Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Medal efydd i Emma Finucane ar y trac seiclo
Mae Emma Finucane wedi ennill ei hail fedal i Brydain ar y trac seiclo yng Ngemau Olympaidd Paris.
Y seiclwr o Gaerfyrddin sicrhaodd efydd yng nghystadleuaeth y Keirin nos Iau.
Ellesse Andrews o Seland Newydd enillodd aur, tra mai Hetty van de Wouw sicrhaodd yr arian.
Daw wedi i Finucane ennill aur ddydd Llun fel rhan o d卯m Prydain yn y ras wib i dimau, ac mae ganddi gyfle am fedal arall ddydd Sul yn y ras wib unigol.
Dyma'r tro cyntaf i Finucane gystadlu yn y Gemau Olympaidd, a hi yw'r seithfed Gymraes erioed i ennill medal aur.