大象传媒

WXV2: Awstralia 37 - 5 Cymru

Cais i Awstralia yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Johan Rynners - World Rugby/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hi'n brynhawn anodd i Gymru yn erbyn Awstralia a sgoriodd chwe chais yn yr ornest yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi colli'n drwm yn erbyn Awstralia yn eu g锚m gyntaf yn ail haen cystadleuaeth y WXV.

Doedd dim llawer i wahanu'r ddau d卯m yn ystod yr hanner cyntaf yn Stadiwm DHL, Cape Town ond fe wnaeth y Wallaroos lwyr reoli'r ail hanner gan ennill 37-5.

Mae'r sg么r yn cyferbynnu'n llwyr 芒 chanlyniad y g锚m gyfeillgar rhwng y ddau d卯m yn Rodney Parade, Casnewydd dros wythnos yn 么l, pan lwyddodd Cymru - am y tro cyntaf erioed - i drechu Awstralia, o 31 i 24.

Fe ddechreuodd y ddau d卯m gyda'r gobaith o berfformio'n dda yn WXV2 eleni ar 么l syrthio o brif haen y gystadleuaeth, a hynny fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf yn Lloegr.

Y Wallaroos gafodd cais cyntaf y prynhawn diolch i Layne Morgan wedi 21 o funudau.

Daeth Carys Phillips 芒 Chymru'n gyfartal gyda chais ar achlysur ei 78fed cap rhyngwladol, cyn i Eva Karpani dirio ar ddiwedd yr hanner cyntaf i adfer maintais o bum pwynt

10-5 oedd y sg么r ar yr egwyl - hynny wedi i'r ddau d卯m fethu 芒 chicio'n gywir i ychwanegu pwyntiau gyda'r trosiadau.

Fe lwyddodd Natalia John ac Alex Callender i atal Karparni rhag croesi'r llinell yn fuan yn yr ail hanner cyn i Gwenllian Pyrs ildio cic gosb.

Fe giciodd Faitala Moleka yn gywir y tro hwn i agor y bwlch, ond roedd gwaeth i ddod i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aflwyddiannus oedd trosiad Keira Bevan yn yr hanner cyntaf wedi i Caryl Phillips sgorio unig gais Cymru

Ychydig wedi awr o chwarae roedd cais Maya Stewart a throsiad Lori Cramer yn golygu bod Awstralia 20-5 ar y blaen, ac fe agorodd y llifddorau wedyn i'r Wallaroos.

Fe diriodd Moleka a Cramer cyn i Molly Reardon orfod adael y cae ar 么l gweld cerden felen am dacl uchel a bu'n rhaid i Gymru wynebu gweddill yr ornest un chwaraewr yn brin.

Eisin ar y gacen i Awstralia oedd y ffaith mai eu chweched cais oedd cais gorau'r g锚m pan diriodd Stewart am yr eildro.

Wyth diwrnod yn unig, felly, ar 么l eu canlyniad gorau erioed yn erbyn Awstralia mae Cymru wedi dioddef eu colled gwaethaf erioed yn eu herbyn.

Bydd felly gan cryn waith yr hyfforddwr Ioan Cunningham i godi'r t卯m cyn eu g锚m nesaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Gwener 4 Hydref.