Miloedd yng Nghaerfyrddin i alw am annibyniaeth i Gymru

Roedd miloedd o bobl mewn gorymdaith yng Nghaerfyrddin er mwyn galw am annibyniaeth i Gymru.

YesCymru a Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) drefnodd y digwyddiad gan ddweud mai'r bwriad yw "adeiladu ar fomentwm gorymdeithiau blaenorol ledled Cymru".

Dywedodd cadeirydd Yes Cymru, Phill Griffiths: 鈥淒yw e ddim yn brotest, mae鈥檔 fwy o ddathliad o le ni wedi cyrraedd.鈥

Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu 芒'r pleidiau gwleidyddol am ymateb.

Disgrifiad o'r llun, Roedd miloedd o bobl yn yr orymdaith yng Nghaerfyrddin

Hon oedd yr orymdaith gyntaf i鈥檞 chynnal yn hen sir Dyfed, yn y de-orllewin.

Ers 2019, mae digwyddiadau tebyg wedi eu cynnal yng Nghaernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe a Chaerdydd, gyda miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol.

Dywedodd Dylan Phillips, Cadeirydd YesCymru Caerfyrddin: "Mae ysbryd rhyddid yn gwau drwy hanes y de orllewin fel edefyn arian. Cofiwn am Gwenll茂an, ac am Ferched Beca.

Ychwanegodd mai bwriad y digwyddiad yw "nid i edrych n么l, ond i edrych mlaen ac i alw am Gymru decach, Cymru gyfoethocach, Cymru rydd鈥.

Disgrifiad o'r llun, Phill Griffiths, cadeirydd Yes Cymru

Dywedodd cadeirydd Yes Cymru, Phill Griffiths: 鈥淒yw e ddim yn brotest mae鈥檔 fwy o ddathliad o le ni wedi cyrraedd.鈥

鈥淢ae gweld y polau piniwn diweddar yn dangos bod mwy o bobl ifanc o blaid annibyniaeth... mae hwnna ond yn gallu bod yn rhywbeth da a gallwn ni adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.

"Ond yn sicr mae angen cael mwy o drafodaethau nawr.

鈥淩y'n ni fel mudiad yn keen i holi gwleidyddion ar le maen nhw鈥檔 sefyll ar y pwnc pwysig yma. Dwi鈥檔 meddwl yn sicr bydde hwnna鈥檔 helpu pobl gwneud penderfyniadau call o ran pwy maen nhw am bleidleisio amdano.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd Esyllt Rosser (chwith) a Celyn Thomas wedi teithio o Abertawe i ymuno 芒'r orymdaith

Roedd Esyllt Rosser, 24 a Celyn Thomas, 25 wedi teithio o Abertawe i ymuno 芒'r orymdaith.

Dywedodd Esyllt: 鈥淔i鈥檔 meddwl bod lot o bolis茂au a鈥檙 llywodraeth ddim yn clywed Cymru.

"Felly dwi鈥檔 meddwl mae鈥檔 bwysig i ni fel pobl ifanc yn dangos bod gennym ni ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.鈥

Un oedd yn yr orymdaith oedd Cefin Campbell AS o Blaid Cymru.

Dywedodd bod "annibyniaeth i Gymru yn rhan o DNA Plaid Cymru - dyna yw ein nod hir dymor ni, ond wrth gwrs mae鈥檔 rhaid i ni sylweddoli bod rhaid i ni fynd 芒 phobl gyda ni ar hyd y daith honno, ac yn y cyfamser mae鈥檔 rhaid i ni sicrhau mwy o ddatganoli i Gymru.

"Plismona, cyfiawnder a threfn, darlledu, y gwasanaeth lles, yst芒d y Goron. Ond hefyd wrth gwrs mae'n rhaid i ni frwydro i gael gwell setliad ariannol i Gymru.鈥

Un arall oedd yno oedd Beth Winter o'r Blaid Lafur.

Dywedodd hi: 鈥淢ae tri opsiwn gyda ni - naill ai cadw datganoli fel mae e, neu ehangu fe, ffederaliaeth neu annibyniaeth.

"I fi mae'n rhaid i bob opsiwn bod ar y ford. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 blaid Lafur yn San Steffan wrando ar bobl Cymru.鈥

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedden nhw am wneud sylw ac mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Rydyn ni'n credu mewn ffederaliaeth a datganoli, dydyn ni ddim yn credu mewn creu rhagor o rwystrau a ffiniau.

"Byddwn yn parhau i wthio am ragor o bwerau i Gymru, gan roi llais i gymunedau lleol."