Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Un o s锚r Netflix eisiau gallu siarad Cymraeg gyda'i mab
Mae un o s锚r y gyfres deledu The Diplomat wedi dweud ei bod eisiau dysgu Cymraeg er mwyn gallu defnyddio'r iaith i gyfathrebu 芒'i mab.
Mae Keri Russell mewn perthynas 芒'r Cymro Matthew Rhys, ar 么l iddyn nhw gwrdd ar set y ddrama The Americans.
Dywedodd Ms Russell ei bod wedi dysgu ambell ymadrodd o glywed ei phartner yn siarad 芒'u mab.
Wrth siarad 芒'r 大象传媒, dywedodd yr actores ei bod yn "gyfarwydd 芒 bore da, nos da, dwi'n gwybod sut i gyfri. Ond mae Math yn siarad Cymraeg 芒 Sam fwy neu lai drwy'r amser."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn ysu i ymweld 芒 chanolfan Nant Gwrtheyrn yng Ngwynedd, ar 么l mynegi cymaint o ddiddordeb yn niwylliant Cymru.
"Mae popeth ynghylch y diwylliant Cymraeg a'r Eisteddfod, mae popeth yn gysylltiedig 芒 cherddi a dawns a chelf yn gyffredinol," meddai.
"Roedd cwrdd 芒 Math a dysgu am hynny, mae'n gymaint o ran o bwy ydyw, a pha mor c诺l yw gweld plant yn cael eu magu yn perfformio yn yr hen draddodiad o gelf a chanu a dawnsio."
Fe wnaeth ail gyfres The Diplomat gael ei rhyddhau ar Netflix yr wythnos hon.
Mae Ms Russell yn chwarae rhan Llysgennad UDA yn y gyfres deledu.
Gyda'r etholiad arlywyddol yn ei anterth yn America, mae'n mynnu mai damweiniol yn unig y unrhyw debygrwydd rhwng y gyfres a gwleidyddiaeth y wlad heddiw.
Dywedodd i'r ysgrifennu a'r ffilmio ddigwydd "amser maith yn 么l" ond bod streic actorion ac awduron wedi tarfu ar y ffilmio.
Dywedodd ei bod yn ddiolchgar o'r cyfle i bortreadu gwraig bwerus a galluog yn y gyfres.