Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Methu cael mynediad at ff么n y ddiweddar wraig yn 'torri calon'
Wrth baratoi ar gyfer angladd ei ddiweddar wraig, mae g诺r gweddw o Ynys M么n yn cael trafferth cael mynediad at luniau o'u priodas o'i ff么n symudol.
Dydy Martyn Hall, 64, methu cael gafael ar y lluniau ar ff么n Lynn gan nad yw'n gwybod beth oedd ei chyfrinair.
Mae rheolau Apple hefyd yn golygu y byddai holl gynnwys y ff么n - gan gynnwys y lluniau o'u priodas - yn cael eu dileu pe bai'r cyfrinair yn cael ei ailosod.
Dywedodd Apple eu bod nhw'n gweld preifatrwydd fel hawl dynol sylfaenol.
Wrth siarad ar raglen You and Yours ar 大象传媒 Radio 4, dywedodd Martyn Hall fod Lynn, 70, wedi marw yn sydyn ddechrau'r mis yn dilyn llid yr ymennydd.
Esboniodd nad oedd wedi cael unrhyw drafferth wrth gysylltu gyda'r banciau a chwmn茂au eraill yr oedd gan Lynn gyfrif ynddyn nhw, ond ei fod methu 芒 chael mynediad i'r ff么n.
"Dwi'n teimlo fel fy mod i'n taro fy mhen ar wal frics," meddai.
Mae ff么n Lynn yn cynnwys lluniau o briodas y ddau a gwahanol dripiau yr oedd y ddau wedi bod arnyn nhw, ond yn 么l Martyn, dydy o erioed wedi bod yn gwybod ei chyfrinair ac roedd hi'n defnyddio'r ff么n ar gyfer ei gwaith.
'Twll mawr nad ydwi'n gallu ei lenwi'
Fe fydd angladd Lynn yn cael ei gynnal ddechrau Hydref, a'r bwriad meddai Martyn, oedd arddangos cyfres o luniau yno.
"Ry'n ni eisiau gwneud slideshow a byddwn i wrth fy modd yn cael cynnwys rhai o'r lluniau hynny a'u dangos yn yr angladd... ond dydw i methu."
Ychwanegodd nad lluniau yw'r unig beth gwerthfawr iddo ar y ddyfais.
"Roedd Lynn yn Gristion ac roedd hi wrth ei bodd 芒 cherddoriaeth. Wrth gwrs mae gen i syniad o ran un neu ddwy (o ganeuon) ond yn enwedig yr emynau a'r caneuon Cristnogol - byddai hi'n wych gallu cael gafael ar rheini er mwyn eu defnyddio yn yr angladd.
"Mae methu cael mynediad at y rhannau mawr yma o'i bywyd wir yn torri fy nghalon... Dwi'n teimlo bod yna dwll mawr nad ydw i'n gallu ei lenwi tra bod bpob dim yn sownd ar y ff么n yma."
Dywedodd Martyn nad ydy o wedi gallu cysylltu 芒 rhai o ffrindiau Lynn wedi ei marwolaeth gan fod eu manylion wedi eu storio yn y ff么n.
Hyd yn oed os nad ydy o'n llwyddo i gael mynediad at gynnwys y ff么n, mae'n benderfynol o godi'r mater a gwneud pobl yn ymwybodol o'r anawsterau posib.
Mewn datganiad ar eu gwefan, mae Apple yn dweud: "Rydyn ni'n gweld preifatrwydd fel hawl dynol sylfaenol, ac mae'n defnyddwyr yn disgwyl i ni gadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel.
"Ar yr achlysuron trist hynny pan mae cwsmer yn marw, mae Apple yn ei gwneud hi'n bosib i'w hanwyliaid wneud cais am fynediad i'w cyfrif, neu i ddileu eu cyfrif a'r data cysylltiedig sydd wedi ei storio."
Mae Apple bellach wedi cysylltu 芒 Mr Hall i ddweud y bydd tanysgrifiadau ei ddiweddar wraig yn cael eu canslo.