Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Is-orsaf trydan 30 erw yn Sir G芒r yn 'rhy fawr'
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae pryderon am dair is-orsaf trydan newydd a allai gael eu codi ar 12 o gaeau amaethyddol,聽fydd yn gorchuddio dros 30 erw ar gyrion Caerfyrddin.
Bwriad National Grid yw codi un is-orsaf 400kV ger Llandyfaelog, a dwy is-orsaf llai o faint (132kV) ar yr un safle.
Mae un cynghorydd lleol wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod y cynlluniau yn "rhy fawr i'r ardal yma" ac yn fwy addas i ardal "么l-ddiwydiannol".
Dywedodd National Grid bod angen is-orsafoedd newydd i "gryfhau'r rhwydwaith a chysylltu ynni glan yn yr ardal".
Fe fydd yr is-orsaf 400kV yn cael ei datblygu ar gyfer National Grid Electricity Transmission.
Fe fydd y ddwy is-orsaf llai yn cael eu hadeiladu ar yr un safle ar gyfer Green Gen Cymru, rhan o Bute Energy, sydd am godi nifer o ffermydd gwynt yn y canolbarth, ac ar gyfer National Grid Electricity Distribution, un o gwmn茂au eraill National Grid.
Yn 么l dogfennau cynllunio sydd wedi eu cyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin, tua 13.84 hectar o dir amaethyddol fydd maint y safle, sydd yn cyfateb i 34 erw.
Ond mae'r cwmni yn honni fod bob prosiect adeiladu yn gorfod rhoi hwb o 10% mewn "gwerth amgylcheddol" sydd yn cynnwys bioamrywiaeth.
Er ei bod hi'n gefnogol i'r egwyddor o ynni gwyrdd, mae'r cynghorydd lleol Meinir James yn bryderus am faint y datblygiad.
"Fe fydd e'n effeithio fwyaf ar dair fferm. Ni'n gwybod bod e efallai yn mynd i effeithio ar ddyfodol un fferm a falle dyfodol ffermwr ifanc gweithgar yn y gymuned fyddai mo'yn aros yn yr ardal," meddai.
"Os oes peryg o hynny, mae am fod yn golled i'r gymuned.
"Dwi'n teimlo bod y datblygiad yn rhy fawr. Dwi'n deall pam fod angen is-orsaf ac mae'n rhaid i ni gael ynni glan... ond dwi'n credu bod hyn yn rhy fawr i'r ardal yma, ac y byddai'n fwy addas i ardal 么l-ddiwydiannol."
Doedd y tirfeddianwyr ddim am siarad gyda 大象传媒 Cymru, ond dywedodd y Cynghorydd James eu bod nhw'n teimlo "siom a gofid am y dyfodol".
Mae amcangyfrif y bydd y galw am drydan yn y Deyrnas Unedig yn cynyddu tua 30% erbyn 2036, a 70% erbyn 2050.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall y gallai'r tair is-orsaf gael eu hadeiladu erbyn diwedd 2028.
Fe fydd angen cyflwyno cais cynllunio unigol ar gyfer bob gorsaf i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Dyw National Grid ddim yn gallu dweud faint o is-orsafoedd fydd eu hangen ledled Cymru, ond maen nhw'n rhagweld y bydd angen "is-orsafoedd newydd yn sgil ceisiadau newydd i gysylltu, a'r twf yn nefnydd trydan".
Mae Rachel Evans, Cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, yn bryderus am effaith y cynllun ar dirlun gwledig Cymru.
"Dwi'n meddwl bo' ni'n colli shwd gymaint o dir amaethyddol yng Nghymru yn barod. Ni'n colli tir o dan goed, a nawr fe fyddwn ni yn colli tir o dan egni gwyrdd," meddai.
"Dwi'n pryderu yn fawr fod hyn yn mynd i gael effaith fawr ar ddiogelwch ein bwyd.
"Bydd y ffermwyr hyn yn gorfod cadw llai o stoc. Mae lot o pressure ar ffermwyr ar y funud, ac mae hyn yn mynd i ychwanegu i'r pressure hynny.
"Mae'n ormod i ofyn i'r ardal. Os rhaid i ni gael dros 30 erw mewn un man? Mae cefn gwlad yn cael ei droi mewn i safle diwydiannol."
Dywedodd National Grid bod ganddyn nhw "ddyletswydd gyfreithiol i gysylltu cwsmeriaid 芒鈥檔 rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad" a bod y newid at ynni adnewyddadwy ynghyd 芒 chynnydd yn y boblogaeth "yn golygu bod mwy o alw ar ein rhwydwaith i gysylltu ffynonellau ynni newydd聽芒 chwsmeriaid".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni "bod astudiaethau wedi clustnodi'r safle fel yr un mwyaf addas" ac roedd presenoldeb llinellau trydan uwchben yn "lleihau'r angen" am beilonau newydd.
Mae angen yr is-orsafoedd hyn i "helpu i gwrdd 芒'r galw am drydan," yn 么l National Grid, "yn ogystal 芒 chefnogi targedau sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi p诺er ynni gwyrdd i bob cartref a busnes erbyn 2035".
Dywedodd llefarydd ar ran Green Gen Cymru y bydd eu his-orsaf 132kv yn cysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy yn Nant Mithil, Aberedw, Bryn Gilwern a Lan Fawr gyda'r rhwydwaith trydan.
Mae cyd-leoli'r is-orsaf drws nesaf i safle'r National Grid yn "lleihau'r angen am dir" yn 么l y cwmni, ac mae'n bosib cysylltu gyda "phrosiectau ynni adnewyddadwy eraill yn yr ardal".
Fe fydd National Grid yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus am eu cynlluniau yn ddiweddarach eleni a doedden nhw ddim am gael eu holi cyn dechrau'r ymgynghoriad hwnnw.