Dyn yr yn ysbyty wedi achos o drywanu yng Nghaerdydd

Mae'r Heddlu'n ymchwilio wedi achos o drywanu yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Cafodd dyn 35 oed ei drin yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi iddo gael ei drywanu.

Cafodd yr Heddlu eu galw tua 21:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad yn ymwneud 芒 sawl pherson yn Saeger Drive, Grangetown.

Nid oes unrhyw un wedi ei arestio hyd yn hyn ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.