Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arestio dau ar 么l i yrrwr tacsi gael ei drywanu yn Aberdaugleddau
Mae dau berson wedi'u harestio ar 么l i yrrwr tacsi gael ei drywanu gyda nodwydd yn Aberdaugleddau nos Wener.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ladrad ar 么l derbyn galwad toc wedi 19:30 gan y gyrrwr tacsi yn dweud ei fod wedi'i fygwth gyda chyllell a'i ymosod gyda nodwydd.
Aeth y gyrrwr tacsi i'r ysbyty am driniaeth.
Mae dyn 23 oed a dynes 35 oed wedi鈥檜 harestio ar amheuaeth o ladrata, ac maen nhw yn nalfa鈥檙 heddlu ar hyn o bryd.
Mae鈥檔 bosibl y bydd pobl sy鈥檔 byw yn yr ardal yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol tra bod swyddogion yn ymchwilio i鈥檙 digwyddiad, meddai'r llu.