Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau wardiau ysbyty eto i 'ail-arolygu' concrit diffygiol
- Awdur, Elen Davies
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Bydd wardiau ysbyty a gafodd eu cau oherwydd concrit diffygiol RAAC y llynedd yn gorfod cau eto er mwyn cwblhau gwaith "ail-arolygu".
Fis Ebrill eleni cafodd chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd - hanner wardiau鈥檙 ysbyty - eu hailagor yn dilyn cyfnod ar gau.
Mae'r bwrdd iechyd nawr yn dweud y bydd y wardiau yn gorfod cau eto ddiwedd y flwyddyn, a hynny dros dro er mwyn cwblhau'r gwaith.
Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd yn rhaid rheoli ac arolygu鈥檙 RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg yn barhaus am oes yr adeilad.
Dros flwyddyn yn 么l, cafodd "digwyddiad mawr mewnol" ei gyhoeddi yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro wedi i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yno.
Cafodd rhai cleifion eu symud, wrth i chwe ward ar ail lawr yr ysbyty orfod cau.
Cafodd ardaloedd fel adeilad 鈥楢鈥 ar gyfer clinigau cleifion allanol, y gegin, yr ardal therap茂au, y fferyllfa a鈥檙 ardal gofal brys yr un diwrnod hefyd eu heffeithio gan y RAAC.
Fis Ebrill eleni, cafodd wardiau a oedd wedi cau oherwydd RAAC eu hailagor.
Mae鈥檙 nyrs, Sarah Davies yn gweithio ar un o鈥檙 wardiau hynny.
鈥淣i mor falch i fod n么l. Ni wedi dod gartre鈥,鈥 meddai.
鈥淥鈥檇d e鈥檔 eitha鈥 galed pan o鈥檔 i ar wardiau arall achos s鈥檇im byd yn clicio.
"Ni 'di dod n么l a ma鈥 popeth jyst wedi mynd n么l fel o鈥檇d e. Mae e鈥檔 neis i glywed s诺n 'ma o鈥檙 diwedd.鈥
Mae Lea Jones, sy鈥檔 gweithio fel arweinydd clinigol, hefyd yn falch o weld y wardiau yn 么l ar agor.
鈥淢ae e yn gysur鈥 meddai, 鈥渙nd erbyn hyn, ni鈥檔 wynebu鈥檙 gaeaf hefyd, ni鈥檔 mynd i gael winter pressures hefyd so mae鈥檔 bwysig bod y wards 鈥榤a ar agor ar ein cyfer ni.
"Mae e鈥檔 lot well na beth oedd e, beth bynnag.鈥
Mae鈥檙 rhan fwyaf o glinigau cleifion allanol a gafodd eu symud i leoliadau arall ar y pryd, wedi dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg ers mis Gorffennaf.
Mae鈥檙 gegin, a oedd hefyd wedi gorfod cau, bellach ar agor.
Yn 么l y bwrdd iechyd, mae disgwyl i鈥檙 ardal therap茂au agor ganol mis Tachwedd fel y disgwyl, ac fe ddylai鈥檙 ardal gofal brys yr un diwrnod fod yn weithredol erbyn yr un amser hefyd.
Mae disgwyl i'r gwaith ar y fferyllfa ddechrau ym mis Tachwedd, a chael ei gwblhau o fewn y mis.
Ond mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i鈥檙 wardiau a gafodd eu heffeithio gau eto dros dro tra bydd gwaith ail-arolygu yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn hon ac i fewn i 2025.
Er ei bod yn falch dychwelyd i'r wardiau, dywedodd y nyrs Sarah Davies ei bod hi'n "teimlo鈥檔 iawn" am orfod eu cau eto.
鈥淵 bobl sy鈥檔 bwysig i ni yw鈥檙 cleifion. Bydd hynny ddim yn effeithio ar y gofal fyddan nhw鈥檔 ei gael mewn ardal arall,鈥 meddai.
Mae'r gwaith o adfer llawr gwaelod yr ysbyty yn parhau ers darganfod RAAC am y tro cyntaf yna dros flwyddyn yn 么l.
Gobaith y bwrdd iechyd yw gorffen y gwaith hwn fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mi fydd ail-arolygon ar y llawr hwnnw yn cael eu cynnal yn ystod 2025 ac i mewn i 2026.
RAAC 'ddim yn mynd i ddiflannu'
Wrth gyfeirio at y gwaith ail-arolygu, dywedodd Malcolm Arnold, rheolwr ystadau Ysbyty Llwynhelyg: 鈥淢ae鈥檔 broses y mae angen i ni fynd drwyddi.
鈥淢ae'n rhaid i ni archwilio'r paneli. Dim ond y paneli argyfyngus y gwnaethom ni drwsio.
"Ni chafodd pob panel eu trwsio, felly mae鈥檔 rhaid i ni fynd i mewn i edrych ar y paneli hynny a gwneud yn si诺r nad ydym wedi cael unrhyw ddiraddiad yn y cyfnod hwnnw o 12 mis.鈥
Wrth ei holi a fyddai鈥檙 ysbyty yn delio 芒 choncrit diffygiol RAAC tu hwnt i 2026, dywedodd mai dyna'r achos.
"Mae鈥檔 rhywbeth sydd ddim yn mynd i ddiflannu, byth. Bydd yn rhaid i ni reoli ac arolygu鈥檙 RAAC yn barhaus am oes yr adeilad.鈥
Mae prif swyddog gweithredu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Andrew Carruthers yn pwysleisio, fodd bynnag, y bydd y gwaith ail-arolygu "ddim byd tebyg" i raddfa鈥檙 newidiadau a fu dros y flwyddyn ddiwethaf.
鈥淢i fyddwn ni鈥檔 gwneud hynny un ardal ar y tro, felly ardaloedd bach o鈥檙 cyfleuster fydd yn cael eu had-leoli, am gyfnod byr iawn o amser,鈥 meddai.
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 bendant dros y gwaethaf nawr. Ry鈥檔 ni wedi dychwelyd y rhan fwyaf o wasanaethau yn 么l i鈥檙 safle.
"Gyda鈥檙 gwaith arolygu, mae wastad elfen o unknown.
"Am nawr, o safbwynt y bwrdd iechyd a鈥檙 ysbyty, ry鈥檔 ni鈥檔 mynd i orfod trin hyn fel mater 鈥榖usnes fel yr arfer鈥, ac un y byddwn ni鈥檔 parhau i fonitro a gweithio gyda am y misoedd a鈥檙 blynyddoedd sydd i ddod.鈥
'Cynnydd ardderchog'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo 拢12.8m i barhau i wneud gwaith arolygu a gwneud gwaith adfer mewn mannau y mae RAAC yn effeithio arnynt yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd llefarydd bod 鈥渃ynnydd ardderchog鈥 wedi鈥檌 wneud ar y safle.
Hyd yma, mae RAAC helaeth wedi'i nodi mewn dau ysbyty yng Nghymru - Ysbyty Llwynhelyg ac ardaloedd lle nad oes cleifion yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Mae gwaith lliniaru wedi'i gynnal yn Ysbyty Nevill Hall hefyd, yn 么l Llywodraeth Cymru.