Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat芒d i osod 44 uned storio mewn clwb golff ar Ynys M么n
Mae cynllun i osod 44 uned storio mewn clwb golff ar Ynys M么n wedi cael ei gymeradwyo gan gynghorwyr am yr eilwaith - er gwaethaf gwrthwynebiad swyddogion cynllunio.
Roedd swyddogion y cyngor wedi rhybuddio y byddai鈥檙 unedau yn Rhosneigr yn ychwanegu 鈥渆lfen ddiwydiannol鈥 i ardal gefn gwlad agored sy鈥檔 denu twristiaid.
Fel arfer, pan fydd cyngor yn cymeradwyo cynllun heb gefnogaeth y pwyllgor cynllunio, rhaid trafod y cais eto o fewn mis.
Yn yr achos yma, cafodd y cynllun ei gymeradwyo unwaith eto mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Yn y cais cynllunio gwreiddiol, dywedodd y clwb fod y caniat芒d yn hanfodol i sicrhau dyfodol y clwb, sydd wedi bodoli ers dros ganrif.
鈥淢ae鈥檙 clwb, yn dilyn effaith Covid-19, wedi gweld dirywiad enbyd mewn aelodaeth ac incwm," meddai'r cais.
"Mae'n rhesymol datgan os bydd y datblygiad, sy'n arwain at y ffynhonnell yma o incwm wrth rentu'r unedau storio, yn cael ei wrthod yna mae'n debygol iawn y bydd y clwb yn dod i ben. Mae'n hollbwysig i'w fodolaeth."
'Arallgyfeirio鈥檔 hanfodol'
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru, croesawodd Berwyn Owen, cyn-gapten y clwb, y penderfyniad.
"Roedd y siaradwyr yn y pwyllgor yn siarad yn gall yn fy marn i, gan gydnabod nad yw鈥檙 safle yng nghefn gwlad, ond yn dir llwyd sy鈥檔 addas iawn ar gyfer y math yma o ddatblygiad," meddai.
Ychwanegodd Mr Owen y byddai鈥檙 unedau storio yn darparu incwm hanfodol i helpu鈥檙 clwb i oroesi鈥檙 argyfwng ariannol, gyda鈥檙 clwb yn wynebu risg o gau a cholli pum swydd.
"Mae arallgyfeirio鈥檔 hanfodol i glybiau golff ar draws y wlad. Mae costau ynni, staff, a chynnal a chadw peiriannau i gyd yn codi.
鈥淔elly, os oes ffordd i wneud incwm ychwanegol heb niweidio neb, dylid cefnogi hynny."
Wedi'i leoli 150m i ffwrdd o ffin datblygu Rhosneigr, dywedodd y'r uwch swyddog cynllunio, Rhys Jones, fod rhaid i'r safle gael ei ystyried fel "cefn gwlad agored".
Ychwanegodd bod y safle mewn "gosodiad agored," yn agored i wyntoedd cryfion ac aer hallt, a byddai plannu yn cael ei "rwystro", gan olygu y byddai'r safle yn "weledol amharu am gyfnod hir鈥.
Er iddo gydymdeimlo 芒 sefyllfa ariannol y clwb, a chydnabod ei fod yn "ased pwysig i'r gymuned" - nid oedd hyn yn goresgyn pryderon cynllunio.
Er hynny, cafodd y cynllun ei gymeradwyo, mewn pleidlais a gafodd saith o bleidleisiau o blaid a thri yn erbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans fod y clwb yn rhan bwysig o鈥檙 鈥渃ynnig twristiaeth ar Ynys M么n鈥 ac ychwanegodd nad oedd carafanau 鈥測n wahanol iawn i gynwysyddion.鈥
Ychwanegodd y Cynghorydd Jeff Evans: "Dylem fod yn edrych i helpu'r clwb, nid ei gau i lawr.
"Dwi ddim yn credu ei fod yn gefn gwlad agored, fel bryniau a dyffrynnoedd, ond da ni'n s么n am lle ger carafanau, gwersyll RAF, busnesau a thai, dim cefn gwlad agored."
Ond roedd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones o'r farn nad oedd y cynllun hwn yn 鈥渇fordd briodol鈥 i helpu鈥檙 clwb.
Ymatebodd Mr Owen drwy nodi: "Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio eisoes i storio cynwysyddion eraill. Rydym yn cynnig cynllun tirlunio a fyddai鈥檔 cuddio鈥檙 unedau newydd yn llwyr."