大象传媒

Cynllun i adfer coedwig law goll yn Sir Benfro

Coedwig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond ar 1% o'r blaned y mae coedwigoedd glaw tymherus neu Geltaidd yn bodoli

  • Cyhoeddwyd

O鈥檙 Amazon i Abergwaun - oeddech chi'n gwybod fod gan Gymru goedwigoedd glaw?

Canrifoedd yn 么l roedd coedwigoedd glaw yn gorchuddio'r rhan fwyaf o arfordir gorllewinol Prydain, ond erbyn heddiw dim ond ychydig sydd ar 么l.

Ond diolch i鈥檔 tywydd gwlyb mae modd adfer rhai, gyda鈥檙 cynllun adfer diweddaraf ar y gweill yn Sir Benfro.

Y nod yw gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardal.

Beth yw coedwig law dymherus?

Gall coedwig law dymherus hefyd gael ei galw'n goedwig law Geltaidd.

Dywedodd Adam Dawson, swyddog cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: 鈥淢ae鈥檔 goedwig law dymherus felly mae鈥檔 goedwig law cool, ond mae ganddi ei hecoleg unigryw ei hun.

"Mae pawb yn gyfarwydd 芒 choedwig law'r Amazon. Mae tua 60-70% ohoni ar 么l.

"Ond dim ond 1% sydd yn weddill o鈥檙 cynefin hynod werthfawr ac unigryw hwn. Felly mae gwir angen i ni weithio gyda'r hyn sydd gennym ar 么l."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhannau o'r safle hwn yn goedwig law ymhen canrif

Mae coedwigoedd glaw Cymru i'w gweld ym Mhowys, Ceredigion a Gwynedd.

Ledled y DU maent i'w gweld ar arfordir gorllewinol Yr Alban, Cernyw a rhannau o Ogledd Iwerddon.

Er y byddai nifer ohonom yn dymuno cael tywydd trofannol yr Amazon yng Nghymru, mae coedwig law dymherus yn llawer gwlypach ac oerach.

Dywedodd Mr Dawson: 鈥淵r hyn rydyn ni鈥檔 ceisio symud tuag ato yw lle sydd wedi ei ffeltio 芒 mwsogl ac sydd llawn bywyd.

"Mae planhigion yn tyfu ar blanhigion, y coed yw鈥檙 adeiladau y mae popeth arall yn byw arnynt.鈥

Yn 么l arbenigwyr mae鈥檙 coedwigoedd glaw yn gynefin unigryw o dderw hynafol, bedw a phinwydd.

'O fudd i ni fel pobl hefyd'

Dywedodd Delyth Phillips, swyddog eiriolaeth gwledig gydag Ymddiriedolaethau Natur Cymru: "Mae plannu mwy o goed yn mynd i helpu gyda llifogydd, glanhau d诺r, glanhau鈥檙 awyr.

"Mae bod mewn coedwig o fudd i ni fel pobl hefyd; os 'da chi鈥檔 cerdded mewn coedwig mae鈥檔 dda i鈥檆h ysbryd chi.鈥

Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth yn yr afonydd.

鈥淢ae 'na lot o dwristiaid yn dod i Sir Benfro, ond efallai maen nhw鈥檔 dod i lan y m么r," meddai Mr Phillips.

"Ond mae 'na lot o lefydd eraill a 'da ni eisiau datblygu mwy o hynna i鈥檙 math o dwristiaid sydd eisiau dod mas i natur.鈥

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gobeithio dechrau plannu hadau ar y safle'r flwyddyn nesaf, ac ymhen tair blynedd yn gobeithio dechrau gweld twf y goedwig law.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Delyth Phillips, bydd y goedwig law yn helpu atal llifogydd

Mae plannu coed wedi bod yn bwnc llosg ym myd amaeth ers cyfnod ymgynghori Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae鈥檙 safle ger Abergwaun yn 146 erw. Yn 么l yr ymddiriedolaeth, ychydig iawn o amrywiaeth sydd ar y mwyafrif o鈥檙 caeau sy鈥檔 cael eu pori gan ddefaid.

Dywedodd Delyth Phillips: "'Da ni ddim yn targedu tir sy鈥檔 dda ar gyfer amaethyddiaeth, felly tir sydd ddim yn gynhyrchiol iawn ydy鈥檙 tir yma.

"'Da ni鈥檔 gwybod mai diffyg bioamrywiaeth a newid hinsawdd ydy鈥檙 bygythiadau mwyaf i ddiogelwch bwyd.

"Felly 'da ni eisiau cydweithio efo ffermwyr a chymunedau fel bo' ni鈥檔 gallu cael gwell cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.鈥

'Natur yn dda iawn yn adfer ei hun'

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dim ond 640 hectar o goetir a gr毛wyd y llynedd 鈥 ychydig dros 12% o darged blynyddol Llywodraeth Cymru o 5,000.

Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr gydag elusen amgylcheddol WWF Cymru: 鈥淢ae natur yn dda iawn yn adfer ei hun.

"Felly weithiau os ydyn ni鈥檔 gadael natur i wneud ei waith mi fydd o鈥檔 dod yn 么l i lefydd lle mae diwydiannau wedi bod, neu dir amaeth sydd wedi mynd yn hesb.

鈥淢ae natur yn gallu dod yn 么l hyd yn oed heb lot o waith gan bobl.

"Ond os oes gyda ni鈥檙 adnoddau i roi i waith fel yma, gorau oll.鈥

Pynciau cysylltiedig