´óÏó´«Ã½

Pum munud gyda... Elan Isaac

Elan Isaac ar setFfynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elan yn Gyfarwyddwr Symud a Choreograffydd

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl y perfformiad olaf o lwyfan y maes eleni, roedd diolch Eden i Elan Isaac yn ddi-ddiwedd. Hi oedd cyfarwyddwr artistig y perfformiad ac yn gyfrifol am y wledd weledol gafodd torf Pontypridd gan y triawd.

Cafodd Cymru Fyw air gydag Elan i ddod i wybod ychydig mwy amdani hi a'i gwaith.

Ble dechreuodd dy ddiddordeb mewn coreograffi a symudedd?

Ffynhonnell y llun, Hywel Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Yn yr ystafell ymarfer gyda chast Cabarela

Dw i’n meddwl o’n i wastad yn dwli ar ddawnsio a symud, a rili os dw i’n bod yn onest bosio pobl o gwmpas.

Pan oedden ni’n fach, oedd gyda ni griw o ffrindiau ac roedden ni’n dysgu dance routines y Spice Girls ar yr iard, a fi oedd yr un oedd yn dweud wrth pawb lle i sefyll a pa moves i wneud. A 'naeth hwnna ddilyn fi drwy’r ysgol, a prifysgol wedyn.

Symud ymlaen

Pan o’n i yn yr ysgol, oeddwn i’n helpu efo’r sioeau a fi oedd yn gwneud y gwaith symud gan amlaf. A wedyn es i i Brifysgol Leeds i wneud cwrs Theatr a Pherfformio, a trwy’r cwrs yna o’n i wastad yn ffendio ffordd o ddod a gwaith symud i mewn i’r modiwlau o’n i’n gweithio arno, yn hytrach nag actio neu’r specialisms yna.

O’n i’n rhan o society ar gyfer stage musicals a dyna pryd nes i wir ddechrau coreograffu ar gyfer y llwyfan. Wedyn roedd hwnna yn combined efo astudiaethau theatr, lle oedd o’n fwy o waith corfforol.

Dw i’n meddwl falle bod hwnna yn dechrau dod mewn i bartneriaeth rili lyfli yn y gwaith dwi’n ‘neud nawr.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y gwaith?

Y peth sy'n fy nghyffroi i lot pan dw i'n creu nawr ydi y gwaith mapio allan.

Pan dw i'n dechrau prosiect dw i ddim yn meddwl gymaint am y stepiau ond dw i'n meddwl am sut mae popeth yn mynd i edrych a llifo mewn efo'i gilydd ar y llwyfan, hynny yw sut mae'n mynd i edrych i'r gynulleidfa.

Jyst gweld landscape y peth mewn ffordd. Beth yw'r composition, lle mae pawb yn mynd i sefyll, lle maen nhw'n mynd i fynd a beth sy'n mynd i fod yn gyffrous i'r gynulleidfa edrych arno ac i deimlo mwy nag unrhyw beth.

Ffynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Fideo 'Sneb Fel Ti gan Eden

O ble fyddi di'n cael ysbrydoliaeth ar gyfer dy syniadau?

Dw i’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth neu rhythms a beats mewn miwsig. Pan dw i’n gwrando ar gân, mae fel ’sa’r gân yn dweud wrtha’ i be’ i ’neud, sydd yn swnio’n ridiculously cheesy, ond pan dw i’n gwrando ar gân a rhythm rhywbeth dw i’n gwybod fod y peth yn iawn pan mae’r corff yn gwneud be’ mae o isio ’neud.

Dw i’n cael lot o ysbrydoliaeth o luniau a gwaith celf, a hefyd y peth mwyaf o ran creu gwaith ydi cyd-weithio efo pobl eraill.

Mae ’na sioe ’nes i weithio arni eleni efo Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd oedd y broses mor collaborative. Ro’n i a’r cyfarwyddwr, Juliette Manon, y musical director, Máth Roberts a’r dylunwyr, roedden ni gyd yn cyd-weithio i greu y gwaith a roedd hwnna yn hollol exciting achos roedd popeth yn interlinked, roedd popeth yn dibynnu ar ei gilydd.

So, cyd-weithio efo pobl eraill a delweddau a cherddoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Ble mae trenau'n mynd gyda'r nos? A chwestiynau mawr eraill – sioe Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Rwyt ti wedi gweithio mewn amryw gyfryngau fel theatr, fideos cerddoriaeth a sioeau llwyfan. Oes un ti'n ei fwynhau fwyaf?

Ffynhonnell y llun, Eden/Lŵp S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fideo i'r gân Siwgr gan Eden

Dw i'n dwli gwneud music videos! Dw i wedi gwneud dwy efo Eden, a dw i wedi gweithio efo artistiaid fel Greta Isaac ac Orla Gartland.

Dw i wrth fy modd efo'r berthynas rhwng y camera a beth sy'n digwydd ar y llwyfan. Y gwaith symud mae'r artist yn wneud ond hefyd sut mae'r camera yn symud o gwmpas y thema, neu'r artist yn y canol. Mae'n ffordd rili cŵl o ddod â'r gân yn fyw, mewn ffordd.

'Swn i'n lyfio gwneud mwy!

Oes 'na fath o berfformio ti heb ei wneud fyddet ti'n hoffi ei wneud?

Fyswn i'n lyfio gweithio efo'r byd syrcas; efo pobl sy'n gallu hedfan a bod upside-down yn yr awyr a gwneud tricks fel 'na. Dw i'n ffendio hwnna i gyd yn exciting, ac yn fizzy ac yn magic!

Dw i'n rili licio gwneud gwaith physical theatre, a gwaith fel wnaethon ni efo Eden yn yr Eisteddfod – rhoi spectacle i bobl. Dw i'n meddwl dylen ni wneud mwy o hynny fel Cymry.

Mae gennym ni ddiwylliant mor unigryw a personol i ni. Dylen ni fod yn bigio'n hunain fyny, bod yn fwy creadigol efo sut 'dan ni'n arddangos ein hunain a jest cael hwyl efo fo hefyd.

Dyna'r peth mwyaf pwysig achos 'dan ni mor browd o beth sydd gynno ni yma yng Nghymru dylen ni gael mwy o hwyl efo fo – mwy o gonffeti a mwy o fybyls!!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Gydag Eden, cyn mynd ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod eleni

Beth sydd ar y gweill i ti nesaf?

Dw i'n mynd i fod yn gweithio efo Juliette Manon eto ar y Christmas Cabaret i Ganolfan y Mileniwm. Mae gennym ni R&D yn mis Medi ac wedyn fyddan ni'n mynd i ymarferion diwedd Hydref.

Dw i hefyd yn gweithio efo Leila Navabi ar sioe un person ar stori newydd mae hi'n ei roi at ei gilydd.

Felly mae rheina'n mynd i fod yn cymryd lot o fy amser i. Hefyd, mae gen i ddau o blant bach so maen nhw'n cymryd loads o amser ac egni ond maen nhw'n lush!

Pynciau cysylltiedig