Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Y Rhyl

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau

Mae dyn, 33 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Y Rhyl.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau.

Bu farw menyw, 69 oed, ar 么l cael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Cafodd menyw, 25 oed, ei harestio ar amheuaeth o helpu鈥檙 troseddwr ond mae hi bellach wedi ei ryddhau ar fechn茂aeth amodol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nick Evans: "Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r ymchwiliad.

"Fe fydd presenoldeb uchel o鈥檙 heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf. Hoffwn ddiolch i鈥檙 gymuned leol am eu hamynedd wrth i鈥檔 hymchwiliad barhau."

Mae鈥檙 heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.