n 2026.
Ardal Maldwyn sy'n croesawu'r Eisteddfod eleni, ar Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.
Parc Margam fydd cartref yr 诺yl yn 2025, wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.