Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llanfairpwll: Ymgais newydd i godi tai yn pryderu trigolion
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae cais o'r newydd i adeiladu 27 o dai ar gae sy'n ffinio'r A55 yn pryderu'r bobl leol.
Maen nhw'n bwriadu ail gynnau ymgyrch i rwystro datblygu yno.
Y llynedd fe gafodd cynlluniau i adeiladu tai ger stad y Garnedd yn Llanfairpwll eu gwrthod gan nad oedd y broblem llifogydd wedi cael sylw priodol.
Dywed y datblygwyr, DU Construction, fod y datblygiad o dai fforddiadwy yn ymateb i alw yn lleol.
Ond wedi iddyn nhw gyflwyno cynllun o'r newydd i Gyngor M么n, sy'n cynnwys mesurau i geisio ateb y pryderon, mae trigolion cyfagos yn dweud eu bod yn parhau i wrthwynebu.
'Galw am dai cymdeithasol llai'
Er fod y darn o dir y tu allan i ffin ddatblygu Llanfairpwll, mae'r ymgeiswyr yn dadlau bod angen y cartrefi i gwrdd 芒'r galw lleol am dai fforddiadwy.
Yn 么l DU Construction, sy'n gobeithio datblygu'r stad newydd ar y cyd gyda Thai Clwyd Alyn, byddai pob o'r 27 yn rai fforddiadwy.
Dywedodd DU Construction ei bod hi'n "amlwg" fod "angen tai cymdeithasol llai" yn Llanfairpwll gan ychwanegu nad oes modd " eu diwallu o fewn amserlen resymol ar dir oddi fewn y ffin ddatblygu."
Fe wnaethon nhw ychwanegu bod sylwadau cyn ymgeisio gan Adran Strategaeth Tai'r Cyngor yn dweud bod "galw mawr iawn am dai fforddiadwy yn Llanfairpwll" a'u bod yn "cefnogi'r datblygiad arfaethedig."
Ond er bod y darn o dir union drws nesaf i'r A55, maen nhw hefyd yn dweud fod asesiad s诺n wedi dod i'r casgliad "na fyddai unrhyw effeithiau annerbyniol ar fwynderau preswyl deiliaid oherwydd s诺n a llygredd aer".
Ond wfftio sylwadau'r datblygwyr mae rhai o drigolion Stad y Garnedd, sy'n dweud byddai'n achosi mwy o draffig ar y stad ac yn arwain at golli tir glas.
Mae Medwyn Roberts, cadeirydd y pwyllgor lleol sydd yn erbyn y datblygiad, o'r farn fod y safle yn "gwbl anaddas".
Aeth ymlaen i ddisgrifio'r cais newydd fel "ddannodd yn dod yn ei 么l", gan hefyd gwestiynu os oes gymaint 芒 hynny o alw am dai yn y gymuned.
"Oedd adran dai [Cyngor] Ynys M么n am gymryd yr awenau gyda'r cais gwreiddiol ond r诺an mae'r adeiladwr wedi mynd at Clwyd Alyn, sef cymdeithas dai.
"Mae'r cymdeithasau ma'n gosod tai allan ar sail pwyntiau, ond 'da ni'n pryderu bydd neb o Lanfairpwll yn byw ynddyn nhw os cawn nhw eu codi.
"Does na'm llawer o neb yn cnocio ar ddrws cynghorwyr rownd ffor'ma yn gofyn am dai... dwi'n yn gwybod pwy ydi'r 700 o bobl 'ma."
'Mae hwn yn or-ddatblygu'
Pan gafodd y cais gwreiddiol ei drafod ym mis Mawrth 2023, cafodd ei wrthod yn unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor M么n.
Gan nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi'u gyflwyno mewn perthynas 芒 draenio d诺r wyneb, barn swyddogion oedd na allen nhw "gefnogi'r cynllun yn ei ffurf bresennol".
Y tro hwn mae'r datblygwyr wedi cynnwys manylion mesurau i leddfu ffasiwn bryderon sy'n cynnwys system i wasgaru'r d诺r wyneb drwy ffurf tanciau.
Ond dywedodd Gwyn Thomas, sydd hefyd yn byw ar Stad y Garnedd, fod y stad yn "unfrydol yn erbyn y cais".
"Mae hwn yn or-ddatblygu a fydd yn golygu llawer iawn mwy o geir, loriau ac yn y blaen i gyd yn mynd drwy'r stad.
"Dim ond un mynediad sydd na i'r datblygiad yma, ar dop y stad ac mae 'na gornel reit hegar.
"'Da chi'n s么n am 60 ella o geir ychwanegol sy'n fwy o bwysau."
Ychwanegodd fod problemau eisoes wedi bod gyda charthffosiaeth a bod y system bresennol eisoes o dan straen.
Roedd dros 700 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cais gwreiddiol, ychwanegodd, gan gyfeirio at y cae presennol fel "buffer rhwng y pentref a'r A55".
"Mae'r ganolfan iechyd a fferyllfa o dan straen yn barod a fysa hwn yn golygu straen ychwanegol.
"Os fydd y datblygiad yma yn mynd yn ei flaen fydd yn gosod cynsail peryg iawn i'r cyngor oherwydd fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw wrthod ceisiadau tu allan i'r ffin datblygu.
"Os 'da ni'n datblygu fel hyn, yn Llanfairpwll, bydd Llanfairpwll yn dioddef ac yn darfod fel cymuned."
Mae disgwyl i Gyngor M么n wneud penderfyniad dros y misoedd nesaf.
'Cryfhau'r economi leol'
Mewn datganiad, dywedodd Clwyd Alyn fod datblygu tai fforddiadwy a chynaliadwy yn flaenoriaeth iddyn nhw.
"Ry'n ni'n gobeithio sicrhau y bydd gan bobl leol fynediad at dai o ansawdd ardderchog, ac mi fydd datblygiad y Garnedd yn Llanfairpwll yn darparu 27 o gartrefi fforddiadwy mewn ardal lle mae galw uchel.
"Ry'n ni wedi gwrando ar bryderon y gymuned, ac mae'r datganiad trafnidiaeth yn awgrymu na fyddai'r datblygiad yma yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol.
"Bydd gan bob eiddo fan parcio, tra bod maes parcio i ymwelwyr hefyd yn rhan o'r cynllun.
"Mae Clwyd Alun yn gweithio'n galed i helpu gwireddu cynlluniau Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, a bydd ein buddsoddiad yn y datblygiad yma yn cryfhau'r economi leol drwy greu swyddi a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol."