Enwebu Clwb Ffermwyr Ifanc o Geredigion am eu gwaith cymunedol

Disgrifiad o'r llun, "Os byddwch chi鈥檔 edrych ar 么l eich cymuned, bydd eich cymuned yn edrych ar 么l chi," meddai Heulwen Evans
  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon wedi cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Cymunedol Prydeinig y mudiad.

Fe fydd 20 o aelodau鈥檙 clwb yn teithio i Birmingham dros y penwythnos i weld os fyddan nhw'n llwyddo i gipio Gwobr Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gyfer 2024.

Mae鈥檙 clybiau eraill sydd wedi鈥檜 henwebu ar gyfer y wobr yn dod o Gaint, Sir Amwythig, a Cumbria.

Clwb Llangwyryfon o Geredigion yw鈥檙 unig un o Gymru i gyrraedd y rowndiau terfynol.

Disgrifiad o'r llun, Mae clybiau ffermwyr ifanc yn "hanfodol" i gymunedau cefn gwlad, meddai Eiry Williams

Yn 么l Eiry Williams, Swyddog y Wasg CFfI Llangwyryfon, byddai cefn gwlad yn 鈥渓le lawer tlotach鈥 heb fudiad y ffermwyr ifanc.

鈥淔i鈥檔 credu bod e鈥檔 dangos bod mudiad y ffermwyr ifanc yn beth hanfodol yng nghefn gwlad.

鈥淣i鈥檔 neud shwd gyment o waith gwirfoddol ar draws Cymru a chodi lot o arian tuag at elusennau.

鈥淢aen rhywbeth hanfodol. Bydde ni鈥檔 argymell unrhyw un i fynd i鈥檞 clwb lleol nhw er mwyn parhau i gadw ein cymunedau ni鈥檔 fyw trwy鈥檙 CFfI.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae aelodau'r Clwb Llangwyryfon yn gwneud pob math o waith gwirfoddol yn lleol

Mae 5,500 o aelodau gan CFfI Cymru - a hynny'n cynnwys pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed.

Yr amcan yw bod dros 1.1 miliwn o oriau gwaith gwirfoddol yn cael eu gwneud yn flynyddol gan aelodau.

Bob blwyddyn, mae clwb Llangwyryfon yn trefnu noson Y Goeden Nadolig gan roi anrheg i bob plentyn bach yr ardal.

Mae Bwrlwm Bro bob haf, sy鈥檔聽cynnwys rasys i blant, carnifal a stondinau.

Yn ogystal, mae aelodau鈥檙 clwb yn torri鈥檙 gwair yn yr hen fynwent ac yn trefnu Treialon C诺n Defaid yn yr ardal.

Disgrifiad o'r llun, Rhai o aelodau ifanc y clwb yn mwynhau gwahanol weithgareddau Calan Gaeaf

Eleni hefyd fe wnaeth rhai o aelodau鈥檙 clwb arwain ar gais llwyddiannus i gael 拢17,000 i roi system paneli solar ar do neuadd y pentref, lle mae鈥檙 clwb yn cyfarfod yn wythnosol.

Un sydd ar y pwyllgor hwnnw, yn cynrychioli鈥檙 clwb, yw Heulwen Evans.

鈥淥s byddwch chi鈥檔 edrych ar 么l eich cymuned, bydd eich cymuned yn edrych ar 么l chi," meddai.

鈥淩oedden ni鈥檔 gweld bod y neuadd yn gwneud colled ariannol pob blwyddyn ac roedd angen gwneud rhywbeth am y peth.

鈥淣i wedi gwneud cais am sawl grant er mwyn galluogi gosod system wresogi newydd yno a gosod paneli solar ar y to.

鈥淏uon ni鈥檔 ffodus iawn i gael arian drwy grant Cynnal y Cardi gan Gyngor Ceredigion, a hefyd y Cyngor Cymuned."

Bydd canlyniadau鈥檙 gwobrau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Birmingham nos Sadwrn.

Daeth Clwb Uwchaled i鈥檙 brig yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn 么l, gyda Llangwyryfon yn gobeithio efelychu鈥檙 gamp eleni.