Strategaeth tlodi plant Cymru'n 'siomedig iawn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae grwpiau hawliau plant yn dweud eu bod wedi eu siomi gan gynllun Llywodraeth Cymru i gael gwared 芒 thlodi.

Mewn strategaeth, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod am leihau costau a helpu incwm teuluoedd i fynd mor bell 芒 phosibl.

Ond mae'r Comisiynydd Plant ac elusennau yn dweud nad oes digon o dargedau yn y ddogfen.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai ei lywodraeth yn defnyddio eu holl bwerau i helpu plant, ond bod penderfyniadau allweddol ar dreth a lles sy鈥檔 cael eu gwneud yn San Steffan yn effeithio ar incwm.

Disgrifiad o'r llun, Mae Alun Gruffudd o Cyngor ar Bopeth yn dweud ei bod hi'n anodd helpu teuluoedd mewn angen

Mae Alun Gruffudd yn gweithio i Cyngor ar Bopeth, sydd 芒 swyddfa ym Manc Bwyd Pontypridd, ac mae'n dweud bod llawer o deuluoedd yr ardal yn ei chael hi'n anodd 鈥済oroesi o ddydd i ddydd鈥 er eu bod yn gweithio.

Mae鈥檔 cynnig cyngor ar y budd-daliadau sydd ar gael, a sut i leihau dyled, ond mae'n dweud "nad oes 'na lot o opsiynau ganddyn nhw o ran cynyddu eu hincwm".

"Maen nhw'n gwneud y gorau gallen nhw, a鈥檙 unig beth gallen ni wneud yn aml yw falle rhoi taleb bwyd iddyn nhw, neu helpu gyda chostau ynni," meddai.

"Ond tu hwnt i hynny, mae'n anodd iawn cael datrysiadau hir dymor iddyn nhw."

Strategaeth yn addo 'atebolrwydd cadarn'

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.

Mae aelwyd yn cael ei hystyried fel un sy鈥檔 byw mewn tlodi cymharol os yw鈥檔 byw ar lai na 60% o incwm canolrifol (median) Deyrnas Unedig.

Mae hynny'n incwm o lai na 拢300 yr wythnos, ar 么l talu am gostau tai.

Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfaddef nad oedden nhw鈥檔 mynd i gyrraedd targed i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.

Does dim dyddiad yn y strategaeth newydd, ond mae鈥檔 addo 鈥渕ecanweithiau monitro ac atebolrwydd cadarn鈥 i fesur effaith polis茂au.

Disgrifiad o'r llun, Meddai Mr Gruffudd "nad oes 'na lot o opsiynau" i helpu teuluoedd ar wah芒n i gynnig talebau bwyd iddyn nhw

Yn s么n am effaith tlodi ar blant, ychwanegodd Mr Gruffudd o Cyngor ar Bopeth: 鈥淵n aml iawn mae'n gallu atal y plant rhag datblygu yn gymdeithasol, neu yn yr ysgol gan eu bod nhw methu canolbwyntio adra heb fwyd a gwres cywir.

鈥淢aen nhw'n gorfod gofalu am eu rhieni yn aml iawn, mae plant yn gorfod cymryd dyletswyddau y dylai oedolion wneud yn y cartref - a hynny o ddydd i ddydd achos bod y fam neu'r tad neu'r ddau gyda diffygion corfforol neu feddyliol, ac yn gorfod cael cefnogaeth gan y plant hefyd.

"Felly maen nhw鈥檔 colli ar yr oriau i gymdeithasu efo cyfoedion ac oriau i weithio ar waith ysgol hefyd."

'Angen gweithredu ar frys'

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan ei fod yn croesawu'r adroddiad.

"Mae'r ffocws ar yr angen i sefydlu system budd-daliadau Cymreig yn rhywbeth ni'n groesawu a ma' hwnna'n mynd i roi arian n么l ym mhocedi pobl a gwneud gwahaniaeth... ond mae'n rhaid mynd ati ar frys i weithredu hynna.

"Ma' adroddiad newydd wedi dod allan gan y Sefydliad Joseph Rowntree heddiw [dydd Mawrth] sy'n dangos bod dim cynnydd wedi bod yn ein gallu ni i wella tlodi plant dros y ddegawd diwetha' a bod rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan dlodi... bod y tlodi yn mynd yn ddyfnach.

"Felly mae'r angen i weithredu be sydd yn y cynllun yma ar frys hyd yn oed yn fwy pwysig."

Disgrifiad o'r llun, Mae grwpiau plant yn galw am ragor o gamau i ddileu tlodi plant

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd grwpiau plant eu bod yn 鈥渟iomedig iawn nad yw gweinidogion wedi gwrando ar ein galwadau am gynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy鈥.

鈥淓r ein bod yn croesawu'r ffaith bod y llywodraeth yn cyfeirio yn uniongyrchol at hawliau plant a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn y strategaeth ddiwygiedig hon, mae agwedd sylfaenol ar goll: atebolrwydd,鈥 medden nhw yn y datganiad, a gafodd ei lofnodi hefyd gan y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes.

Heb fframwaith monitro, 鈥渘i fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy鈥檔 cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau鈥檔 cael eu heffeithio mor ddifrifol鈥.

Disgrifiad o'r llun, Mae鈥檙 Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn dweud bod angen "canolbwyntio mwy ar gyflawni鈥

Daw鈥檙 sylwadau yn dilyn beirniadaeth o strategaeth ddrafft y llynedd.

Ar y pryd, dywedodd y Comisiynydd Plant nad oedd y strategaeth yn dangos 鈥渦chelgais, eglurder a manylder鈥.

Roedd y ddogfen ddrafft yn beirniadu'r Ceidwadwyr, gan ddweud bod angen newid llywodraeth yn San Steffan.

Mae llawer o鈥檙 feirniadaeth honno wedi diflannu o鈥檙 ddogfen derfynol.

Ynddi, mae鈥檙 Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn dweud 鈥渕ae angen i ni ganolbwyntio mwy ar gyflawni鈥.

Mae鈥檔 dweud hefyd bod angen 鈥渋 ni fod yn gliriach鈥 yngl欧n 芒 monitro ac atebolrwydd.

Dywedodd Mark Isherwood o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Rydyn ni wedi bod yn galw am y strategaeth ddiwygiedig yma ers blynyddoedd lawer.

"Yn 2016, fe newidiodd Llywodraeth Cymru eu targed a does dim pwynt cael targed sydd ddim yn realistig.

"Mae angen monitro ac asesu'r strategaeth yn ofalus."

Fe wnaeth Ms Hutt hefyd gyhoeddi Siarter Budd-daliadau gyda chynghorau lleol, sydd wedi鈥檌 dylunio i鈥檞 gwneud hi鈥檔 haws i bobl gael budd-daliadau Llywodraeth Cymru.

Mae hynny'n cynnwys cymorth i dalu biliau treth gyngor a chinio ysgol am ddim.

Mae鈥檙 siarter yn rhan o鈥檙 cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ond fe wnaeth Plaid Cymru ddweud ei bod hi'n anodd derbyn bod trechu tlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth i Lafur.

鈥淩haid i鈥檙 Llywodraeth Lafur wrando ar arbenigwyr yn y maes ac ail-gyflwyno targedau statudol i ddileu tlodi plant - mae ein plant yn dibynnu arno,鈥 meddai Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol.